Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas: Digging up the past: Life on an Iron Age Hillfort (Sesiwn Saesneg)
Bydd y sgwrs hon yn archwilio sut roedd cymunedau Oes yr Haearn a oedd yn trigo yng ngogledd orllewin Cymru yn byw. Byddwn yn archwilio datblygiad llociau newydd ar ben bryniau – a elwir yn fryngaerau – a oedd yn lleoedd y dechreuodd cymunedau mwy ffurfio yn y mileniwm cyntaf CC. Mae'r henebion hyn yn dal yn amlwg iawn yn y tirweddau heddiw ac maent yn cynrychioli gweithgarwch grwpiau mawr o bobl. Gosodwyd llawer o sylfeini bywyd modern yn ystod y cyfnod hwn, ond fel y gwelwn yn y sgwrs hon, roedd grwpiau yn yr Oes Haearn yn edrych ar y byd mewn ffordd wahanol iawn i sut yr ydym ni’n ei wneud heddiw! Bydd y cyflwyniad yn canolbwyntio’n benodol ar ymchwil diweddar yn ymwneud a’n gwaith cloddio ar fryngaer fechan Meillionydd ym Mhen Llŷn.