Seminarau 2023 Llefydd Newid Hinsawdd
Mae bridio reis wedi cyfrannu at gynnydd cyson mewn cynhyrchiant grawn byd-eang dros y 50 mlynedd diwethaf. Mae'r pwyslais wedi symud yn ddiweddar o wella maint y cnwd i addasu i straen amgylcheddol a datblygu ymwrthedd i blâu a chlefydau. Mae amrywiaeth reis newydd yn dod â manteision i ffermwyr reis a buddiolwyr eraill yn y gadwyn gyflenwi. Mae gwella mathau o reis persawrus yn flaenoriaeth fawr mewn llawer o wledydd sy'n tyfu reis oherwydd bod eu gwerth yn y farchnad yn fwy na gwerth mathau o reis nad ydynt yn rhai persawrus. Dechreuodd reis Basmati fel arbenigedd lleol yn y Punjab ac mae bellach wedi dod yn nwydd a werthir yn fyd-eang. Mae bridwyr yn India a Phacistan yn datblygu mathau newydd o reis Basmati, a gallai llawer ohonynt gael eu marchnata'n rhyngwladol. Mae rheoleiddwyr wedi cymeradwyo mathau penodol y gellir eu gwerthu wedi eu labelu fel Basmati ac maent wedi gosod terfyn ar faint o gynhyrchion nad ydynt yn fathau Basmati a ganiateir mewn cynhyrchion Basmati. Bydd y cyflwyniad hwn yn sôn am fy mhrofiad o ddadansoddi olion bysedd DNA reis Basmati ar gyfer dilysu a bridio ac yn trafod materion polisi sy'n ymwneud â'i burdeb.
Fe ddefnyddion ni ddull cymysg o weithredu a hwnnw wedi’i lywio gan Theori Actor-Rhwydwaith (yn seiliedig ar y fateroliaeth newydd) i ddeall yn well bwysigrwydd cysylltiad(au) diwylliannol y trigolion lleol â mannau penodol ar yr arfordir. Gobeithiwn y bydd yr wybodaeth hon yn helpu rhagweld pa mor debygol yw pobl o gefnogi neu wrthsefyll newidiadau arfaethedig i’r dirwedd.
Dyddiad: Dydd Mercher, 13 Medi
Amser: 12:10pm – 1:00pm
Lleoliad: Arlein (Teams)
Cyswllt: Dr Corinna Patterson
Mae'r digwyddiad hwn nawr wedi ei ohirio. Mwy o wybodaeth i ddilyn.
Tra bod newid yn yr hinsawdd yn digwydd yn fyd-eang, mae’n rhywbeth y gellir ei deimlo’n lleol, yn y mannau lle'r ydym yn byw ac yr ydym yn teimlo'n gysylltiedig â hwy. Mae dulliau gweithredu seiliedig ar le felly yn hanfodol i liniaru effeithiau’r hinsawdd yn effeithiol. Yn y seminar hwn, byddaf yn adrodd am ganfyddiadau perthnasol am ymgysylltiad cymunedol a chanfyddiadau am weithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn lleol, sydd wedi deillio o ddau broject byr: y naill yn dadansoddi gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd ar lawr gwlad a’r llall yn ymwneud ag ymyriadau o’r brig i lawr.
Yn rhan gyntaf y cyflwyniad, byddaf yn trafod astudiaeth gydweithredol ddiweddar gyda GwyrddNi, mudiad o fentrau cymdeithasol sy’n cydweithio i rymuso cymunedau i gyflawni’r camau sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r argyfwng yn yr hinsawdd. Aeth ein hastudiaeth i'r afael â deinameg gymdeithasol a chyfathrebol cynulliadau cymunedol gan gynnwys yr heriau cysylltiedig a sut gall cymorth academaidd helpu i sefydlu arferion gorau drwy gydweithio ar ymchwil.
Nesaf, bydd y drafodaeth yn troi at broject diweddar mewn partneriaeth â Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas Unedig a Chyngor Sir Ddinbych, a oedd yn ystyried canfyddiadau cymunedol o ymyriadau mannau gwyrdd newydd yn y Rhyl trwy wahodd trigolion i rannu eu barn am newidiadau amgylcheddol yn eu hardal leol.
Byddaf yn trafod y ffyrdd y gellir gwella ymgysylltiad â’r hinsawdd drwy fanteisio ar drafodaethau cymunedol lleol a threftadaeth ddiwylliannol, gan blethu gweithredu hinsawdd yn y naratifau cymunedol ehangach sydd wedi eu gwreiddio mewn ymlyniad a phryder am yr ardal leol a chynefin pobl. Bydd gwaith yn y dyfodol yn mynd i'r afael â’r graddau y gellir cyffredinoli’r canfyddiadau hyn ar draws ardaloedd, gan nodi egwyddorion cyffredinol sy'n cymell ac yn grymuso cymunedau i ymgysylltu.