Sut y datblygodd eich gyrfa ar ôl i chi raddio o Brifysgol Bangor, a beth yw eich swydd ar hyn o bryd?
Ar ôl graddio o Brifysgol Bangor, bûm yn gweithio fel Cymrawd Addysgu yn y maes Cyfraith Eiddo Deallusol yn Ysgol y Gyfraith Durham ac Ysgol y Gyfraith Warwick. Cefais fy enwebu am un o Wobrau Warwick am Ragoriaeth mewn Addysgu. Ar hyn o bryd rwy'n Ddarlithydd Adrannol mewn Cyfraith Eiddo Deallusol yng Nghyfadran y Gyfraith, Rhydychen. Rwy'n Aelod Cyswllt o St Peter's ac yn aelod o Ganolfan Ymchwil Eiddo Deallusol Rhydychen. Fi hefyd yw arholwr allanol Prifysgol Robert Gordon.
Fi yw awdur y monograff "Compulsory patent licensing and access to medicines: A silver bullet approach to public health", a gyhoeddwyd gan Palgrave ym mis Tachwedd 2021. Dyfynnwyd y llyfr hwn, sy’n addasiad o'm PhD, ym mhroject KCE Gwlad Belg "Compulsory licensing for expensive medicines" ym mis Ebrill 2022.
Ym mha ffordd y gwnaeth astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor wella eich cyflogadwyedd?
Rydw i'n ddyledus iawn i'm cyn-oruchwyliwr PhD, a wnaeth fy annog i wneud cais am ysgoloriaeth ymchwil yn ystod fy PhD a cefnogi’n llwyr wrth i mi chwilio am waith.