Mae Prifysgol Bangor yn cynnig gostyngiad ffioedd o £500 i holl gyn-fyfyrwyr Cartref Prifysgol Bangor sy'n hunan-gyllidol ac sydd wedi graddio â gradd anrhydedd, a gostyngiad o £1,000 i holl gyn-fyfyrwyr hunan-gyllidol Rhyngwladol Prifysgol Bangor sydd wedi graddio â gradd anrhydedd*.
I fod yn gymwys am y Gostyngiad Teyrngarwch i Raddedigion, mae'n rhaid i chi:
- fod wedi graddio o raglen israddedig ym Mhrifysgol Bangor
- ymgeisio'n llwyddiannus ac yna cofrestru ar gyfer astudiaeth ar un o'n graddau cymwys Meistr Hyfforddedig (e.e. TAR Cynradd neu Uwchradd, MA, MSc, MBA, LLM. Nid yw'n cynnwys graddau MRes)
Sylwer:
- Sylwch mai dim ond am UN dyfarniad/ysgoloriaeth y mae myfyrwyr yn gymwys fel rheol - os dyfernir ysgoloriaeth o werth uwch i chi yn ddiwedarach, bydd y dyfarniad o werth uwch yn cael blaenoriaeth a bydd y dyfarniadau o werth is yn cael eu diddymu.
* Mae ymgeiswyr Ynys (Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw) yn cael eu cyfri yn "fyfyrwyr tramor" ond maent yn talu cyfradd Cartref ac felly maent yn gymwys ar gyfer Gostyngiad Teyrngarwch Graddedigion o £500 (yn hytrach na'r £ 1,000).
Nid oes rhaid gwneud cais ar wahân am y gostyngiad.