Gwyddonydd hinsawdd yn ennill gwobr fawreddog
Mae gwyddonydd hinsawdd o Brifysgol Bangor wedi ennill gwobr fawreddog.
Mae Dr Iestyn Woolway, Cymrawd Ymchwil Annibynnol NERC yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion wedi’i anrhydeddu â Gwobr Dechrau Gyrfa Yentsch-Schindler 2025 gan Y Gymdeithas Gwyddorau Llynoleg ac Eigioneg (ASLO).
Mae ASLO yn cyflwyno Gwobr Dechrau Gyrfa Yentsch-Schindler bob blwyddyn i wyddonydd ar ddechrau ei yrfa sydd wedi gwneud cyfraniadau rhagorol a chytbwys i ymchwil, addysg a chymdeithas.
Mae’r wobr am ei waith dylanwadol yn disgrifio effeithiau cynhesu’r hinsawdd ar lynnoedd ledled y byd, gan gynnwys newidiadau mewn amseru tymhorol, haenau dyfrol, gorchuddiant iâ a thywydd poeth, yn ogystal â’i gyfraniadau addysgol ac allgymorth eithriadol i gymdeithas a’r gymuned wyddonol fyd-eang, gan gynnwys ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.
Mae gwaith Dr Woolway yn pontio eigioneg (astudiaeth wyddonol o'r cefnfor) a limnoleg (astudiaeth o ecosystemau dyfrol mewndirol megis afonydd a llynnoedd), gan ddefnyddio dulliau arloesol i archwilio effeithiau newid hinsawdd ar ddyfroedd naturiol.
Cydnabyddir ei waith ymchwil yn rhyngwladol, gyda dros 112 o bapurau cyhoeddedig a 14 wedi’u dyfynnu yn adroddiad diweddaraf y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC).
Mae ei waith arloesol, yn enwedig ar donnau gwres mewn llynnoedd, dadocsigeneiddio, a chyflymder newid hinsawdd, wedi peri i wyddonwyr edrych o’r newydd ar ganlyniadau ffisegol ac ecolegol newid hinsawdd ar systemau dŵr croyw.
Y tu hwnt i ymchwil, mae Dr Woolway yn fentor ymroddedig ac yn arweinydd yn y gymuned gwyddorau dyfrol. Gwasanaethodd ar Bwyllgor Gweithredol y Gymdeithas Limnoleg Ryngwladol (SIL), gan gyd-gadeirio pwyllgor y gymdeithas honno i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, Ar hyn o bryd mae'n gyd-gadeirydd Gweithgor Addysg ac Allgymorth y Sefydliad Modelu Agored (OMF), a bu iddo ran allweddol yn datblygu offer mynediad agored megis Lake Heat Flux Analyzer, LakeMetabolizer, ac rLakeAnalyzer, sy'n cefnogi ymchwil byd-eang.
Mae hefyd wedi cyflwyno darlithoedd llawn mewn cynadleddau rhyngwladol mawr, gan gynnwys Cyfarfod Gwyddorau Dŵr ASLO a’r Symposiwm ar gyfer Gwyddorau Dŵr Croyw Ewropeaidd.
Mae effaith eang Dr Woolway yn ymestyn y tu hwnt i'r byd academaidd, gyda'i ymchwil yn cael sylw mewn cyfryngau sylweddol fel y New York Times, Washington Post, BBC, CBC, a National Geographic. Mae hefyd yn cyfrannu'n flynyddol i'r Adroddiad ar Gyflwr yr Hinsawdd, sef crynodeb hinsawdd awdurdodol a gyhoeddir ym Mwletin Cymdeithas Feteorolegol America.
Dywedodd Llywydd ASLO Susanne Menden-Deuer, “Mae'n anrhydedd i ASLO gydnabod cyfraniadau eithriadol Dr. Woolway i wyddor hinsawdd, ei arweinyddiaeth ym maes limnoleg, a'i ymrwymiad i fentora gwyddonwyr dyfrol ar ddechrau eu gyrfa. Mae Dr Woolway yn ysbrydoliaeth trwy ei gyfraniadau gwyddonol a'r cyhoeddusrwydd a roddir i’r rhain yn y wasg boblogaidd.”
Dywedodd Dr. Iestyn Woolway, “Mae'n anrhydedd i mi dderbyn y gydnabyddiaeth hon gan y Gymdeithas Gwyddorau Limnoleg ac Eigioneg. Mae'n hanfodol parhau i ddatblygu dealltwriaeth wyddonol o ecosystemau dŵr croyw yn wyneb newid hinsawdd - maes ymchwil sy'n dod yn fwyfwy hanfodol ar gyfer cynaliadwyedd ein planed.
Ychwanegodd yr Athro Paul Spencer, y Dirprwy Is-ganghellor gyda chyfrifoldeb dros Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor,
“Llongyfarchiadau mawr i Iestyn ar dderbyn y gydnabyddiaeth hon am ei waith rhagorol. Mae ei waith ymchwil arloesol yn dyfnhau ein dealltwriaeth o effeithiau newid hinsawdd ar ddyfroedd naturiol. Gobeithiwn y bydd llwyddiant Iestyn yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr hinsawdd i gofleidio’r posibiliadau sydd ar gael iddynt yn y maes hynod bwysig hwn.”