Dywedwch ychydig am eich profiad ym Mhrifysgol Bangor….
Mi oedd y dair blynedd wnes i dreulio ym Mhrifysgol Bangor o blith y gorau erioed. Yma ges i gyfle i ddysgu yr hyn oedd gen i wir ddiddordeb ynddo ac ehangu fy sgiliau. Mi oedd y brifysgol yn cynnig bob math o fodiwlau difyr a ges i gyfle i astudio meysydd hollol newydd. Roedd y gefnogaeth gan staff yn wych ac roeddwn yn teimlo eu bod wir yn rhoi y myfyrwyr wrth galon bob dim oedd yn digwydd. O ran yr ochr gymdeithasol, mi wnaeth Bangor gynnig cyfle imi gwrdd a ffrindiau oes, ac roedd yr Undeb Gymraeg (UMCB) yn cynnig profiadau bythgofiadwy; cyfleoedd i gymdeithasu, i fwynhau, i weithio ac i gwrdd a phobl newydd. Saff dweud dwi’n teimlo ges i’r profiad gorau posib ym Mangor.
Pam wnaethoch ddewis astudio ym Mhrifysgol Bangor?
Mi oedd Bangor bron a bod ar fy stepen drws, a fues i’n pendroni a ddylwn i fynd ymhellach o gartref. Ond ges i fy ysbrydoli gan angerdd y darlithwyr a’u harbenigedd. Roedd y darlithwyr yn frwdfrydig ac yn arbenigwyr yn eu meysydd, ac roedd hynny yn cael ei adlewyrchu yn safon yr addysg ges i. Bangor hefyd yw dinas Cymreigia’r byd bosib- felly lle gwell i ddod er mwyn cael byw mewn awyrgylch o ddiwylliant a iaith Gymraeg. Roedd y cyfuniad o safon yr addysg a’r cyfleoedd allgyrsiol a bywyd cymdeithasol yn golygu nad oedd angen imi feddwl yn galed iawn o le i ddod.
Sut mae eich gyrfa wedi datblygu ers i chi raddio o Brifysgol Bangor, a be yw eich swydd ar hyn o bryd? (gan gynnwys rhestr fer o swyddi nodedig)
Dwi ddim wir wedi mynd yn rhy bell o’r Brifysgol, yn llythrennol mae swyddfa’r BBC, lle dwi’n Uwch Ohebydd, rownd y gornel! Ac mae hynny yn beth braf gan dwi’n pasio brif adeilad y brifysgol bob dydd ac mae’n fy atgoffa o’r cyfleoedd ges i a sut arweiniodd hynny ata’ i’n derbyn y swydd dwi wrthi fy modd a. Fe ddechreuais i drwy ohebu i BBC Radio Cymru ar ôl gadael y Brifysgol. Dwi bellach yn gohebu ar draws gwasanaethau BBC Cymru yn y Gymraeg a Saesneg ac ar deledu, radio ac ar-lein. Fy mhrif ffocws bellach yw darganfod straeon gwreiddiol a gohebu i raglen Newyddion S4C. Mae’n swydd wych sy’n rhoi y cyfle imi gwrdd a phobl newydd a theithio i bob math o lefydd yng Nghymru a thu hwnt.
Mewn pa ffordd wnaeth astudio ym Mhrifysgol Bangor gwella eich cyflogadwyedd?
Yr hyn ddysgais o fod ym Mhrifysgol Bangor yw pwysigrwydd siarad a phobl. Drwy fy nghyfnod yn y brifysgol ges i gyfleoedd i weithio ar ddyddiau agored a gesi interniaeth byr yn trefnu ffair swyddi Cymraeg y brifysgol. Fe roddodd hynny'n cyfle imi fagu cysylltiadau a sgiliau newydd. Mae’r tim cyflogadwyedd yn gwneud gwaith gwych yn rhoi cymorth hefo ffurflenni cais a dwi’n annog unrhyw un i dderbyn yr help mae nhw’n cynnig. Mi fues i hefyd yn Olygydd y Llef, papur newydd Cymraeg y brifysgol ar y pryd a does na’m dwywaith fod hynny wedi gwella fy nghyfleoedd o fewn y sector wrth chwilio am waith. Mae ‘na lu o gyfleoedd, dim ond ichi fanteisio arnynt.
Pa gyngor byswch yn ei rhoi i fyfyrwyr sydd ar fin cychwyn astudio ym Mhrifysgol Bangor?
Er yn ddinas ac yn brifysgol gymharol fach, mae gan Bangor llwythi i gynnig ichi fel myfyriwr- dim ond ichi wneud yn fawr o’r cyfleoedd sydd ar gael! O ran yr ochr academaidd, mae’ch tiwtoriaid a darlithwyr o blith y gorau yn eu meysydd ac yn arbenigwyr. Gwnewch bob ymgais i ddysgu ganddyn nhw, i werthfawrogi eu hamser ac i ddysgu. Yn yr un modd mi gesi brofiadau bythgofiadwy gydag UMCB ar yr ochr gymdeithasol. Gwirfoddolwch, manteisiwch ar yr hyn sy’n cael ei gynnig. Mae werth trio unrhyw beth unwaith a dwi’n siŵr gewch chi brofiadau gwych. Mae Bangor, yn llythrennol, yn gorwedd rhwng y mor a’r mynydd- gwnewch yn fawr o’r ardal. Rhowch eich hun mewn sefyllfaoedd allai fod yn anghyffyrddus adegau a defnyddiwch y cyfnod unigryw yma i ddysgu pethau newydd.
Mewn un frawddeg, be oedd eich hoff beth am astudio ym Mhrifysgol Bangor?
Y bobl- boed hynny yn ffrindiau wnes i neu y staff a darlithwyr, dyma wnaeth roi y profiad unigryw a chyfoethog imi sy’n cadarnhau imi fod Prifysgol Bangor yn le unigryw ac arbennig.