Digwyddiad undydd ar ddydd Iau, 23 Mai 2024 yn Pontio, Prifysgol Bangor fydd yn arddangos y tueddiadau a'r mewnweliadau diweddaraf gan arweinwyr y diwydiant ac yn gyfle i chi ymgolli mewn athroniaeth ddylunio arloesol.
Beth yw 'Siarad Dylunio yn Fyw 2024'?
Ydych chi yn ddyluniwr uchelgeisiol, yn weithiwr proffesiynol creadigol, yn weithgynhyrchwr, neu'n wneuthurwr newid? Trefnir y digwyddiad 'Siarad Dylunio yn Fyw 2024' gan gwrs gradd Dylunio Cynnyrch, Prifysgol Bangor ac mae'n gyfle gwych i rwydweithio a chlywed y diweddaraf gan unigolion arbennig sy'n gweithio ym meysydd dylunio a gweithgynhyrchu.
Wedi'i hamseru i gyd-fynd â Sioe Radd Dylunio Prifysgol Bangor, mae'r gynhadledd yn nodi penllanw wythnos o ddathlu dylunio ac arloesi.
Siaradwyr Gwadd
Mae 'Siarad Dylunio yn Fyw 2024' yn dwyn ynghyd wyth siaradwr nodedig o'r sectorau dylunio a gweithgynhyrchu, pob un yn cynnig safbwyntiau ac arbenigedd unigryw.
Siaradwr Gwadd
Theo Williams
Mae gyrfa yr Ymgynghorydd Dylunio Theo Williams wedi symud ymlaen o ddylunio cynnyrch ar gyfer cwmnïau enwog fel Alessi, Danese, Laurent-Perrier, McLaren F1, Lexon, Abet Laminate, a Technogym, ymhlith eraill.
Mae Miklos yn Ddylunydd UX a chynnyrch medrus. Am fwy na 17 mlynedd, mae wedi gweithio ar draws gwahanol ddiwydiannau yn Efrog Newydd, San Francisco, LA a Llundain.
Andy yw cyd-sylfaenydd Royal Flush Marketing, asiantaeth farchnata arloesol sy’n adnabyddus am ei dull strategol o ddylunio a marchnata sy’n canolbwyntio ar eu cleientiaid.
Yn 2004, cydsefydlodd Huw BIC Innovation i yrru twf ac arloesedd deinamig. Gan groesawu cydweithio, mae BIC wedi tyfu i fod yn ymgynghoriaeth orau yng Nghymru.
Astudiodd Ger ddylunio cynnyrch yn Central St Martins ac mae ganddo gariad parhaus at grefft dylunio, boed yn geir, oriawr, sbectol haul, arwyddion ffyrdd, neu hysbysebu.
Mae Roshannah yn berson greadigol amlddisgyblaethol sy’n gweithio ar hyn o bryd fel Cyfarwyddwr Marchnata a Phartneriaethau Creadigol (ar gyfer Where are the Black Designers?), a PhennaethGweithrediadau a Phobl Dros Dro (yn It’s Nice That).
Graddiodd Josh gyda’r radd Dylunio Cynnyrch israddedig a’r radd meistr mewn Dylunio Arloesi Cymhwysol o Brifysgol Bangor. Mae’n ddylunydd cynnyrch sydd ar hyn o bryd yn gweithio ym maes pensaernïaeth a chynllunio yn dilyn adleoli i Gaerdydd.