Fy ngwlad:

Project REMEDY

A fyddai’n bosib defnyddio peiriant meddyginiaethau i roi meddyginiaethau’n ddiogel i gleifion os nad oes fferyllfeydd cymunedol yn bod? Project remedy

Efallai y bydd angen i gleifion sy’n cael eu hasesu gan glinigwyr mewn gwasanaethau y Tu Allan i Oriau ddechrau ar feddyginiaethau’n brydlon, ond mewn rhai mannau (e.e. ardaloedd anghysbell) maent yn cael trafferth cael y meddyginiaethau hynny mewn da bryd oherwydd nad oes fferyllfeydd cymunedol cyfagos ar agor. Gwaethygu a wnaeth y broblem yn ddiweddar am nifer o resymau, gan gynnwys swyddi gweigion proffesiynol a chynnydd yn y defnydd o fathau o ofal o bell. Gall cleifion sy'n ffonio'r llinell gofal brys genedlaethol 111 dderbyn ymgynghoriad dros y ffôn neu fideo gan glinigwr a all fod yn unrhyw le yn y wlad, ond efallai nad oes fferyllfa gymunedol leol ar agor i ddosbarthu'r feddyginiaeth a ragnodwyd. I rai cleifion mewn rhannau gwledig o’r Deyrnas Unedig mae angen mynd yn bell i gyrraedd fferyllfa, ac mae hynny’n amhosibl i rai nad oes ganddynt eu trafnidiaeth eu hunain. Mae’n enghraifft o annhegwch yn narpariaeth gofal iechyd y Deyrnas Unedig a gall arwain at ganlyniadau iechyd anffafriol a chostau cysylltiedig (e.e., petai oedi gyda’r feddyginiaeth yn arwain at waethygu eu cyflwr) a phwysau (e.e. cynnydd yn y galw am ofal brys yn ystod yr oriau arferol drannoeth) mewn rhannau eraill o’r system.


Nod project REMEDY yw datblygu, astudio a gwerthuso datrysiadau technolegol - peiriant sy’n gweini meddyginiaeth - i gyflenwi meddyginiaethau’n lleol i gartref y claf. Bydd y peiriant yn cynnwys detholiad cyfyngedig o feddyginiaethau a gaiff eu rhagnodi’n aml ar ôl ymgynghoriad y Tu Allan i Oriau (e.e. gwrthfiotigau, steroidau, anadlyddion), y gall y claf neu gynrychiolydd gael mynediad iddynt.  Mae rhif cod yn fodd i roi'r feddyginiaeth gywir (mewn ffordd debyg i locer casglu parseli, ond gyda nodweddion diogelwch ychwanegol). Byddai peiriannau o'r fath fel arfer yn cael eu gosod mewn safleoedd cymunedol lleol a byddai timau fferylliaeth lleol yn eu stocio. Byddai’r peiriannau’n cael eu hintegreiddio o fewn llifoedd y gwaith clinigol y Tu Allan i Oriau a byddai’n bosib eu defnyddio mewn ardaloedd anghysbell pan fo’r fferyllfeydd lleol ar gau. Mae'r uned yn cynnig storfa ddiogel ac mae’n dosbarthu hyd at 100 o feddyginiaethau, y gellir eu rhyddhau gyda chod pin a anfonir i ffôn symudol y claf, e-bost neu ei ddarllen dros y ffôn. Bydd meddyginiaethau sy'n cael eu storio yn y peiriant yn cael eu dewis o'r cyffurlyfr y Tu Allan i Oriau lleol gan y darparwr gofal.


Mae peiriannau tebyg eisoes yn cael eu defnyddio, megis y  Pharmaself 24. Mae’r peiriannau mewn dros 800 o fferyllfeydd cymunedol ledled y Deyrnas Unedig a’r Iseldiroedd. Maent yn cynnig dull digyswllt o gasglu meddyginiaethau ar bresgripsiwn a gafodd eu dosbarthu mewn fferyllfa gymunedol a’u rhoi mewn bag yn barod i’w casglu. Yna mae'r claf yn derbyn neges destun gyda chod PIN er mwyn casglu o'r peiriant ar amser cyfleus a all fod pan fo’r fferyllfa gymunedol ar gau.

Trwy weithio gyda chynhyrchwyr a chyflenwyr Pharmaself 24, cafodd meddalwedd newydd ei ddatblygu i ailddefnyddio'r peiriant i ddod yn bwynt gweini meddyginiaethau o bell a lwythwyd ymlaen llaw yn sgil ymgynghoriad ffôn neu fideo gyda’r gwasanaethau clinigol y Tu Allan i Oriau. Cafodd y peiriant cyntaf ei osod yn Nolgellau fis Gorffennaf 2024. Yr enw a roesom arno yw Pharmaself REMEDY.

 

Pwy sy'n cynnal project datblygu’r gwasanaeth?

Caiff y project ei arwain o Brifysgol Bangor gan Feddyg Teulu y Tu Allan i Oriau ac academydd clinigol Dr Rebecca Payne ochr yn ochr a’r Athro Dyfrig Hughes a Dr Adam Mackridge. Aelodau eraill y tîm yw Dr Archie Lodge, sy’n feddyg ac yn beiriannydd hyfforddedig deuol, a Nadia Swann, ymchwilydd gwasanaethau iechyd a chynrychiolydd cleifion/gofalwyr o Brifysgol Rhydychen, ac Athro Emeritws Prifysgol Aberdeen Christine Bond sy'n arbenigo mewn telefferylliaeth.  

Y cwestiynau allweddol yr hoffem eu hateb yn y project hwn yw:

1.    Beth yw'r heriau dynol, sefydliadol, technolegol a rheoleiddiol sydd ynglŷn â gosod peiriant a reolir o bell i gyflenwi meddyginiaethau y Tu Allan i Oriau (REMEDY) mewn cymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol, a sut mae mynd i'r afael â'r rheini?

2.    Beth yw effaith bosibl peiriant Pharmaself REMEDY ar fynediad at feddyginiaethau ar ôl tele-ymgynghoriad y Tu Allan i Oriau i unigolion yn y gymuned y mae'n ei gwasanaethu?

3.    A oes gan beiriannau meddyginiaethau Pharmaself REMEDY y potensial i gynnig dull cost-effeithiol i wella mynediad at feddyginiaethau mewn cymunedau gwledig a chymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol yng Nghymru?

4.    A ddylid cynnal astudiaethau pellach i asesu effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd y peiriant Pharmaself REMEDY; ac os felly, pa ddulliau fyddai orau i bennu ei fanteision a'i werth?

Pa ddulliau fyddwn ni'n eu defnyddio?

Rydym yn defnyddio model yr Ymchwilydd Preswyl, lle mae'r ymchwilydd, y gwasanaeth iechyd, a'r partner diwydiannol (Videosystem/Omnicell) yn cydweithio i ddatblygu, gweithredu ac astudio'r peiriant meddyginiaethau. Mae'r tîm ymchwil yn cynnig help a chefnogaeth arbenigol i bob safle i gynllunio a gweithredu peiriannau meddyginiaethau i gleifion, ac mae’n cynnal gwerthusiad pwrpasol ar bob safle. Mae Byrddau Iechyd yn gyfrifol am ddatblygu gweithdrefnau mewnol i weithredu’r peiriant, megis penderfynu ynghylch cyffurlyfr priodol, integreiddio’r peiriant yn eu prosesau cyfredol a datblygu mecanwaith i ailstocio’r peiriant. Mae'r safleoedd yn gyfrifol am ymgysylltu â'u mecanweithiau llywodraethu presennol a chadw rheolaeth lawn dros y cynllunio a'r gweithredu ar y safle, a bydd y tîm ymchwil yn hwyluso’r gwerthuso.

Rydym yn mabwysiadu dull cyflwyno Ystwyth, a bydd y safleoedd ymchwil newydd yn agor yn raddol fesul cam, er mwyn gallu dysgu o'r safle cyntaf yn gefn i’r broses o weithredu’r ail.
Bydd yr astudiaeth gychwynnol o’r gwasanaeth robot cyflenwi trwy beiriant rhoddi meddyginiaethau o bell yn rhedeg am ddwy flynedd. Caiff y gwasanaeth ei ddarparu yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y Tu Allan i Oriau pan nad oes gwasanaethau fferylliaeth cymunedol ar gael. Bydd y Byrddau Iechyd yn gosod peiriant Pharmaself REMEDY yn y safleoedd peilot, ac yn gosod meddalwedd ar gyfer mynediad o bell i systemau cyfrifiadurol y Tu Allan i Oriau.  

Byddwn yn defnyddio dull Ymchwilydd Preswyl sy’n golygu bod yr ymchwilwyr yn rhan o dîm y project ac yn bwydo canfyddiadau'n ôl i wneud yn fawr o'r siawns o lwyddo. Caiff y cyfweliadau eu cynnal hefyd gyda’r staff a’r cleifion a chaiff data’r peiriannau a’r gwasanaeth eu dadansoddi.

Timau fferylliaeth y darparwr gofal fydd yn gyfrifol am ailstocio'r peiriant a fydd yn digwydd yn wythnosol, neu'n amlach fel bo angen, e.e. yn ystod gwyliau cyhoeddus.
Bydd cwnsela ar gael ynglŷn â meddyginiaethau rhagnodedig gan y clinigwr y Tu Allan i Oriau yn ystod yr alwad gynghori gyda'r claf.
Caiff ei weithrediad ei astudio gyda NASSS-CAT framework.

Caiff yr astudiaeth ei noddi gan Brifysgol Bangor.