Fy ngwlad:

Wedi gwneud cais?

Beth sy’n digwydd ar ôl imi wneud cais trwy UCAS?

Unwaith y byddwch wedi gwneud cais, bydd UCAS yn anfon eich cais ymlaen atom. Byddwch yn cael gwybod pan fyddwn wedi derbyn eich cais a byddwn yn penderfynu a allwn gynnig lle i chi ai peidio. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd ar ôl i chi wneud cais drwy UCAS ar gael ar wefan UCAS.   

Ar ôl cyflwyno'ch cais UCAS mae'n bwysig eich bod yn gwirio eich UCAS Hub yn rheolaidd. Dyma lle byddwch yn cael gwybod am ein penderfyniad ynghylch cynnig lle i chi i astudio ym Mhrifysgol Bangor.

Os byddwn yn gwneud cynnig i chi astudio yma, byddwn yn anfon gwybodaeth a chyfarwyddiadau perthnasol atoch yn syth i'r cyfeiriad e-bost a roddwyd gennych ar eich ffurflen gais UCAS - felly gwiriwch eich mewnflwch yn rheolaidd a rhowch wybod i UCAS am unrhyw newidiadau yn eich cyfeiriad e-bost.

Os cewch gynnig le ym Mangor, cewch gynnig Amodol neu Ddi-amod

Mae Di-amod yn golygu eich bod eisoes wedi ateb y meini prawf y mae’r Brifysgol yn gofyn amdanynt.

Mae Amodol yn golygu y bydd yn rhaid ichi gyrraedd y safon a bennir ganddi - fel rheol, trwy ennill rhai graddfeydd penodol yn eich arholiadau.

Os ydym ni wedi cynnig lle i chi astudio yma, fe'ch gwahoddir i fynychu Diwrnod y Ymgeiswyr. Hyd yn oed os rydych wedi bod i Ddiwrnod Agored yma, byddwch yn elwa o ddod i Ddiwrnod i Ymgeiswyr gan bydd yn rhoi profiad gwahanol sydd wedi ei deilwro i chi. Byddwch yn cael cyfle i fynychu sesiwn blasu a chael mwy o fanylion am eich pwnc dewisol.

Unwaith y bydd yr holl brifysgolion yr ydych wedi gwneud cais iddynt wedi gwneud eu penderfyniadau, bydd UCAS yn cysylltu â chi gyda dyddiad cau ar gyfer eich atebion. Rhaid i chi nodi Dewis Pendant a Dewis Wrth Gefn, a Gwrthod yr holl gynigion eraill. Dylech wirio'r adran 'Your choices' o'ch cais ar wefan UCAS a nodi eich penderfyniadau yno. Fel rheol, cewch tua pedair wythnos i ystyried eich cynigion a gwneud eich penderfyniad.

Beth yw Dewis Pendant?

Dylai eich Dewis Pendant o brifysgol fod yr un yr ydych fwyaf awyddus i fynd iddi. Wrth wneud hon yn Ddewis Pendant, rydych yn dweud eich bod yn cytuno i astudio yno, cyhyd â’ch bod yn cydymffurfio ag amodau eich cynnig.

Beth yw ystyr Dewis Wrth Gefn?

Eich prifysgol wrth gefn yw hon, felly, os na chewch y graddfeydd sydd eu hangen ar gyfer eich dewis cyntaf, yna, gyda lwc, byddwch wedi cyrraedd y safon sy’n ofynnol ar gyfer y Dewis Wrth Gefn. Pan fyddwch yn penderfynu ynglŷn â Dewis Wrth Gefn, mae’n syniad da sicrhau eich bod yn ffyddiog y gellwch ateb y meini prawf hynny. Peidiwch â dewis prifysgol sydd wedi pennu amodau tebyg i’ch Dewis Pendant.

Mae cymorth ar gael i helpu gyda costau astudio ar gyfer gradd israddedig - bydd yr union gymorth ariannol sydd ar gael i chi yn dibynnu ar ba ran o'r DU rydych chi'n byw.

Mwy am Cyllid Myfyrwyr Israddedig

Rydym yn cynnig amryw o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr newydd.

Mwy am ysgoloriaethau a bwrsariaethau 

Rydym yn rhoi sicrwydd o ystafell mewn llety Prifysgol i ymgeiswyr israddedig newydd sydd: 

  • yn gwneud cais ar gyfer cwrs llawn-amser sy'n dechrau fis Medi
  • yn gwneud cais ar gyfer cwrs sydd wedi ei leoli yn ein campws ym Mangor
  • yn dewis Bangor fel eu dewis Cadarn
  • yn gwneud cais am le mewn neuadd erbyn 31 Gorffennaf.

Sylwch, mae ein llety i israddedigion yn bennaf yn ystafelloedd i un, yn rhai en-suite a chyda chyfleusterau hunanarlwyo. Os gwnewch gais am le mewn neuadd cyn y dyddiad cau, sef 31 Gorffennaf, byddwch yn gallu dewis pa ystafell fyddai orau gennych.

Mwy am Llety i Fyfyrwyr

Bydd UCAS yn cadarnhau eich lle i astudio yma. Ar gyfer mynediad mis Medi, byddwn yn anfon e-bost atoch ym mis Awst gyda gwybodaeth am y broses gofrestru myfyrwyr, trefniadau cyrraedd a'r wythnos groeso.