Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yw’r drefn gyfredol ar gyfer asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau Addysg Uwch y Deyrnas Unedig. Digwyddodd hyn y tro diwethaf yn 2021 ac mae'r canlyniadau llawn, ledled y Deyrnas Unedig, ar gael yma. Mae'r canlyniadau yn pennu'r grantiau blynyddol sy'n gysylltiedig ag ansawdd a roddir gan Medr yng Nghymru, Research England, Cyngor Cyllido’r Alban (SFC) ac Adran yr Economi, Gogledd Iwerddon (DfE). Mae’r asesiad yn cynnig atebolrwydd i fuddsoddiad cyhoeddus mewn ymchwil ac yn cynhyrchu tystiolaeth o fudd y buddsoddiad hwn. Mae deilliannau’r asesiad yn rhoi gwybodaeth meincnodi ac yn sefydlu ffyn mesur enw da i'w defnyddio yn y sector addysg uwch ac er mwyn rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd. Mae'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn asesu rhagoriaeth ymchwil drwy broses o adolygu arbenigol ar sail disgyblaeth, wedi ei lywio gan ddangosyddion meintiol priodol.
Bydd yr ymarfer Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) nesaf ar gyfer asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU yn cael ei gynnal yn 2029. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan REF2021.