- Mae gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor diwtor personol.
- Mae’r system diwtora yn golygu fod aelod staff bob amser wrth law i gynnig cyngor efo unrhyw broblem.
- Rhywun o’ch ysgol academaidd yw’r tiwtor fel arfer a byddwch yn cyfarfod ag ef neu hi yn rheolaidd trwy gydol eich cwrs.
- Os ydych yn dewis astudio cwrs cydanrhydedd, fe ddaw eich tiwtor personol o un o’ch dewis adrannau.
Dylech deimlo y gallech fynd at eich tiwtor personol i drafod eich pryderon neu broblemau unrhyw bryd.
Sut all eich tiwtor eich helpu?
Mae eich tiwtor personol yno i roi cymorth a chynnig cyngor i chi ar bob math o broblemau academaidd ac anacademaidd. Gellwch fynd ato ef neu hi i drafod pethau megis:
dewis modiwlau gwneud cais am gymorth ariannol pryderon ynglyn ag arholiadau unrhyw broblemau ynglyn â gorffen gwaith mewn pryd.