Bwrsariaethau Teithiau Maes
Mae ysgolion academaidd yn trefnu teithiau maes i gyfoethogi profiad dysgu israddedigion. Pwrpas y fwrsariaeth hon yw annog rhai i gymryd rhan mewn teithiau maes, ac i helpu'n arbennig y myfyrwyr hynny a allai, fel arall, gael eu heithrio oherwydd eu sefyllfa ariannol eu hunain.
Mae'r Bwrsariaethau Teithiau Maes ar gael i israddedigion y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd, defnyddir incwm trethadwy cartref myfyriwr i bennu cymhwysedd.
- Incwm trethadwy o dan £25,000 = 40% oddi ar gost y daith
- Incwm trethadwy rhwng £25,000 a £40,000 = 30% oddi ar gost y daith.
Bydd y myfyrwyr yn gyfrifol am y £350 cyntaf o unrhyw gostau taith maes, gyda'r Bwrsari yn cael dyfarnu ar weddill y gost.
I wneud cais, e-bostiwch cymorthariannol@bangor.ac.uk am ffurflen gais. Dylid anfon neu e-bostio'r ffurflen wedi'i llenwi i'r Uned Cymorth Ariannol gyda llythyr gan yr Ysgol Academaidd yn cadarnhau eich bod yn mynd ar y daith.
Caiff yr arian ei dalu fel rheol yn uniongyrchol i'r Ysgol Academaidd ar ran y myfyriwr.
Bwrsariaethau i Adleoli Teuluoedd
A wnaethoch chi adleoli gyda'ch teulu i ddechrau eich astudiaethau ym Mhrifysgol Bangor eleni?
Os ydych chi, a'ch bod yn fyfyriwr isradd o'r Deyrnas Unedig gydag incwm trethadwy o £25,000 neu lai, yna gallech fod â hawl i fwrsariaeth o hyd at £1,000. Mae'r fwrsariaeth hon ar gael yn y flwyddyn academaidd gyntaf yn unig.
Pwrpas y fwrsariaeth yw helpu gyda chostau ariannol adleoli teulu - fel blaendaliadau, rent, costau symud ac unrhyw gostau cysylltiedig eraill.
Er mwyn gwneud cais, cysylltwch â'r Uned Cymorth Ariannol am ffurflen gais.
Anfonwch y ffurflen wedi'i llenwi yn ôl gyda phrawf o'ch costau adleoli a thenantiaeth newydd i'r Uned Cymorth Ariannol mor fuan ag sy'n bosib.
Bwrsariaethau i fyfyrwyr digartref
Os nad oedd gennych gartref sefydlog cyn i chi ddechrau gyda'ch astudiaethau ym Mhrifysgol Bangor, gallech wneud cais am y fwrsariaeth £1000 hon i'ch helpu gyda'ch costau prifysgol cychwynnol. Mae'r fwrsariaeth hon ar gael yn y flwyddyn academaidd gyntaf yn unig. Mae'r fwrsariaeth hon ar gael i fyfyrwyr israddedig llawn amser ac yn eu blwyddyn eu blwyddyn academaidd gyntaf yn unig.
I wneud cais cysylltwch â'r Uned Cymorth Ariannol am ffurflen gais ar ôl i chi gofrestru yn y Brifysgol.
Am fwy o wybodaeth am unrhyw un o'r Bwrsariaethau uchod, cysylltwch â'r Uned Cymorth Ariannol:
E-bost: moneysupport@bangor.ac.uk
Cyfeiriad: Yr Uned Cymorth Ariannol, Llawr 1af Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, Bangor LL57 2DF.