Pam wnes i ddewis Bangor?
Mi wnes i ddewis Bangor am ei fod yn ddinas fach, gyda phob dim o fewn pellter cerdded. Er fod Bangor yn ddinas, mae o’n ddinas fwy gwledig ac rwyf yn berson sydd yn hoffi distawrwydd cefnwlad yn hytrach na phrysurdeb y ddinas. Mae cymdeithas glos yma ym Mangor, sydd yn debyg iawn i fywyd adref.
Y Cwrs
Yr hyn a ddenodd fwyaf i astudio Seicoleg ym Mangor oedd y ffaith bod y cwrs yn cynnig rhai modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg. Golyga hyn fy mod yn derbyn rhai o fy narlithoedd drwy gyfrwng y Gymraeg, ac hefyd rwyf gyda’r dewis personol i gwblhau unrhyw aseiniadau ag arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd hyn yn elfen bwysig wrth ymchwilio mewn i brifysgolion gan fy mod wedi derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ers oeddwn yn dair blwydd oed. Ystyriaf y ffaith fy mod yn ddwyiaethog i fod yn fraint, a credaf y bydd hyn yn sicr yn cynnig mwy o gyfleoedd imi pan yn ystyried swyddi yn y dyfodol agos. Yn ogystal, mae’r ffaith fod yr Ysgol Seicoleg ym Mangor ymhlith un o’r rhai gorau ym Mhrydain yn amlwg yn ysgogiad i unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudio’r pwnc. Rwy'n hollol hyderus fy mod yn cael y gorau o bob cyfle wrth imi astudio seicoleg ym Mangor.
Clybiau a Chymdeithasau
Rwyf yn rhan o undeb myfyrwyr Cymraeg Bangor sydd wedi rhoi llawer o gyfleoedd gwych imi wrth fyw yma ym Mangor. Rwyf yn rhan o’r côr lle rydym yn cystadlu yn flynyddol yn yr eisteddfodau lleol a rhanbarthol. Yn ogystal â hyn, rydym yn cynnal cyngherddau o bryd i’w gilydd er mwyn codi arian ar gyfer elusennau. Rwyf hefyd yn rhan o’r tîm pêl-rwyd UMCB lle rydym yn cael y cyfle i chwarae yn erbyn timau prifysgolion eraill. Rwyf yn hynod o ddiolchgar am y cyfleoedd mae UMCB wedi’i gynnig imi gan ei fod wedi helpu imi setlo fewn ym Mangor yn sydyn a gwneud ffrindiau newydd.
Y Lleoliad
Mae Bangor yn leoliad hynod o brydferth gyda rhai o atyniadau fwyaf poblogaidd Cymru dim ond lawr y ffordd. Fy hoff le i fynd am dro yw Llanberis a cherdded o gwmpas Llyn Padarn.