Darnau arian punt

Staff PloCC

Yr Athro Thora Tenbrink

a portrait image of Thora-Tenbrink

Adran Ieithyddiaeth

E-bost: t.tenbrink@bangor.ac.uk

Geiriau allweddol: Iaith lle, dadansoddi disgwrs gwybyddol, ymlyniad at le, newid yn yr hinsawdd, agweddau

Mae Thora Tenbrink yn Athro Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor, sy'n defnyddio dadansoddiad ieithyddol i ddeall sut mae pobl yn meddwl. Mae’n  awdur “Cognitive Discourse Analysis: An Introduction” (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2020) a “Space, Time, and the Use of Language” (Mouton de Gruyter, 2007), cyd-olygydd tri llyfr ar gynrychiolaeth ieithyddol a deialog, ac mae wedi cyhoeddi tua 40 o erthyglau mewn cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid ym meysydd iaith a gwybyddiaeth.

Mae Dadansoddi Disgwrs Gwybyddol (CODA) yn golygu dadansoddi data iaith a gesglir mewn perthynas â meddwl, megis cynrychioliadau meddyliol o olygfeydd neu ddigwyddiadau, neu brosesau datrys problemau cymhleth. Mae ymchwil Tenbrink yn defnyddio'r fethodoleg mewn amrywiaeth eang o brojectau rhyngddisgyblaethol, yn rhychwantu senarios syml yn ogystal â rhai cymhleth iawn, ac yn cynnwys mathau amrywiol o ddata iaith fel protocolau meddwl yn uchel, sylwadau ysgrifenedig, deialog, a llawer mwy.

Yn fwy diweddar mae ei ffocws wedi symud o iaith ofodol i iaith lle, yn enwedig mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd ac agweddau tuag at ddiogelu’r lleoedd lle rydym yn byw. Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd yn fyd-eang ond caiff ei deimlo’n lleol, gan ysgogi'r angen am ddadansoddiad systematig o gynrychiolaeth ieithyddol o le/lleoedd mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd, fel rhan o ddisgwrs gyhoeddus a phersonol, ac mewn perthynas ag ymgysylltiad lleol.

http://knirb.net

https://www.bangor.ac.uk/languages-literatures-and-linguistics/staff/thora-tenbrink/en

Dr Hayley Roberts

a portrait image of Dr Hayley-Roberts

Ysgol y Gyfraith

E-bost: Hayley.roberts@bangor.ac.uk

Geiriau allweddol: Cyfraith y môr; cyfraith ryngwladol; polisi cefnfor; treftadaeth ddiwylliannol; treftadaeth danfor

Mae Dr. Hayley Roberts yn gyfreithiwr rhyngwladol sy’n arbenigo yng nghyfraith y môr. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio'n fras ar warchod treftadaeth ddiwylliannol danddwr, amgylchedd y môr a chyfraith y môr a newid hinsawdd. 

Yn ddiweddar mae Hayley wedi arwain project AHRC/GCRF ar ymgorffori treftadaeth ddiwylliannol y môr yng Nghynllun Addasu Cenedlaethol Tanzania ar gyfer newid yn yr hinsawdd, a allai ddarparu buddion economaidd a diwylliannol i gymunedau arfordirol, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer twristiaeth gynaliadwy, trwy greu'r potensial i ddenu cefnogaeth ariannol o gronfeydd rhyngwladol. Mae Hayley hefyd yn Is-gadeirydd Bwrdd Comisiynwyr Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ac mae’n aelod o Bwyllgor Cenedlaethol y DU ar gyfer Degawd Cefnforoedd y Cenhedloedd Unedig o Wyddorau’r Eigion ar gyfer Datblygu Cynaliadwy. 

Mae gan Hayley ddiddordeb mewn sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar dreftadaeth ddiwylliannol a sut mae hyn yn bwydo i mewn i gyfraith a pholisi. Mae ganddi ddiddordeb hefyd yn effaith newid yn yr hinsawdd ar y cefnfor yn ehangach, er enghraifft, colli tiriogaeth y môr/tir oherwydd bod lefelau'r môr yn codi, ac a all fframweithiau cyfreithiol rhyngwladol roi sylw boddhaol i’r sefyllfaoedd hyn. 

https://www.bangor.ac.uk/law/staff/hayley-roberts/cy

Yr Athro Yener Altunbas

a portrait image of Prof Yener-Altunbas

Ysgol Busnes Bangor

E-bost: y.altunbas@bangor.ac.uk

Geiriau allweddol: Effeithlonrwydd a gwytnwch y system Bancio; Rheoleiddio; Dadansoddiad o'r farchnad stoc; Economeg ranbarthol; Newid yn yr hinsawdd.

Mae'r Athro Yener Altunbaş yn facro-economegydd ac Athro Economeg yn Ysgol Busnes Bangor, mae wedi bod yn swydd hon ers 2007. Mae hefyd yn ymgynghorydd i'r ECB a'r BIS. Ar hyn o bryd, mae'r Athro Altunbaş yn cydweithio ar brojectau ymchwil gydag ymchwilwyr yn y Gronfa Ariannol Ryngwladol. Mae’n awdur nifer o erthyglau ar strwythur ac effeithlonrwydd marchnadoedd bancio, ac mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys: astudio banciau Ewropeaidd, effeithlonrwydd, dadansoddiad o'r farchnad stoc, llywodraethu corfforaethol, astudiaethau etholiadol, economeg ranbarthol, economeg drefol, a bioleg môr.

Mae rhan hanfodol o'i ymchwil yn canolbwyntio ar newidiadau yn yr hinsawdd a materion amgylcheddol sy'n gysylltiedig â'r system ariannol. Ar hyn o bryd mae'n ymwneud â phroject MSCA-IF a luniwyd i ymchwilio i ran y system bancio yn cyflawni system economaidd gynaliadwy a gwyrdd gan ystyried y materion amgylcheddol a hinsawdd cynyddol. Mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr ECB, mae hefyd yn cymryd rhan mewn project i archwilio effaith cynlluniau rheoleiddio gwyrdd ym maes bancio ar y llif credyd i gorfforaethau sy’n llygru. Mae hefyd yn cynnal ymchwil ar y cyd i archwilio swyddogaeth swyddogion llywodraeth leol Tsieina mewn perthynas â maint dyledion a’u prisio i ddiwydiant sy'n rhoi sylw i’r amgylchedd.

https://www.bangor.ac.uk/staff/business/yener-altunbas-008578/cy

 

Dr Sopan Patil

A portrait image of Dr Sopan Patil

Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol

E-bost: s.d.patil@bangor.ac.uk

Geiriau allweddol: Hinsawdd y dyfodol; newid defnydd tir; ynni dŵr; perygl

Mae Dr Sopan Patil yn Ddarlithydd mewn Modelu Dalgylch ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Lleoliadau Newid Hinsawdd ym Mhrifysgol Bangor. Cyn ymuno â Phrifysgol Bangor, gwnaeth PhD mewn Hydroleg a Pheirianneg Adnoddau Dŵr yn Georgia Institute of Technology, UDA a chymrodoriaeth ôl-ddoethurol ORISE yn Environmental Protection Agency yr Unol Daleithiau. Mae ymchwil Sopan yn canolbwyntio ar ddeall sut y bydd newid hinsawdd a defnydd tir yn effeithio ar ymateb hydrolegol basnau afonydd a meintioli gwytnwch gwasanaethau ecosystemau cysylltiedig a photensial cynhyrchu ynni dŵr. Mae wedi arwain projectau ymchwil sy'n canolbwyntio ar ddefnyddio modelu sampl mawr, Rhyngrwyd Pethau, a thechnegau dysgu peirianyddol i gefnogi penderfyniadau rheoli ar gyfer cynhyrchu ynni dŵr rhediad yr afon a lliniaru perygl llifogydd. Trwy'r projectau hyn, mae wedi cymryd rhan mewn ymchwil cydweithredol a gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth gyda nifer o sefydliadau allanol. Mae Sopan yn aelod o fwrdd golygyddol y Journal of the American Water Resources Association ac yn aelod o Goleg Adolygu Cymheiriaid Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol. 

https://www.bangor.ac.uk/staff/natural-sciences/sopan-patil-096948/en 

 

Yr Athro Louise M. Hassan

a portrait image of  Prof louise-hassan

Adran Marchnata, Ysgol Fusnes Birmingham

E-bost: l.hassan.1@bham.ac.uk  

Mae Dr Louise Hassan (蕭永真) yn seicolegydd defnyddwyr sydd â diddordeb arbennig mewn defnydd cyfrifol gan gynnwys deall dewisiadau defnydd peryglus a phenderfyniadau defnyddwyr ynghylch moeseg a dewisiadau cynaliadwy. Mae ganddi ddiddordeb hefyd mewn prosesu gwybodaeth a pherswâd gan gynnwys y ffordd orau o ddefnyddio offer megis rhybuddion cynnyrch i hysbysu defnyddwyr. Mae wedi gwneud projectau sy'n gwerthuso ymyriadau polisi fel gwerthuso'r broses o gyflwyno deddfwriaeth ddi-fwg yn yr Alban a gwerthuso ymgyrch HELP yr Undeb Ewropeaidd – ar gyfer bywyd heb dybaco. Ar hyn o bryd mae'n gwneud project a ariennir yn rhyngddisgyblaethol (dros £450k) yn archwilio materion cynaliadwyedd o ran dewisiadau defnyddwyr i wisgo mwgwd. Mae ymchwil Louise gan amlaf yn mabwysiadu methodolegau meintiol o ystyried ei chefndir ystadegau, ond mae hefyd yn cynnwys methodolegau ansoddol yn ei gwaith ymchwil. 

Mae Louise wedi cyhoeddi mewn ystod eang o gyfnodolion ar draws y meysydd marchnata ac iechyd y cyhoedd, gan gynnwys British Journal of Management, Journal of Business Ethics, Journal of Business Research, European Journal of Marketing, Psychology and Marketing, Tobacco Control, ac European Journal of Public Iechyd. 

https://www.birmingham.ac.uk/staff/profiles/business/hassan-louise.aspx   

https://scholar.google.com/citations?user=l8HsXlkAAAAJ  

 

 

Yr Athro Simon Willcock

a portrait image of Prof Simon-Willcock

Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol

E-bost: s.willcock@bangor.ac.uk

Geiriau allweddol: Gwasanaethau ecosystemau; Cyfraniadau natur i bobl; Trobwyntiau; Newid yn yr hinsawdd; Cynaliadwyedd  

Mae'r Athro Simon Willcock yn wyddonydd rhyngddisgyblaethol, sy'n awyddus i gynhyrchu allbynnau yn y byd go iawn y gellir eu defnyddio mewn nifer o gyd-destunau polisi a busnes. Mae ei ddiddordebau penodol yn canolbwyntio ar y rhyngweithio rhwng pobl a natur, yn y DU a thramor.

Mae projectau Simon yn amrywio ar draws y gwyddorau caled i'r celfyddydau (e.e. gyda grantiau blaenorol gan GCRF, NERC, ESRC, ac AHRC), ond maent yn canolbwyntio ar wasanaethau ecosystemau (cyfraniadau natur i bobl) a defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol mewn ardaloedd gwledig a threfol. I wneud hyn, mae'n defnyddio dulliau arloesol, fel ffonau clyfar a dysgu peirianyddol. Er enghraifft, roedd ei broject  MobilES a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol yn defnyddio ffonau clyfar (trwy ddull 'microdaliadau am ficrodata') i gynnal arolygon wythnosol ar wasanaethau ecosystemau (yn cynnwys cwestiynau ar ddiogelwch bwyd a dŵr, effaith yr hinsawdd, defnyddio adnoddau naturiol).

Mae gan Simon ddiddordeb mewn cynyddu gwyddorau cymdeithas i gael gwell dealltwriaeth o’r buddion y mae pobl yn eu cael o fyd natur, a sut y gallai hyn newid gyda hinsawdd sy'n newid.

https://msds.tools/

https://www.bangor.ac.uk/staff/natural-sciences/simon-willcock-123839/cy

 

Dr Corinna Patterson

a portrait image of  Dr  Corinna-Patterson

Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas

E-bost: c.patterson@bangor.ac.uk

Geiriau allweddol: Globaleiddio, cymdeithaseg amgylcheddol, Cymuned, hunaniaeth, grymuso dinesig   

Mae Dr Corinna Patterson yn Ddarlithydd mewn Cymdeithaseg, gyda diddordeb arbennig mewn globaleiddio, cymuned dinasyddiaeth, hunaniaeth, cydraddoldeb, 'hil', Cymdeithaseg amgylcheddol, a geo-wleidyddiaeth. Roedd ei PhD yn canolbwyntio ar wybodaeth ddinesig leol a byd-eang, ymgysylltu a grymuso, gan edrych hefyd ar berthynas pobl â lle, 'cymuned' a syniadau o berthyn.

Mae Corinna hefyd wedi cymryd rhan mewn project ymchwil WISERD sy'n edrych ar gymdeithas sifil yng Ngogledd Orllewin Cymru, gan archwilio perthynas pobl â lle a chymuned.

Ar hyn o bryd mae Corinna yn Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i’r Ysgol ac mae hi wedi datblygu modiwl trydedd flwyddyn o'r enw 'Newid Hinsawdd a Gwleidyddiaeth Amgylcheddol'. Roedd hi hefyd yn brif oruchwyliwr PhD a ariennir gan KESS II sydd bellach wedi’i gwblhau’n llwyddiannus, yn archwilio effaith gymdeithasol cynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol ledled Cymru.

https://www.bangor.ac.uk/staff/history-law-social-sciences/corinna-patterson-000063/cy

 

Liz Morris-Webb

a portrait image of  Liz Morris-Webb

Ysgol Gwyddorau Eigion

E-bost: L.Morris-Webb@bangor.ac.uk 

Geiriau Allweddol: ecoleg môr, gweithgareddau arfordirol, cysylltiad natur, lles dynol, ymdeimlad o le / perthyn, cadwraeth, polisi.

Mae Dr Liz Morris-Webb yn Ymchwilydd Ôl-ddoethurol rhyngddisgyblaethol mewn dimensiynau dynol amgylchedd y môr. Gyda dwy flynedd ar bymtheg fel ecolegydd môr, mae ymchwil Liz wedi'i hysbrydoli gan ddatrys penblethdodau cadwraeth rhwng pobl, natur a lle gan dynnu ar wyddorau cymdeithas. Mae ganddi ddiddordeb mewn sut a pham mae pobl yn rhyngweithio â'r amgylchedd, a sut y gellir meithrin y cysylltiadau hyn â natur i adeiladu cymunedau arfordirol, amgylcheddau a pholisïau cadwraeth mwy gwydn. 

Mae Liz yn ymchwilio i sut mae pobl yn dibynnu ar eu harfordiroedd, am eu hunaniaeth, synnwyr o le a llesiant ehangach. Roedd ei PhD a ariannwyd gan KESS2 yn cysylltu cymhellion rhai sy’n twrio am fwyd a chasglwyr arfordirol â’u lles: ar gyfer anghenion sylfaenol, ymdeimlad o le, perthyn ac ar gyfer dimensiynau llesiant trwy brofiad. Ers hynny mae wedi bod yn gweithio gyda chasglwyr adnoddau arfordirol, pysgotwyr, cychwyr hamdden a’r gymuned arfordirol ehangach i ymchwilio i’w cysylltiad â natur a’u llythrennedd cefnforol, a sut mae hyn yn dylanwadu ar eu hunaniaeth, synnwyr o le, ymddygiad a’u llesiant. 

https://www.bangor.ac.uk/staff/ocean-sciences/liz-morris-webb-021688/cy

 

Jago Williams

Portrait image of Jago Williams

Adran Ieithyddiaeth 

E-bost: elu37c@bangor.ac.uk

Geiriau allweddol: iaith lle, dadansoddi disgwrs gwybyddol, cysylltiadau â lleoedd, dwyieithrwydd 

Mae Jago Williams yn ymchwilydd ôl-radd mewn Ieithyddiaeth. Mae wedi cyd-ysgrifennu dau bapur mewn cyfnodolion ar iaith ymlyniad i leoedd (‘platial’) yn Gymraeg a Saesneg a’r agweddau at newid hinsawdd a fynegir ar Twitter. Mae ganddi ddiddordeb mewn archwilio lle fel cydberthynas gymdeithasol-wybyddol gofod, a defnyddio cliwiau ieithyddol i integreiddio gwybodaeth o ddata iaith naturiol i ymchwil rhyngddisgyblaethol i le. 

Ar hyn o bryd, mae’n gwneud PhD mewn dwyieithrwydd, gan arbenigo yn y rhyngwyneb cystrawen-semanteg ac ymresymu deallus mewn pobl ddwyieithog Cymraeg/Saesneg. Yn ogystal, mae'n gweithio fel cynorthwyydd ymchwil i Leoliadau Newid Hinsawdd a'r Tîm Ymchwil Agweddau at Iaith (L'ART). Ei blaenoriaethau yw hyrwyddo polisi cynllunio ieithyddol ar sail tystiolaeth a chadw urddas cyfranogwyr ymchwil sy’n agored i niwed. 

https://www.researchgate.net/profile/Jago-Williams-2 

https://scholar.google.com/citations?user=-nByy_0AAAAJ&hl=en 

 

Dr Morwenna Spear

a portrait image of Dr Morwenna Spear

Y Ganolfan Biogyfansoddion

E-bost: mjspear@bangor.ac.uk

Geiriau allweddol: Coed; Strwythurau; Carbon Ymgorfforedig; Hinsawdd y Dyfodol; Effeithlonrwydd Ynni

Mae Dr Morwenna Spear yn wyddonydd deunyddiau sy'n arbenigo mewn coed a deunyddiau bio-seiliedig. Mae llawer o'i phrojectau ymchwil yn edrych ar ymestyn oes ddefnyddiol coed trwy ddulliau diniwed i’r amgylchedd, neu wella ailddefnyddio ac ailgylchu cynhyrchion pren.

Mae Morwenna yn wyddonydd ymchwil ar broject y Ganolfan Ynni Effeithlon Craff, yn gweithio yn y pecyn gwaith Strwythurau Effeithlonrwydd Ynni i ystyried gostyngiadau o garbon ymgorfforedig a gweithredol, gwell effeithlonrwydd ynni a dyluniad adeiladau. Mae hefyd yn arwain projectau ymchwil sy'n datblygu technolegau newydd ar gyfer addasu neu brosesu coed, ac mae hi wedi cynnal nifer fawr o astudiaethau desg ar farchnadoedd coed, cynhyrchion coed sy'n datblygu, tueddiadau o ran tai, dulliau adeiladu modern, swyddogaeth deunyddiau bio-seiliedig mewn cymdeithas yn y dyfodol.

Mae gan Morwenna ddiddordeb mewn adeiladu perfformiad a modelu; rheoli hygrosgopedd a lleithder i wella effeithlonrwydd thermol ac ansawdd aer dan do; ac opsiynau ôl-ffitio ar gyfer stociau tai hŷn. Bydd yr adeiladau rydym yn eu hadeiladu yn awr yn dal i sefyll yn 2100, ac yn agored i hinsoddau gwahanol iawn. Mae angen dyluniadau gwydn, ond gan ddefnyddio systemau adeiladu a chyfuniadau deunyddiau sydd â charbon corfforedig is.

https://research.bangor.ac.uk/portal/en/researchers/morwenna-spear(ef39ac6d-2c05-4071-a54c-ec5be2993285).html

 

 

 

Dr Einir Young

a portrait image of  Dr Einir-Young

Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas

E-bost: e.m.young@bangor.ac.uk

Geiriau allweddol: cynaliadwyedd, lles, cenedlaethau'r dyfodol, twristiaeth adfywiol, cydweithredu

Mae Dr Einir Young yn wyddonydd naturiol; gwnaeth ei gyrfa cyn ymddeol o'i swydd fel Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor fynd â hi i nifer o wledydd, yn cynnwys America (UDA), Zimbabwe a'r gwledydd rhyngddynt (yng Ngorllewin, Dwyrain a de Affrica yn bennaf). Mae'r heriau sy'n wynebu pob cymuned yn debyg - yr angen i wleidyddion gymryd agwedd gyfannol tuag at yr amgylchedd, yr economi, cymdeithas a diwylliannau. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn darparu fframwaith ar gyfer gweithredu.

Mae Einir bellach yn canolbwyntio ar un project - LIVE, project a ariennir gan Interreg Cymru-Iwerddon dan arweiniad UC Cork. Hi yw'r Prif Ymchwilydd ar yr ochr yma i fôr yr Iwerddon, yn cydweithio â Chyngor Gwynedd a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a safleoedd treftadaeth ym Mhen Llŷn i gyd-ddatblygu #Ecoamgueddfa,, yr ecoamgueddfa gyntaf yng Nghymru a'r gyntaf yn y byd i gael ei datblygu’n ddigidol. Nod yr #ecoamgueddfa yw hyrwyddo twristiaeth adfywiol nid echdynnol, gan ddathlu sylfaen adnoddau naturiol, iaith, diwylliant a threftadaeth yr ardal tra’n datblygu economi leol gref sy'n galluogi pobl i barhau i fyw yn eu cymunedau.

Mae'n Gyfarwyddwr Ynni Cymunedol Cymru ac Ynni Llŷn; mae'n ddirprwy Gadeirydd yr Academi Heddwch ac yn aelod o'r Comisiwn Annibyniaeth.

https://www.ecoamgueddfa.org 

 

 

Dr Atiqur Khan

a portrait image of  Dr  Atiqur-Khan

Ysgol Busnes Bangor

E-bost: a.khan@bangor.ac.uk

Geiriau allweddol: Gwytnwch y system bancio; Rheoliad; Rheoli risg; Cyllid gwyrdd; Newid yn yr hinsawdd.

Mae Dr Atiqur Khan yn Uwch Gymrawd Ymchwil yn Ysgol Busnes Bangor. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio'n fras ar wytnwch y system ariannol (yn enwedig y sector bancio) mewn cysylltiad â rheoliadau, rheoli risg, cynaliadwyedd, newid yn yr hinsawdd a dynameg macro-economaidd. Ar hyn o bryd mae'n cydweithio ag ymchwilwyr mewn gwahanol sefydliadau gan gynnwys Prifysgol Birmingham, y DU; Prifysgol Deakin, Prifysgol Curtin, Awstralia; a Phrifysgol Xiamen, Malaysia.

Ar hyn o bryd mae Atiqur yn cymryd rhan mewn project Cymrodoriaethau Unigol Gweithrediadau Marie Skłodowska-Curie (MSCA-IF) gyda'r nod o archwilio swyddogaethau’r system bancio wrth drosglwyddo i system economaidd gynaliadwy a gwyrdd ar sail newid yn yr hinsawdd a materion amgylcheddol. Ar yr un pryd, mae'r project yn ymchwilio i wytnwch y system bancio yn ystod proses drosglwyddo o’r fath. Mae hefyd yn cymryd rhan mewn ymchwil ar y cyd sy'n archwilio swyddogaeth swyddogion llywodraeth leol ar y llif credyd at ddiwydiant ecogyfeillgar/anghyfeillgar yn Tsieina.

Mae diddordebau ymchwil Atiqur hefyd yn cynnwys ymchwilio i effaith macro-economaidd ynni adnewyddadwy. Bu'n gysylltiedig â phroject FRGS (a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Malaysia) i archwilio dichonoldeb economaidd biodiesel palmwydd a biodrydan; a'u heffaith ar allyriadau nwyon tŷ gwydr a’u storio, prisiau amaethyddol, cyflogaeth amaethyddol a datgoedwigo sy'n canolbwyntio ar sector amaethyddol Malaysia.

https://research.bangor.ac.uk/portal/en/researchers/atiqur-khan(c54335b9-ee36–4c45-b42a-657965076763).html

Dr Matt Lewis

a portrait image of  Dr  Matt-Lewis

Ysgol Gwyddorau'r Eigion

E-bost: m.j.lewis@bangor.ac.uk

Geiriau allweddol: Eigioneg; Ynni adnewyddadwy; newid yn yr hinsawdd; risg llifogydd; data amgylcheddol        

Eigionegydd yw Dr Matt Lewis, gyda chefndir mewn modelu systemau daear a digwyddiadau eithafol (e..e sut i ddefnyddio gwybodaeth o ddata modelau hinsawdd i ddeall risg yn y dyfodol?).

Mae Matt ar Rwydwaith Arbenigol Amgylchedd Digidol NERC, CoI i broject Gwytnwch Hinsawdd NERC UK ar risg llifogydd yn y dyfodol (NE/V004239/1) ac yn Gymrawd Ymchwil EPSRC ar ynni adnewyddadwy (EP/R034664/1). Yn y gorffennol, mae Matt wedi gweithio ar gyfieithu llên gwerin Maori i ddeall gwytnwch i risg tsunami a phroject a ariennir gan Lywodraeth Cymru “Redesigning Resilience: translating ancient knowledge for a resilient future”.

Mae gan Matt ddiddordeb mewn sut mae cymunedau yn cael eu heffeithio gan y tywydd, nid yr hinsawdd, a sut y gellir defnyddio'r wybodaeth hon i lywio gwytnwch i ddigwyddiadau eithafol - ond hefyd i ddarparu systemau ynni cynaliadwy a dibynadwy. Hoffai Matt archwilio syniadau o wella sut y gallwn gasglu data amgylcheddol (bioamrywiaeth neu amrywioldeb naturiol systemau), trwy gyfieithu caneuon, mapiau a mytholeg lafar; er enghraifft y data cudd sydd wedi ei ddibrisio o fewn traddodiadau ac arferion llafar, a all lywio cofnodion data amgylcheddol yn well

https://vimeo.com/514206498

https://www.bangor.ac.uk/staff/ocean-sciences/matthew-lewis-015723/cy

Dr Sara Parry

a portrait image of  Dr  Sara-Parry

Ysgol Busnes Bangor

Ebost: s.parry@bangor.ac.uk

Geiriau allweddol: Marchnata busnesau bach a chanolig, cyd-destun gwledig, ymlyniad wrth le, defnydd peryglus, defnyddwyr.  

Mae Dr Sara Parry yn Uwch Ddarlithydd mewn Marchnata yn Ysgol Busnes Bangor. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ymddygiad defnyddwyr mewn cyd-destunau cymdeithasol amrywiol, yn benodol ymddygiadau peryglus fel ysmygu a goryfed mewn pyliau. 

Mae diddordeb mewn ymlyniad, defnydd cynaliadwy, a sut y gellir defnyddio marchnata i greu newid cymdeithasol cadarnhaol wedi arwain Sara at fod yn aelod o Leoliadau Newid Hinsawdd. Ers hynny, mae wedi bod yn ymwneud â phrojectau rhyngddisgyblaethol cydweithredol gan gynnwys archwilio hunaniaeth lle pobl ifanc a’u hymlyniad i Dirwedd Llechi Cymru, Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ers 2021, a’u canfyddiadau o dwristiaeth gynaliadwy yng ngogledd Cymru. Mae gan Sara ddiddordeb hefyd mewn cyfathrebu newid hinsawdd a sut mae rhanddeiliaid lleol yn ymateb i brojectau ynni adnewyddadwy rhanbarthol. Mae wedi cynnal astudiaeth beilot yn ddiweddar i archwilio canfyddiadau trigolion Ynys Môn o 'Ynys Ynni' a datblygiadau isadeiledd ynni adnewyddadwy arfaethedig. 

https://www.bangor.ac.uk/staff/business/yener-altunbas-008578/cy

 

Dr Sonya Hanna

a portrait image of  Dr Sonya-Hanna

Ysgol Busnes Bangor

Ebost: s.hanna@bangor.ac.uk

Geiriau allweddol: brandio lleoedd a chyrchfannau, ymgysylltu â rhanddeiliaid, cyd-greu, ymdeimlad o le, ymlyniad wrth le.

Mae Dr Sonya Hanna yn Ddarlithydd mewn Marchnata yn Ysgol Busnes Bangor. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar le gan ystyried agweddau ar y broses brandio lle o wahanol safbwyntiau i gynnwys, brandio lle a chyrchfan, ymgysylltu â rhanddeiliaid, cyd-greu lle, a phensaernïaeth brand, ac yn fwy diweddar edrych ar gynaliadwyedd, twristiaeth gynaliadwy, a lleoedd a newid hinsawdd. Mae gan Sonya ddiddordeb mewn ehangu ei hymchwil i ystyried effeithiau newid yn yr hinsawdd a phrojectau seilwaith cysylltiedig ar randdeiliaid lleoedd a thwristiaid gan gynnwys eu rhyngweithio â lle, eu hymdeimlad o le a’u hymlyniad i le. 

Mae Sonya yn aelod o fwrdd rheoli’r Ganolfan Ymchwil ‘Lleoliadau Newid Hinsawdd’ yn y brifysgol, yn aelod o fwrdd golygyddol y Journal of Place Management and Development, ac yn aelod o bwyllgor gwyddonol yr International Place Branding Association (IPBA), yn ogystal â bod yn aelod panel sy’n cyfrannu o The Place Brand Observer. 

https://www.bangor.ac.uk/staff/business/sonya-hanna-000415/cy

Dr Norman Dandy

a portrait image of  Dr Norman-Dandy

Canolfan Syr Williams Roberts, Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol.

E-bost: n.dandy@bangor.ac.uk

Geiriau allweddol: cymdeithaseg amgylcheddol; daearyddiaeth; coedwigoedd; llywodraethu; tir

Mae Dr Norman Dandy yn Uwch Gymrawd Ymchwil sy'n gweithio yn y gwyddorau cymdeithas amgylcheddol. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar dir coedwig a bywyd gwyllt - yn benodol, y cysylltiadau gwleidyddol, moesegol a diwylliannol rhwng tir, pobl a rhywogaethau coedwig sy'n dylanwadu ar arferion rheoli. Ers y 10 mlynedd diwethaf mae wedi bod yn ymchwilio i ddimensiynau cymdeithasol plâu a chlefydau coed yn y DU, gan gynnwys sut mae rheolwyr coedwigoedd, 'llunwyr polisi' ac eraill yn ymateb i'r bygythiadau hyn.

Mae Norman yn Gyfarwyddwr Canolfan Defnydd Tir Cynaliadwy Syr William Roberts ym Mangor, ar ôl gweithio i'r Comisiwn Coedwigaeth (Ymchwil Coedwig) a Sefydliad Plunkett yn flaenorol. Nod y Ganolfan yw darparu fframwaith a fforwm ar gyfer gwyddor cynaliadwyedd rhyngddisgyblaethol ar y tir ledled y brifysgol ac mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allanol.

https://www.bangor.ac.uk/staff/natural-sciences/norman-dandy-472668/cy 
http://swrc.bangor.ac.uk/index.php.en
https://www.future-oak.com/

 

Ngoc Nguyen

a portrait image of Ngoc-Nguyen

Ysgol Busnes Bangor

E-bost: abp980@bangor.ac.uk

Geiriau allweddol: ymddygiadau cynaliadwy, gosod nodau, emosiynau, hunanreolaeth ac effaith trwyddedu.      

Ar hyn o bryd mae Ngoc Nguyen yn fyfyriwr PhD mewn Marchnata yn Ysgol Busnes Bangor, gyda disgyblaeth mewn ymddygiad defnyddwyr. 

Gweithiodd Ngoc yn flaenorol ar brojectau am gynaliadwyedd mewn twristiaeth a rheolaeth, er enghraifft, Addysg diogelu'r amgylchedd i fyfyrwyr twristiaeth, arbed gwastraff a photensial economi bio-seiliedig yn Fietnam. 

Yn ddiweddar, mae Ngoc wedi talu mwy o sylw ar ymddygiadau cynaliadwy o dan safbwyntiau defnyddwyr. Mae ei hymchwil bellach ar sut i newid ymddygiad defnyddwyr i fod yn fwy cynaliadwy trwy ymchwilio i yrwyr sy'n ymwneud â gosod nodau, emosiynau, hunanreolaeth ac effaith trwyddedu.  

https://www.bangor.ac.uk/staff/business/thi-hong-ngoc-nguyen-117872/en 

 

Dr Sofie Angharad Roberts

 

Portrait of Dr Sofie Angharad Roberts

Ysgol Gwyddorau Iechyd

Email: s.a.roberts@bangor.ac.uk

Geiriau allweddol: ymglymiad cymunedol; diwylliant; treftadaeth; llesiant; hunaniaeth.

Mae Dr Sofie Roberts yn Ymchwilydd ym Mhrifysgol Bangor. Mae ei phrojectau diweddar yn ymwneud â gwerthuso canfyddiadau cymunedol a’u rhan mewn projectau hinsawdd gyda’r nod o allyriadau carbon isel a chynaliadwyedd amgylcheddol, ac mae ganddi gefndir yn y sector carbon isel. Mae Sofie yn aelod o fwrdd rheoli Canolfan Ymchwil Lleoliadau Newid Hinsawdd ac mae hefyd yn aelod staff y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME). Mae ganddi ddiddordeb mewn mannau gwyrdd a lles a’r cysylltiad rhwng pobl iach a’r blaned, ac mae ei hymchwil yn ymwneud yn bennaf ag astudiaeth yng Nghymru. Cwblhaodd Sofie ei PhD yn y Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor yn 2022, gan ddadansoddi sinema Cymru y deng mlynedd ar hugain ddiwethaf trwy brism theori ôl-wladychiaeth. Mae’n siarad Cymraeg ac yn enedigol o Eryri.

https://www.bangor.ac.uk/staff/arts-culture-language/sofie-roberts-046273/cy

 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?