Mae Sioe Addysg Genedlaethol 2024 yn dychwelyd i Landudno ddydd Gwener, 14 Mehefin 2024, gyda chyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor, Einir Williams, yn chwarae rhan ganolog yn ei sefydlu yng Ngogledd Cymru.
Mae’r Sioe Addysg Genedlaethol yn cyflwyno seminarau ysbrydoledig gan arweinwyr y sector addysgol, ac yn rhoi cyfleoedd i athrawon ac eraill sy’n ymwneud ag addysg gwrdd ag amrywiaeth eang o arddangoswyr sy’n darparu’n benodol ar gyfer y sector addysg, yn amrywio o’r blynyddoedd cynnar i addysg bellach.
Mae Einir Williams, sydd wedi graddio o Brifysgol Bangor mewn Addysg a Pholisi Cymdeithasol, yn dod â dros bymtheg mlynedd o brofiad addysgu yng ngogledd Cymru, lle bu’n ddirprwy bennaeth a phennaeth. Arweiniodd ei hymroddiad i addysg at newid yn ei gyrfa, gan symud i Gaerdydd i gyfrannu at y proffesiwn mewn ffyrdd newydd. Gan ymuno â'r Sioe Addysg Genedlaethol ac ‘NSM Training & Consultancy’, roedd Einir, yn awyddus i ddod â’r gynhadledd lwyddiannus, sydd eisoes wedi’i sefydlu yng Nghaerdydd, i fyny i ogledd Cymru, gan bwysleisio pwysigrwydd darparu cyfleoedd cyfartal ar gyfer datblygiad proffesiynol ym mhob rhanbarth.
Wrth adfyfyrio ar arwyddocâd y Sioe, dywedodd Einir, “Fel rhywun sydd â’i gwreiddiau’n ddwfn ym myd addysg yng ngogledd Cymru, rwy’n falch o fod wedi ehangu’r llwyfan hwn i fy ardal leol a’i fod wedi’i gefnogi gan sefydliadau fel fy alma mater, Prifysgol Bangor, sy’n chwarae rhan ganolog wrth feithrin addysgwyr y dyfodol. Mae'r galw am y Sioe Addysg Genedlaethol yn Llandudno yn tanlinellu'r angen am gefnogaeth a datblygiad parhaus yn y sector addysg."
Nod y Sioe yw rhoi cyfleoedd i addysgwyr wella eu sgiliau, codi safonau addysgu, a chyfoethogi profiadau dysgu. Gall y rhai sy’n dod ddisgwyl mynediad i dros 40 o seminarau datblygiad proffesiynol parhaus (DPP), strategaethau amhrisiadwy, adnoddau i gefnogi dysgwyr, a chyfleoedd rhwydweithio gyda chyfoedion ac arbenigwyr yn y diwydiant. Bydd arddangoswyr yn arddangos y cynhyrchion a'r gwasanaethau diweddaraf sydd ar gael i'r sector.
Mae’r Athro Enlli Thomas yn Bennaeth Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas, ac Athro Ymchwil Addysg ym Mhrifysgol Bangor, a phwysleisiodd ymrwymiad y Brifysgol i gefnogi digwyddiadau fel y Sioe Addysg Genedlaethol. “Fel addysgwyr, ein cyfrifoldeb ni yw meithrin amgylchedd o ddysgu a datblygu parhaus. Rydym yn falch o gefnogi mentrau sy'n grymuso athrawon ac yn cyfrannu at ddatblygiad y proffesiwn. Byddwn yn cyflwyno pynciau seminar sy'n deillio o'n gwaith ymchwil ein hunain, megis y project 'Ein Llais Ni' sy'n mabwysiadu dull gweithredu cyd-adeiladol at ddatblygu a gwerthuso strategaethau a dulliau addysgu a luniwyd i ddatblygu sgiliau llafaredd disgyblion yn y Gymraeg. Mae’r cyfleoedd hyn i ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol sy’n seiliedig ar ymchwil a hyfforddiant i athrawon yn amhrisiadwy, i athrawon ac i ymchwilwyr fel ei gilydd”.
Ychwanegodd Einir 'Rwy'n arbennig o falch bod y digwyddiad yn cymryd i ystyriaeth y cwricwlwm llawn yng Nghymru, yn enwedig canolbwyntio ar gefnogi addysg trwy gyfrwng y Gymraeg gyda phrojectau fel Ein Llais ni. Edrychaf ymlaen at ddal i fyny â wynebau cyfarwydd a gwneud cysylltiadau newydd yn Llandudno!”
I gael rhagor o wybodaeth am y Sioe ewch i https://sioeaddysggenedlaethol.com/