Ymunwch â Dr Graeme Pearce Uwch Ddarlithydd mewn Economeg ar gyfer y Sesiwn Blasu ar-lein AM DDIM
Mae newidiadau hirdymor yn y tymheredd byd-eang yn achosi newidiadau ym mhatrymau’r tywydd ac yn tarfu ar gydbwysedd byd natur ac maent yn fygythiad sylfaenol i fodau dynol a phob math arall ar fywyd ar y Ddaear. Er gwaethaf hynny, mae’n ymddangos bod ymdrechion arweinwyr y byd i leihau allyriadau carbon byd-eang sy’n achosi’r newid yn yr hinsawdd wedi methu â chanfod ateb hyd yma. Pam mae gwledydd a phobl wedi ei chael hi mor anodd cydweithredu i ddod i ganlyniad sydd o fudd i bawb? Bydd y sesiwn hon yn eich cyflwyno i economeg y newid yn yr hinsawdd, y cymhellion sy’n ein hwynebu ni oll i barhau i lygru, a’r rhesymau pam mae mor anodd cydweithredu ar rywbeth mor bwysig â’r cynhesu byd-eang.
Cewch weld ein Hysbysiadau Preifatrwydd yma. Trwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru rydych yn cytuno â thelerau defnyddio a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Cewch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i dynnu'ch cydsyniad yn ôl neu newid eich dewisiadau cydsyniad.
Caiff y sesiwn ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Archwiliwch y gyfres Sesiynau Blasu: