Fy ngwlad:

Ymchwil sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm

Ymchwil sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm

Mae ymchwilwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Addysgol yn cynnal ystod o ymchwil sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm. Ewch i dudalen ymchwil yr Ysgol am fanylion pellach.

Mae Prifysgol Bangor, ynghyd â phob Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru, yn cydweithredu â Chynghrair Ymchwil Addysg SAU Cymru (WHERA) i greu pedwar Rhwydwaith Ymchwil Cydweithredol (CRNs) cenedlaethol. Mae WHERA yn gweithredu fel grŵp llywio ac yn ffynhonnell cyngor a chefnogaeth i Arweinwyr CRN ac fel fforwm ar gyfer arweinyddiaeth a chydweithio mewn perthynas ag ymchwil addysg ar draws holl brifysgolion Cymru, ac roedd yn falch o gynnig adborth adeiladol ar ddrafft cyntaf y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Addysg.

 

Ymchwil

Caiff y project Cyfarwyddyd o Bell Llythrennedd ac Iaith (RILL) ei gynllunio a'i gynnal gan ymchwilwyr yn Ysgol Seicoleg, a Chanolfan Dyslecsia Miles, Prifysgol Bangor. Mae'n cynnwys rhaglen iaith a llythrennedd fer i blant Cyfnod Allweddol, 2 ac fe'i lansiwyd mewn ymateb i bandemig Covid-19 a'r cyfnod clo cenedlaethol a ddaeth yn ei sgil fis Ebrill 2020. Ein cenhadaeth yw sicrhau y gall plant barhau i dderbyn yr hyfforddiant llythrennedd gorau posibl tra bo’r ysgolion ar gau, ac adennill sgiliau llythrennedd yn gyflym unwaith y bydd yr ysgolion yn ailagor.

Rydym yn cael ein hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Llywodraeth Cymru. Hyd yn hyn, mae ein cwricwlwm wedi'i ddarparu i dros 200 o blant yng Nghymru a Lloegr.

Caiff 'Optimising and Efficacy-Testing Remote Online Assessments of Children’s Literacy-related, Phonological Skills', ei ariannu gan Sêr Cymru - Mynd i'r Afael â COVID-19, a’i arwain gan Dr Markéta Caravolas. Ei nod yw datblygu datrysiad hyfyw i'r cyfyngiadau cyfredol ar asesiadau yn y cnawd i blant ag anawsterau dysgu penodol (SpLD), ac anghenion addysgol arbennig. Yn gyffredinol, mae offer asesu sgiliau gwybyddol ac academaidd i blant wedi'u cynllunio i weinyddu profion yn y cnawd. Fodd bynnag, mae pandemig COVID-19 wedi ysgogi llawer o aseswyr i wneud addasiadau idiosyncratig o ddeunyddiau prawf o'r fath ar gyfer llwyfannau rhannu sgrin ar-lein o bell, a allai fod wedi cynhyrchu canlyniadau annibynadwy. Ein nod oedd cynhyrchu set o brofion ar-lein dibynadwy o'r radd flaenaf a ddyluniwyd ar gyfer asesu sgiliau ffonolegol plant o bell, gyda'r rhain yn sylfaenol i asesiadau llythrennedd diagnostig, ac eto, yn arbennig o anodd eu mesur ar-lein. Mae'r arloesi o ran dylunio meddalwedd a gynhyrchwyd yn yr astudiaeth hon yn gosod Cymru ar y blaen o ran asesu sgiliau iaith a llythrennedd plant o bell ac yn cynnig gallu Cymraeg unigryw. Gellir addasu'r dechnoleg hon ar gyfer sawl iaith, defnydd a chyd-destun, er enghraifft pan na all disgyblion fynychu'r ysgol am resymau meddygol tymor hir, neu yn achos cau ysgolion oherwydd tonnau ychwanegol o haint COVID-19.