Pnawn Agored Addysg
Hoffech ddarganfod mwy am fod yn athro?
Ymunwch â ni ar gyfer ein pnawn agored i ddarganfod mwy am:
- Ein rhaglenni – cewch mwy o wybodaeth am y cyrsiau rydym yn eu cynnig
- Ariannu eich gradd – cewch wybodaeth am gyllid a chymhellion sydd ar gael
- Profiad myfyrwyr - cewch glywed gan fyfyrwyr presennol
- Eich dyfodol fel athro – cyfle i sgwrsio gydag athrawon
- Cefnogaeth – cewch fwy o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael pan fyddwch yn dilyn cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg
Ymunwch gyda ni 7fed o Ebrill, 4yp - 6yp Hen Goleg, Prifysgol Bangor.