Roeddwn yn sicr fy mod eisiau gweithio gyda plant gan fy mod eisioes wedi mwynhau treulio amser gyda plant a phobl ifanc yn ystod fy swydd mewn iard farchogaeth. Credaf fy mod wedi dewis y cwrs APAI gan ei fod yn mynd i roi sylfaen gadarn o wybodaeth i mi yna allu penderfynu pa faes o weithio gyda plant buaswn yn ei fwynhau orau.
Mi oedd y cwrs yn wych! Mi wnes i fwynhau dysgu am hawliau plant, amlieithrwydd, seicopatholeg plant, a dysgu mwy am ADY plant a phobl ifanc. Roedd yna ddigon o gyfleoedd i ni feithrin sgiliau ar gyfer ymgeisio am swyddi yn y dyfodol yn ystod y cwrs hefyd, megis ysgrifennu CV. Roedd y gefnogaeth ar y cwrs yn crisialu'r addysgu - gyda pob darlithydd yn barod i ateb unrhyw gwestiwn neu rhoi cyngor i ni. Y peth gorau am y cwrs i mi oedd mynd i Ddulyn - mi wna i gofio'r trip yna am byth!
Dwi newydd orffen fy mlwyddyn cyntaf ar y cwrs MA Gwaith Cymdeithasol ym Mangor. Credaf bod popeth y ddysgais ar y cwrs APAI wedi fy mharatoi ac o gymorth i mi ddeall mwy am blant a phobl ifanc pan ar leoliad Gwaith Cymdeithasol, ac ar gyfer yr aseiniadau MA.