Mae Triplets yn gasgliad o dair stori i blant yn cynnwys Baby's Opera, Baby's Bouquet, a’r Baby's Own Æsop. Cyhoeddwyd y llyfr gan George Routledge & Sons Limited, yn 1899. Mae'r llyfr yn cynnwys dyluniadau gwreiddiol mewn lliw gan y darlunydd Walter Crane ac argraffwyd gan Edmund Evans. Mae hwn yn gopi rhif 252 o argraffiad cyfyngedig o 500 copi
‘Baby’s Opera’
Enw’r llyfr cyntaf yw "THE BABY'S OPERA". Mae hwn yn llyfr hwiangerddi hyfryd i blant gyda darluniau lliw hardd. Mae’n cynnwys 35 o hwiangerddi gyda chlasuron fel Jack and Jill, Three Blind Mice, The Mulberry Bush, Hickory-Dickory-Dock a Little-Bo-Peep.
‘Baby’s Bouquet’
Enw’r ail lyfr yw “THE BABY’S BOUQUET”. Mae'n cynnwys hen hwiangerddi ac alawon, gan gynnwys caneuon o Brydain ac Ewrop fel The Little Man and Maid, Lucy-Locket, The Little Cock Sparrow, The North Wind and The Robin, ABC, Charley Over the Water, London Bridge, Pussy Cat, The Three Little Kittens.
‘Baby’s Own Aesop’
Enw'r trydydd llyfr yn y casgliad hwn yw “BABY'S OWN AESOP”. Unwaith eto, mae’n cynnwys darluniau hyfryd o chwedlau Aesop, gyda’r chwedlau wedi eu crynhoi a'u gosod mewn limrigau i'r darllenwyr iau.
Walter Crane oedd yr artist a ddarluniodd y lluniau yn y llyfr. Mae'n adnabyddus yn bennaf am ei ddarluniau mewn llyfrau plant. Roedd Crane yn ffrind agos i William Morris, yn gyd-sosialydd, ac yn rhannu barn artistig Morris. Ynghyd â Morris, roedd Crane hefyd yn arweinydd cydnabyddedig yn y mudiadau Art Nouveau a Chelf a Chrefft. Roedd Walter Crane (1845-1915) yn un o'r cyfranwyr cynharaf i lenyddiaeth plant ac yn un o'r darlunwyr mwyaf dylanwadol yn natblygiad llyfrau lluniau lliw i blant. Dechreuodd Crane weithio i Edmund Evans ym 1864 gan gynhyrchu llyfrau llachar, lliwgar a drawsnewidiodd yn llwyr y math o lyfrau oedd ar gael i blant. Daeth ei ddarluniau Celf a Chrefft i nodweddu llyfrau plant am ddegawdau i ddod.
Daw'r copi hwn o gasgliad Owen Pritchard a gellir archebu i’w weld trwy System Primo y Llyfrgell yn Ystafell Ddarllen yr Archifau.