Rhithdeithiau Edrychwch ar ein teithiau 360 i ddarganfod prifysgol hanesyddol sy'n cynnig cyfleusterau modern ac adnoddau o'r radd flaenaf. Y lle delfrydol i chi gyflawni eich potensial. Prif Adeilad O fewn y Brif Adeilad mae darlithfeydd ac ystafelloedd dysgu, Neuadd Prichard-Jones a Llyfrgell y Celfyddydau. Llyfrgell y Celfyddydau Wedi ei lleoli o fewn y Brif Adeilad, mae llyfrgell Shankland yn ysbrydoli dysgu. Llyfrgell Gwyddoniaeth Wedi ei lleoli yn adeilad Deiniol, yn agos at ganol y ddinas, mae'r llyfrgell yn ganolbwynt i fyfyrwyr gwyddoniaeth. EIN LLETY Pentref Ffriddoedd Mae tua 2,000 o ystafelloedd ar safle'r Ffriddoedd. Yma hefyd mae canolfan chwaraeon y Brifysgol a Bar Uno. Gweld Pentref Santes Fair Mae Santes Fair yn ddatblygiad o thua 600 o ystafelloedd, gan gynnwys fflatiau, stiwdios a thai tref. Gweld O AMGYLCH Y CAMPWS Canolfan chwaraeon O fewn ein Canolfan Brailsford mae campfeydd, stiwdios, cyrtiau, neuaddau chwaraeon a wal ddringo. Canolfan Pontio O fewn canolfan Pontio mae Undeb y Myfyrwyr, sinema, theatr a rhai darlithfeydd. Mae yno hefyd caffis, bar a hwb dysgu cymdeithasol. Bar Uno Yng nghanol Pentref Ffriddoedd mae Bar Uno. Gweinir bwyd a diod o 11am nes yn hwyr. Neuadd Prichard-Jones Dyma brif neuadd y Brifysgol ac yma cynhelir rhai darlithoedd a digwyddiadau o bwys fel cyngherddau, Dawns yr Haf a'r seremoniau Graddio. Golygfa dros Fangor Mae'r Brifysgol yng nghanol Bangor ac mae'r rhanfwyaf o'n hadeiladau o fewn pellter cerdded o ganol y ddinas. Gweld ADDYSGU A DYSGU Man Dysgu Cymdeithasol Mae ein mannau dysgu cymdeithasol yn ddelfrydol i chi astudio gyda ffrinidau. Labordy Gwyddoniaeth Mae ein cyfleusterau dysgu yn cynnwys labordai modern. Labordy Gwyddoniaeth Chwaraeon Mae labordy PAWB yn adnodd i'n myfyrwyr gwyddorau chwaraeon. Darlithfa Mae darlithfeydd wedi eu lleoli ledled y campws. Mae darlithfa PL5 yn Pontio yn dal hyd at 450 o fyfyrwyr.