Taith Fasnach Llywodraeth Cymru i MIT Boston, Massachusetts – 'Busnesau Newydd ac Ecosystemau Entrepreneuraidd'
Cynrychiolwyd Prifysgol Bangor gan Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil y Rhanbarth, yr Athro Rosalind Jones (Roz Jones) ar Daith Fasnach wythnos o hyd gan Lywodraeth Cymru i Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) Boston yn ddiweddar. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn partneriaeth tymor hir gyda MIT sy’n cynnal rhaglen Partneriaid Cyswllt Diwydiannol gyda gwledydd tramor. Fel rhan o’r ymweliad, a ganolbwyntiai ar ‘Entrepreneuriaeth a Datblygu Ecosystemau Entrepreneuraidd’, cymerodd y cyfranogwyr ran mewn cynhadledd Busnesau Newydd ac Ecosystemau Entrepreneuraidd a oedd yn agored i entrepreneuriaid, buddsoddwyr a rhanddeiliaid eraill, gan gymryd rhan mewn rhaglen lawn o ymweliadau â Chanolfannau Ymchwil ac Arloesi, gan ganolbwyntio ar enghreifftiau o arloesi yn y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Roedd ymweliadau â’r campws yn cynnwys ymweliad â’r Sloane Management School a chafodd y grŵp gyfle i gwrdd ag entrepreneuriaid llwyddiannus a gweld sut mae addysg entrepreneuriaeth yn cael ei datblygu ochr yn ochr â rhaglenni gradd yn y celfyddydau, gwyddoniaeth a thechnoleg. Roedd y ddirprwyaeth yn cynnwys cynrychiolwyr academaidd o bob un o Brifysgolion Cymru, a hedfanodd Roz o Fanceinion yn yr un awyren â’r Athro Iain Donnison o Aberystwyth, Cyfarwyddwr yr Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) a Dr Robert Bolam, Darllenydd mewn Peirianneg Awyrenegol o Brifysgol Wrecsam, ynghyd â Thom Webb, Cyfarwyddwr Newable dros Ogledd Lloegr a Chymru, arbenigwr mewn buddsoddi mewn cwmnïau sydd ar dwf, masnachu ac allforio. Hedfanodd cydweithwyr eraill yno o Lundain a chyfarfu pawb â’i gilydd yn Boston ar ôl glanio. Bu’r daith yn gyfle gwych i osod sylfaeni ar gyfer cefnogi agenda codi’r gwastad yng Ngogledd Cymru, gan gysylltu Prifysgolion Gogledd Orllewin, Gorllewin a Gogledd-ddwyrain Cymru â’r rheiny yng Nghanolbarth a De Cymru ynghyd â Busnes mewn Ffocws, Holly Savage a chydweithwyr Busnes Cymru a chydweithwyr o fenter gymdeithasol Cwmpas sydd wedi’i lleoli yn Ne Cymru, ond sy’n gweithio ar draws Cymru gyfan. Roedd y ddirprwyaeth hefyd yn cynnwys cynrychiolaeth o Lywodraeth Cymru gan gynnwys Abigail Phillips, Pennaeth Gweithrediadau Rhanbarthol Llywodraeth Cymru, Carys Roberts, Pennaeth Entrepreneuriaeth a Busnes Cymru, a Lewis Dean o Rwydwaith Arloesi Cymru. Cafodd y ddirprwyaeth hefyd gyfarfod preifat gyda Swyddfa Is-gennad Prydain yn Boston a gwneud cysylltiadau gwerthfawr at y dyfodol o ran cyfleoedd allforio ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg, a hefyd ar gyfer hyrwyddo Cymru fel gwlad i ymweld â hi a gwlad i allforio cynhyrchion lleol o ansawdd uchel, megis bwyd a diod, iddi.