Mae yna lawer o chwedlau am wyrthiau a gyflawnwyd gan y Forwyn Fair a sut y bu iddi gyfryngu ym mywydau pobl gyffredin. Daeth y straeon hyn, a adroddwyd ar draws y byd Cristnogol, yn un o agweddau mwyaf cyffredin llenyddiaeth boblogaidd yr oesoedd canol. Dywedir bod un casgliad yn unig yng Nghaergrawnt, y “Sidney Sussex College MS 95”, yn cynnwys cymaint â phum cant o hanesion am wyrthiau.
Yn 1604 cyhoeddodd y dyneiddiwr, athronydd, ysgolhaig clasurol a damcaniaethwr moesol a gwleidyddol o Fflandrys, Justus Lipsius (1547–1606) draethawd Lladin ar wyrthiau a gyflawnwyd gan y Forwyn Fair y dywedwyd iddynt ddigwydd yn Halle, tref fechan ger Brwsel. Cyn hir, cyfieithwyd y llyfr gwreiddiol i ieithoedd eraill. Cyhoeddwyd dau gyfieithiad i’r Iseldireg yn 1605 a 1607, a chafwyd cyfieithiad Ffrangeg a chyfieithiad Saesneg.
Ystyriwyd Lipsius yn brif olygydd testun rhyddiaith Lladin ei ddydd. Ganed ef 18 Hydref, 1547, yn Overijse, nepell o Wlad Belg. Cafodd ei benodi i gadair hanes ac athroniaeth Prifysgol Jena, Thuringia, yn 1572, prifysgol oedd wedi cael ei sefydlu’n ddiweddar, ac yn hwyrach derbyniodd gadair hanes a’r gyfraith ym Mhrifysgol newydd Leiden, yr Iseldiroedd (1578) ac yn ddiweddarach gadair hanes a Lladin Prifysgol Leuven (1592).
Ymwelodd Lipsius gyntaf â Halle i weld Morwyn Mair Halle yn 1601.
Anfonodd Ludwig IV, Tiriarll Thuringia, Forwyn Fair Halle a thri cherflun du arall o’r Forwyn Fair adref at ei wraig, y Santes Elisabeth o Hwngari (bu farw 1231) ar ei ffordd yn ôl adref o'r Croesgadau. Gadawodd y Santes Elizabeth y cerflun i’w merch, Sophie o Brabant, a’i gadawodd yn ei thro i’w merch hi, Matilda, Iarlles Holland, a roddodd y cerflun yn enw ei nain i eglwys Sant Martin ym 1276. Datblygodd Halle i fod y gysegrfa Farïaidd bwysicaf yng Ngwlad Belg.
Cyhoeddwyd yr eglwys yn fasilica yn 1946, anrhydedd a roddir gan yr eglwys Gatholig i eglwys neu adeilad sydd wedi dod yn ganolfan addoli ryngwladol oherwydd eu cysylltiad â sant o bwys neu ddigwyddiad hanesyddol mawr.
Yn 1602 cyflwynodd Lipsius yr ysgrifbin a ddefnyddiodd i ysgrifennu ei brif weithiau i gysegrfa Morwyn Fair Halle. Yn fuan wedyn, trwy law ysgrifennydd Esgob Antwerp, a oedd wedi bod yn fyfyriwr i Lipsius, cafodd weld copi o gofrestr yn rhestru'r gwyrthiau a gyflawnwyd gan y Forwyn Fair. Ymhlith y gwyrthiau a briodolir i'r Forwyn Mair mae achub y ddinas rhag nifer o warchaeau yn 1489 ac yn ddiweddarach yn 1850, codi pobl o farw’n fyw, ac iacháu nifer o gleifion.
Dyma un o’m ffefrynnau o blith y gwyrthiau:
A Taylor having swallowed his Needle, was delivered from the danger attending it by the Blessed Virgin
Bartholomew Broeck, a Tayor of the City of Denremonde, being busied about his work, put his Needle and Thread into his Mouth, that he might have his hands free; being intent on his work, and forgetting his Needle, he unhappily swallowed both that and the Thred. Afterwards he complained to his Wife, who consulted the Physicians and followed their advice, but in vain; After it had remained in his Body four days, he went to Mechlen to his Brother, who was a Physician; but he could not force it out of his Body by any Drinks or Purge. It happened that on a Saturday his Brother made a small feast, to entertain his sorrowful Guests, which being done, the Bell Rung to that service which is called the Praise of the B. Virgin; his Brother went unto the Church, but Bartholomew stayed behind; As he was musing, our Lady of Hallee came into his thoughts, he presently sent a fervent Vow unto her, and immediately he felt something between his Teeth, and pulled out the Needle and Thread. He joyfully shewed his Brother this great Miracle, and thankfully visited the B. Virgin of Halle; and he had great reason so to do, for his life had hung many days upon a Needle and Thred.
Dyddia copi Bangor o 1688 ac mae ganddo wynebddalen hyfryd yn darlunio'r Forwyn Fair a'r Baban Iesu ar blinth, ac mae wedi ei lofnodi gan I. B. de Wit. Mae Morwyn Fair Halle yn bortread o Fair fel virgo lactans, neu’r forwyn yn nyrsio, gyda’i bron yn cael ei chynnig i'r baban Iesu. Mae pocolrtread I. B. de Wit o'r Forwyn yn darlunio Mair mewn clogyn, a'i bron wedi'i gorchuddio, fel oedd yn wir am nifer o brintiau defosiynol o'r gysegrfa yn dilyn y cyfnod canoloesol. Prynwyd copi Bangor o waith Lipsius fel rhan o Lyfrgell Watkin a galluogwyd hynny trwy rodd garedig o £47,000 gan Dr Evan Thomas i’r Brifysgol yn 1892.
Shan Robinson.