Fy ngwlad:
Hen Goleg building, home of Bangor Business School

50 mlynedd o ymchwil yn y Sefydliad Cyllid Ewropeaidd (IEF)

Yn dangos desg gan gynnwys taflen gyfrifeg, sbectol, cyfrifiannell a beiro.

Beth yw cynhadledd yma?

Nod y gweithdy hwn yw dathlu cyfraniad 50 mlynedd y Sefydliad Cyllid Ewropeaidd (IEF) i ymchwil mewn bancio, cyllid ac economeg. Ers ei sefydlu ym 1973, mae'r ganolfan ymchwil wedi bod yn arweinydd meddwl ac wedi cyfrannu ymchwil flaengar sydd wedi cael effaith wirioneddol ar y diwydiannau bancio a chyllid. Bydd y gweithdy hwn yn casglu ysgolheigion ac ymarferwyr, gan gynnwys ymchwilwyr ifanc a phrofiadol, i gyflwyno ymchwil gyfredol sy'n ceisio mynd i'r afael â materion a heriau cyfredol sy'n wynebu'r sectorau bancio ac ariannol.

Amdanom ni

Mae'r Sefydliad Cyllid Ewropeaidd yn cynnal ymchwil academaidd amserol ac arloesol mewn bancio, cyllid, cyfrifeg a dadansoddi data. Gan dynnu ar brofiad eang ein haelodau craidd a chysylltiol, mae’r Ganolfan yn cynnig dadansoddiad arbenigol o faterion a heriau cyfredol sy’n wynebu’r sectorau bancio ac ariannol. Mae'r Ganolfan yn gweithio gyda sefydliadau amlochrog, llywodraethau cenedlaethol, awdurdodau rheoleiddio, a sefydliadau ariannol cyhoeddus a phreifat i hyrwyddo penderfyniadau polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth, cystadleurwydd o fewn y diwydiant, twf economaidd, a chyflawni economïau a chymdeithasau mwy cynhwysol.

Cofrestru

CLICIWCH AR Y CYSWLLT HWN i lenwi'r ffurflen gofrestru ar gyfer Cynhadledd IEF

Galwadau Papur

Bydd y gweithdy yn ystyried cyflwyniadau ar bynciau yn ymwneud â bancio, economeg, cyllid, cyfrifeg, llywodraethu, risg credyd, arloesi ariannol, dadansoddeg data, AI, technoleg, rheoli asedau, a bydd croeso hefyd i bynciau eraill sy'n berthnasol i fancio ac economeg.


Gellir cyflwyno cynigion i e.t.jones@bangor.ac.uk

Rhaglen

I'w cadarnhau 

Llety

Y Ganolfan Rheolaeth
Mae'r Ganolfan Rheolaeth wedi'i graddio fel Llety Gwesteion 4 seren Croeso Cymru ac mae'n cynnig 56 ystafell wely en-suite i westeion. Mae gan lawer o'r ystafelloedd olygfeydd godidog o'r Fenai ac Ynys Môn. Mae pob ystafell wely i westeion yn en-suite gyda chyfleusterau gwneud te a choffi am ddim a setiau teledu sgrin fflat digidol.

Dyfynnwch y cyfeirnod archebu hwn wrth archebu - GA01954. I archebu eich ystafell e-bostiwch - mdcevents@bangor.ac.uk

Management Centre, Bangor Business School, Bangor University

Cysylltwch â ni / Contact Us

Management Centre, Bangor Business School, Bangor University