Nid yw materion amgylcheddol, megis llygredd a llifogydd, yn parchu ffiniau traddodiadol. Mae llifogydd yn digwydd yn amlach, yn rhannol oherwydd newid hinsawdd a hefyd oherwydd y newidiadau i’r ffordd rydym yn trin a rheoli’r tir. Bydd y newidiadau hyn hefyd yn effeithio ar ein harfordir a’r môr, ac felly mae angen i ni ystyried effaith ein holl weithredoedd yn eu cyfanrwydd. Y ffordd orau i ganfod atebion lleol cynaliadwy i’r rhain ac i faterion eraill, megis ynni a deunyddiau adnewyddadwy, yw tynnu ynghyd y bobl sy’n gwneud yr ymchwil yn y meysydd hyn a’r un pryd gynyddu cysylltiadau â’r rhai sy’n llunio polisïau.
Mae Canolfan yr Amgylchedd Cymru yn bartneriaeth newydd rhwng y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg a Phrifysgol Bangor.
Bydd y ganolfan arloesol yn tynnu ynghyd 60 o wyddonwyr amgylcheddol o’r Brifysgol a’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, a bydd eu gwybodaeth a’u profiad gwyddonol yn torri ar draws ffiniau academaidd traddodiadol. Bydd y ffordd newydd hon o weithio’n gwneud cyfraniadau sylweddol i atebion i broblemau amgylcheddol.
Lleolir y Ganolfan mewn adeilad pwrpasol fydd yn parchu’r amgylchedd. Bydd yr adeilad ei hun yn cynnwys llawer agwedd ar adeiladu sy’n parchu’r amgylchedd a chynaliadwyedd, yn cynnwys defnyddio deunyddiau lleol, megis derw a llechi Cymreig.