Llyfrynnau ar-lein newydd yn helpu athrawon i ddarganfod testunau amrywiol yn Gymraeg a Saesneg
Mae Mrs Gwawr Maelor, o’r Ysgol Addysg, Dr Sarah Olive, o’r Ysgol Addysg, a Phrifysgol Aston, a Dr Mary Davies o Brifysgol Aston, wedi lansio dau lyfryn ar-lein wedi eu hanelu at athrawon yng Nghymru a thu hwnt: ‘Testunau Amrywiaethol yn Gymraeg’ a ‘Testunau Amrywiaethol yn Saesneg’. Mae’r llyfrynnau wedi eu datblygu mewn cydweithrediad â GwE (gwasanaeth gwella ysgolion Gogledd Cymru) ac athrawon lleol. Mae Dr Lowri Jones, Ysgol Addysg, hefyd wedi rhoi cyngor ar y llyfrynnau Cymraeg. Eu bwriad yw helpu athrawon – yn ogystal â rhieni, llyfrgellwyr, a llyfrwerthwyr – i adnabod testunau amrywiol ac awduron o’r mwyafrif byd-eang, sydd wedi eu hysgrifennu’n wreiddiol yn Gymraeg neu Saesneg, neu sydd wedi eu cyfieithu i’r Gymraeg neu’r Saesneg. Mae fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r ddau lyfryn ar gael am ddim. Mae rhestr o ddeg testun amrywiol yn y Gymraeg gan awduron o’r mwyafrif byd-eang hefyd ar gael am ddim ar-lein, yn y ddwy iaith, ac yn ymddangos yng nghyflwyniad golygyddol Olive i'r cyfnodolyn Jeunesse: Young People, Texts and Cultures (16.1)
Mae’r llyfrynnau eisoes wedi cael eu harddangos yng Ngŵyl Addysg Gwrth-hiliaeth BAMEed Wales yng nghampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ym mis Mehefin, yn ogystal â chynhadledd flynyddol Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) yng nghampws Trefforest Prifysgol De Cymru ym mis Gorffennaf. Dywedodd un athro Llenyddiaeth Saesneg, gan ymateb yn ddienw: 'Mae'n dda gwybod bod gan fy ymarfer yn yr ystafell ddosbarth sylfaen gadarn mewn ymchwil. [Mae'r llyfrynnau'n dangos] buddsoddiad cryf mewn amrywiaeth ystafelloedd dosbarth'. Dywedodd addysgwr arall, 'roedd y fideo darllen er pleser yn arbennig o addysgiadol'. Rydym yn parhau i geisio adborth pellach am y llyfrynnau gan amrywiaeth fawr o randdeiliaid. Mae cyfle i’r sawl sy’n cwblhau’r arolwg adborth ar-lein gymryd rhan mewn raffl i ennill un o ddeg tocyn llyfr gwerth £20.
Mae pob llyfryn yn cynnwys gwe-ddolenni a throsolwg byr o adnoddau presennol ar gyfer adnabod testunau amrywiol gan sefydliadau llenyddol a diwylliannol, cyfnodolion addysgu, cymdeithasau proffesiynol, ac arbenigwyr cysylltiedig. Mewn ymateb i geisiadau gan athrawon y buom yn ymgynghori â nhw trwy GwE, cymerwyd gofal i gyfleu pa mor hawdd yw hi i ddefnyddwyr nodi addasrwydd testunau yn ôl grŵp oedran, lefel darllen, a diddordebau eu plant ar gyfer pob adnodd dan sylw. Mae GwE’n defnyddio'r llyfrynnau gydag athrawon o Ogledd Cymru ar eu rhaglen Darllen er Pleser.
Ategir y llyfrynnau gan erthygl o waith yr awduron, ac a adolygwyd gan gymheiriaid, sy’n dwyn y teitl ‘Addysgu Llenyddiaethau mewn Ysgolion Uwchradd yng Nghymru’. Mae’r erthygl ar gael yn rhad ac am ddim ac yn ddwyieithog yng Nghylchgrawn Addysg Cymru (26.1). Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o adnoddau i'r cyhoedd a gyhoeddwyd gan yr ymchwilwyr, y mae gwybodaeth amdanynt eisoes wedi ymddangos yn y Bwletin ac sydd ar gael i bawb ar-lein. Ariannwyd yr ymchwil yn wreiddiol gan arian Sarah a Gwawr o grant CEN7 Llywodraeth Cymru, a oedd yn amlygu pa mor absennol oedd awduron o’r mwyafrif byd-eang wrth addysgu llenyddiaethau mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru, er gwaethaf amcanion Llywodraeth Cymru a fynegir mewn polisïau megis Cymru Wrth-hiliol a Chwricwlwm i Gymru. Mae’r ymchwil ar y cyd yn parhau gyda chyllid grant Cyfri Cyflym Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) trwy Brifysgol Aston.