Fy ngwlad:
Sunlight on a wheat growing in a field

CYNHYRCHU BWYD YN GYNALIADWY

Ymchwil cymhwysol sy'n anelu at sicrhau effeithiau uniongyrchol ar gynaliadwyedd amaethyddiaeth, amaethgoedwigaeth, pysgodfeydd a dyframaethu.

Arweinwyr thema: Yr Athro Dave ChadwickNatalie Hold

Un o’r heriau pwysicaf sy’n ein hwynebu fel cymdeithas yw sut mae cynhyrchu digon o fwyd diogel a maethlon i’r boblogaeth gynyddol mewn cyfnod o newid hinsawdd, a lleihau’r effeithiau ar y dŵr, yr aer, y pridd a bioamrywiaeth.  

We bring together expertise to measure the impacts of our current food production systems on the environment and assess the wider, environmental and socio-economic impacts of changing to more sustainable practices. 

Rydym yn dîm rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr o bob rhan o Brifysgol Bangor sy’n cynnal ymchwil cymhwysol gyda’r nod o sicrhau effeithiau uniongyrchol i gynaliadwyedd amaethyddiaeth ac amaethgoedwigaeth (gweler cyfleusterau Canolfan Ymchwil Henfaes), a physgodfeydd a dyframaethu (gan gynnwys llong ymchwil cefnforol y Prince Madog). Mae ymchwil yn digwydd ar bob pwynt cynhyrchu a’r cyflenwad o'r môr neu'r tir i'r plât. 

Featured researchers

Dave Chadwick, Athro mewn Systemau Defnydd Tir Cynaliadwy, Ysgol Gwyddorau Naturiol

YR ATHRO DAVE CHADWICK

Mae Dave yn Athro mewn systemau Defnydd Tir Cynaliadwy. Mae ganddo diddordebau ymchwil sy’n ymwneud a gwneud yn fawr o effeithlonrwydd defnydd maetholion mewn systemau da byw a thocio, a lleihau effeithiau arferion ffermio ar ddŵr, aer a phridd.

Dr Natalie Hold is holding a lobster whilst on a boat

Dr Natalie Hold

Gwyddonydd pysgodfeydd yw Natalie. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar asesu a rheoli pysgodfeydd bach a physgodfeydd sy’n brin o ddata, gan gynnwys gwerthuso ymyriadau ym maes rheoli pysgodfeydd.

Yr Athro Jan Hiddink yn eistedd ar glogwyn ger y môr

YR ATHRO JAN HIDDINK

Ecolegydd y môr yw Jan Hiddink. Mae’n canolbwyntio ar sicrhau dealltwriaeth feintiol o effaith aflonyddwch (megis ecsbloetio a newid hinsawdd) ar fioamrywiaeth a gweithrediad cymunedau dyfnforol y môr, a sut mae lliniaru’r effeithiau hynny.

Yr Athro Davey Jones

YR ATHRO DAVEY JONES

Mae Davey yn Athro Gwyddorau’r Amgylchedd ac Iechyd y Cyhoedd. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall prosesau o dan y ddaear gyda ffocws penodol ar faetholion ac ymddygiad pathogenau dynol mewn systemau dŵr-bwyd-pridd-planhigion-microbaidd.

Llun o'r Athro Lewis Le Vey

YR ATHRO LEWIS LE VAY

Lewis Le Vay yw cyfarwyddwr Canolfan y Gwyddorau Môr Cymhwysol ac mae ganddo arbenigedd mewn dyframaethu cynaliadwy mewn systemau trofannol a thymherus.

Dr Winnie Courtene-Jones taking marine samples next to a boat

Dr Winnie Courtene-Jones

Biolegydd newid byd-eang ac arbenigwr ar lygredd plastig yw Dr Winnie Courtene-Jones. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar sut mae straenwyr anthropogenig yn effeithio ar organebau a'r amgylchedd.

Karina Marsden

Dr Karina Marsden

Darlithydd yng ngwyddor y pridd yw Karina. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar feintioli a lliniaru nwyon tŷ gwydr amaethyddiaeth. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar yr amrywioldeb gofodol ac amser mewn allyriadau ocsid nitraidd yn systemau pori’r iseldir a’r ucheldir.

Charlie Heney on a fishing boat

Charlie Heney

Bu Charlie’n gweithio yn y tîm pysgodfeydd cynaliadwy’n ceisio gwella dealltwriaeth o boblogaethau cramenogion Cymru, ddoe a heddiw, gyda’r nod o gyfrannu at gynlluniau rheoli pysgodfeydd. Mae Charlie hefyd yn ymchwilio ar gyfer PhD. Mae’n ymchwilio i botensial atgenhedlu Cimychiaid Ewrop yn wyneb newid hinsawdd i gefnogi rheolaeth gadarn ar stociau. 

Martine Graf

Martine Graf

Technegydd Ymchwil a myfyriwr PhD yw Martine. Ymhlith ei diddordebau ymchwil mae asesu effaith, ffawd, ac etifeddiaeth defnydd ffilm tomwellt amaethyddol ar yr agroecosystem. Mae hi'n cyfrannu at y project AgriPlastics a ariennir gan GCRF.

Emily Cooledge

Emily Cooledge

Ymchwilydd Ôl-ddoethurol yng Ngwyddorau’r Amgylchedd yw Emily ac mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys biogeocemeg y pridd, cynhyrchiant glaswelltir a da byw, ac allyriadau nwyon tŷ gwydr. Cyfrannodd at broject gwndwn Amlrywogaeth a ariennir gan SARIC.

Rob Brown

Dr Rob Brown

Ymchwilydd Ôl-ddoethurol yng Ngwyddor y Pridd yw Rob. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddeinameg carbon y pridd, yn enwedig cylchredeg moleciwlau organig bach a swyddogaeth fiolegol. Mae'n cyfrannu at broject Arddangos Dileu Nwyon Tŷ Gwydr Bio-olosg.

Jeewani Peduru

Dr Jeewani Peduru Hewa

Ymchwilydd Ôl-ddoethurol mewn Biogeocemeg yw Jeewani. Mae ei diddordebau ymchwil ym maes biogeocemeg y priddoedd. Mae hi'n gweithio ar broject Arddangosydd Dileu Nwyon Tŷ Gwydr y Mawndiroedd.

Researcher Emer McCoy is pictured on the shore of a lake

Emer McCoy:

Bu Emer yn ymwneud ag amrywiaeth o brojectau sy’n ymwneud â physgodfeydd ym Mhrifysgol Bangor, sy’n rhychwantu ymchwil effaith potio a gwyddorau cymdeithas ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar fenter twf glas pysgodfeydd a dyframaethu, Môr Ni Gwynedd, gweithio i nodi rhwystrau i dwf y sector, a defnyddio dull a gynlluniwyd ar y cyd i ganfod atebion.

Researcher Emily Philips on a boat holding a large crab

Emily Phillips

Mae Emily’n gweithio gyda physgotwyr cramenogion ar raddfa fach yn bennaf yng Nghymru ar gyfer Filling in the Gap Crustacean FISP. Mae ei hymchwil yn ceisio deall cyfansoddiad glaniadau pysgodfeydd cramenogion, a'r berthynas rhwng maint cramenogion a newidynnau amgylcheddol i gyfrannu at gynlluniau rheoli pysgodfeydd.

Researcher Jack Egerton on a boat in a tropical sea

Dr Jack Egerton

Ecolegydd morol gydag arbenigedd penodol mewn pysgodfeydd a hydroacwsteg yw Jack ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar asesiad stoc Cregyn Bylchog Cymru i Lywodraeth Cymru.

Dr Laura Richardson taking measurements of crustaceans in a tropical environment

Dr Laura Richardson

Ecolegydd morol yw Laura sy'n ceisio nodi sut mae amrywioldeb naturiol ecosystemau’n rhyngweithio â gweithgareddau dynol i bennu cyflwr yr ecosystemau, er mwyn deall yn well y defnydd o asesiadau ar gyfer rheoli pysgodfeydd sy'n benodol i'r cyd-destun ac yn ofodol.

Rhianna is documenting bivalves on a floating pontoon

Rhianna Parry

Mae Rhianna Parry yn ymrwymo i hyrwyddo ymdrechion cadwraeth, addysg, a llythrennedd sy’n ymwneud â’r môr, gan ganolbwyntio’n benodol ar adfer poblogaeth yr wystrys brodorol yn nyfroedd Cymru trwy broject Wild Oysters #NNF2. Ym Môr Ni Gwynedd, mae Rhi hefyd yn gweithio i gefnogi’r sectorau pysgodfeydd, dyframaethu a bwyd môr yng Ngwynedd. Mae’n anelu at wella bywoliaeth pobl a chreu cyfleoedd i uwchsgilio trwy fentrau twf glas cynaliadwy.

Tim Jackson-Bue

Dr Tim Jackson-Bué

Mae Tim yn ymchwilio i’r effeithiau dyfnforol posibl o bysgota potiau am grancod a chimychiaid.  Bu Tim yn arwain amrywiol brojectau ymchwil cydweithredol a bu’n gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid yn y diwydiant morol.

Dr Tim Whitton on a research vessel at night on the sea

Dr Timothy Whitton

Bu ymchwil Tim, ar y cyd â’r diwydiant pysgota, yn canolbwyntio ar sut mae pysgota ar foroedd ysgafell y Deyrnas Unedig yn rhyngweithio â’r anifeiliaid a’r carbon sy’n gysylltiedig â gwely’r môr. Gwnaed hynny trwy ddefnyddio’r data presennol, ond hefyd trwy gynnal gwaith arbrofol a chasglu data newydd ar y môr. 

image of Julia Jones in recording studio

YR ATHRO JULIA JONES

Gwyddonydd cadwraeth yw’r Athro Julia Jones gydag arbenigedd neilltuol mewn gwerthuso effaith ymyriadau cadwraeth.

Simon sampling water destined for a global assessment of lake biodiversity

YR ATHRO SIMON CREER

Mae Simon yn astudio bioamrywiaeth mewn biomau amrywiol ac yn asesu cysylltiadau â swyddogaeth ecosystemau, iechyd yr amgylchedd a dynol.

Man climbing to viewing tower, surrounded by trees

Dr Farnon Ellwood

Entomolegydd yw Farnon sy'n arbenigo mewn ecoleg gymunedol, gyda diddordebau neilltuol yn y patrymau a'r prosesau sy'n strwythuro ecosystemau naturiol ac addasedig. Mae gwaith Farnon yn cyfuno ecoleg ddamcaniaethol ag arbrofion i ddeall sut mae perthnasoedd esblygiadol arthropodau trofannol yn dylanwadu ar eu rhyngweithiadau ecolegol. Nod Farnon yn y pen draw yw datblygu fframweithiau damcaniaethol i’w defnyddio i warchod bioamrywiaeth drofannol yn gefn i arferion rheoli cynaliadwy. 

Researcher standing on hillside

Dr Perrine Florent

Ymchwilydd ôl-ddoethurol mewn ecotocsicoleg yw Perrine. Mae’n canolbwyntio ar ymddygiad, tynged a chludiant microblastigau mewn ecosystemau daearol ac atmosfferig a rhyngddynt.

Charlie Heney onboard a fishing vessel collecting scientific data on European Lobster stocks

Charlotte Heney

Ymchwilydd pysgodfeydd yw Charlie. Mae'n gwerthuso prosesau biolegol Cimychiaid Ewrop mewn hinsawdd sy'n newid i gynorthwyo gyda modelau asesu stoc a dulliau rheoli.

Ffion collaborating with partner researchers at the Basque Centre for Climate Change within the CircAgric-GHG project.

Ffion Evans

Ymchwilydd PhD yw Ffion. Mae’n asesu effaith gwella cylchrededd systemau ffermio ar liniaru nwyon tŷ gwydr a phroffidioldeb, ac yn archwilio’r rhwystrau a’r cyfleoedd o ran mabwysiadu.

Full researcher list

I ddilyn

I ddilyn

Projectau Allweddol

Mae’r rhai sy’n ymchwilio i’r thema hon yn gweithio ar amrywiaeth eang o brojectau cymhwysol.

Projectau Allweddol

Mae’r rhai sy’n ymchwilio i’r thema hon yn gweithio ar amrywiaeth eang o brojectau cymhwysol.

Lluniau o'r awyr o Ganolfan Ymchwil Henfaes

Mae Canolfan Ymchwil Henfaes yn Abergwyngregyn yn fodd i astudio amgylcheddau amrywiol o lefel y môr hyd at y tir uchaf yn Eryri a hynny i gyd ar un fferm. 

Mae lluniau drôn o’r awyr o Ganolfan Ymchwil Henfaes yn dechrau ar yr arfordir, gan symud ar draws tir pori isel a thros Fferm Henfaes a thai gwydr (1:00).  Rydym yn parhau dros ardal goediog ar draws caeau agored gyda lleiniau arbrofol yn y golwg. Am 1:40 munud i mewn i'r fideo symudwn yn uwch i fyny'r dyffryn i weld tir pori uchel, yr iseldiroedd ac arfordir eang. Wrth i ni droi i fyny'r dyffryn mae golygfeydd o'r mynyddoedd ac ardaloedd bach o goetir conwydd. Mae defaid yn pori yn y borfa ucheldirol ac rydym yn teithio ymhellach ar hyd y dyffryn, gan basio dros linellau pŵer gallwch weld Rhaeadr Fawr / Rhaeadr Aber yn y pellter, wedi'i leoli ar odre gogleddol y Carneddau. Ar 4:22 munud i mewn i'r fideo rydym yn mynd yn nes at y rhaeadr dros ardaloedd o goedwig gonifferaidd a chollddail. Wrth i ni ddod yn nes, mae dŵr i'w weld yn llifo i lawr ochr y mynydd yn y dyffryn islaw. Rydym yn cyrraedd copa'r rhaeadrau am 5:55 munud i mewn i'r fideo ac yn teithio i fyny a thros Afon Goch i fasn y dalgylch eang ar gyfer y rhaeadrau. Am 6:49 munud i mewn i'r fideo gwelwn gopaon mynyddoedd y Carneddau gyda'u tirwedd garw a phentyrrau o sgri. Am 7:40 munud byddwn yn hedfan yn ôl dros y maestir, gan deithio yn ôl i lawr y dyffryn coediog tuag at y borfa iseldirol, Fferm Henfaes a'r arfordir.

Ffilm o'r awyr o'r Llong Ymchwil Prince Madog

Llong ymchwil pwrpasol yw’r Prince Madog sy'n galluogi gwyddonwyr môr i astudio bioleg, cemeg, daeareg a ffiseg y moroedd.

Ffilm drôn o'r awyr o'r Llong Ymchwil y mae'r Prince Madog yn ei tharo tu ôl i'r llong tra ar y môr. Am 0:30 eiliad i mewn i'r fideo rydym ar ben y llong, yn edrych i lawr ar y deciau, cyn i'r fideo ddod i ben dros y môr.

Uchafbwyntiau’r Project Ymchwil Ôl-radd

Mae ein projectau Ymchwil Ôl-radd blaengar yn sbarduno arloesedd ar draws meysydd trwy archwilio syniadau trawsnewidiol, datblygu gwybodaeth, a chynnig atebion yn y byd go iawn.