Pam dewis Bangor?
Fy hoff beth am Fangor yw teimlad cymunedol y Brifysgol. Teimlais fy mod wedi cael croeso gan bawb, ac roedd staff fy ysgol yn awyddus iawn i ddod i adnabod eu myfyrwyr. Roedd dosbarthiadau bach yn apelio’n fawr gan na fyddwn mewn darlithoedd â channoedd o fyfyrwyr eraill.
Y Cwrs
Rwy'n mwynhau fy nghwrs yn fawr iawn. Mae’r staff a’r myfyrwyr yn garedig a phositif a mae pawb yn frwdfrydig dros eu gyrfaoedd a’u graddau, gyda llawer o staff ein hysgol yn academyddion arobryn. Mae'r cwrs yn ddiddorol iawn, er yn anodd iawn ar brydiau gan ei fod yn radd wyddoniaeth ac yn radd broffesiynol.
Bywyd Myfyriwr
Mae fy mhrofiad myfyriwr yma ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn bostif iawn. Rwyf wedi gwneud ffrindiau o bob rhan o'r wlad, llawer ohonynt â chefndiroedd hollol wahanol i mi. Mae'r teimlad o fod yn falch o fod yn fyfyriwr ym Mangor yn gwneud i mi deimlo'n hapus iawn a ddim eisiau gadael y cwrs, rwyf am fethu pawb gymaint.
Lleoliad Gwaith
Nid wyf wedi bod ar leoliad gwaith eto, ond mae opsiwn yn eich 2il a'ch 3edd flwyddyn i wneud blwyddyn dramor neu flwyddyn mewn diwydiant, lle gallwch weithio o fewn y labordai patholeg gyda'r Gwyddonwyr Biofeddygol.
Clybiau a Chymdeithasau
Rwy'n ymwneud â Chysylltiadau Ambiwlans Sant Ioan, ac rwy'n wirfoddolwr cymorth cyntaf ar gyfer eu his-adran. Rwyf hefyd yn aelod o UMCB, y gymdeithas Gymraeg yma ym Mangor.
Llety Myfyrwyr
Yn fy mlwyddyn gyntaf a fy 2il flwyddyn mi oeddwn yn byw’n Neuadd JMJ, sef llety Cymraeg i fyfyrwyr. Mae JMJ wedi ei leoli yn safle Ffriddoedd, ger y porthdy diogelwch ac mae'n adeilad cyfeillgar a chymdeithasol iawn i fyw ynddo. Mae gan bawb ddiddordebau tebyg, ac mae pawb yn astudio amrywiaeth o gyrsiau.
Cyngor i fyfyrwyr newydd?
Dewch i ymweld â chymaint o ddiwrnodau agored â phosib. Mi fynychais oddeutu tri diwrnod agored a diwrnod ymweld i ymheiswyr. Rwy'n falch iawn fy mod wedi dewis Prifysgol Bangor. Ymunwch ag unrhyw grwpiau Facebook neu unrhyw fforymau ar-lein cyn i chi gyrraedd Bangor, gan fod adnabod rhywun ar yr un cwrs â chi o gymorth mawr a bydd yn gwneud ichi deimlo'n llawer llai nerfus yn yr Wythnos Groeso, a diwrnod cyntaf eich blwyddyn gyntaf.