Profiad Rhyngwladol
Os ydych wedi bod yn ystyried cymryd blwyddyn i ffwrdd neu fynd i deithio dros yr haf ac wedi difaru peidio â gwneud hynny, mae ein rhaglenni astudio neu weithio dramor yn rhoi cyfle i chi fanteisio i'r eithaf ar eich profiad astudio. Darllenwch ymlaen i wybod sut y gallwch chi elwa o weithio neu astudio dramor.
Pam mynd dramor?
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith. Rydych yn siwr o ddychwelyd i Fangor yn fwy brwdfrydig, annibynnol a hyderus.
Sut byddwch chi'n elwa?
- Gwella eich rhagolygon gyrfa
- Datblygu sgiliau a chael profiadau newydd
- Teithio i leoedd anhygoel
- Dysgu iaith arall
- Cael persbectif byd-eang ar eich pwnc
- Gwneud ffrindiau fydd am oes