Ymunwch â Dr Beata Kupiec-Teahan Darlithydd mewn Rheolaeth ar gyfer y Sesiwn Blasu ar-lein AM DDIM
Daeth Deallusrwydd Artiffisial yn rhan annatod o fywyd beunyddiol, mae’n grymuso busnesau i awtomeiddio llifoedd gwaith, gwneud y penderfyniadau gorau, a symleiddio gweithrediadau. Gall Deallusrwydd Artiffisial hefyd chwyldroi sut mae myfyrwyr yn dysgu. Dychmygwch feistroli cysyniadau cymhleth nid trwy ddysgu ar y cof, ond trwy gydweithio â Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol (GenAI) trwy enghreifftiau y gellir eu cyfnewid, cyfatebiaethau byw, ac archwilio senarios o’r byd go iawn. Trafferthion gyda damcaniaethau rheoli haniaethol? Gall Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol efelychu astudiaethau achos deinamig, a dod ag egwyddorion yn fyw trwy gymwysiadau rhyngweithiol, ac iddynt gyd-destun cyfoethog. Mae'r sesiwn yn arddangos Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol fel cynghreiriad i ddysgu: teclyn nad yw’n rhoi atebion ichi i’w copïo-gludo, yn hytrach mae’n eich herio i feddwl yn feirniadol, gofyn cwestiynau gwell, a datrys problemau’n greadigol.
Cewch weld ein Hysbysiadau Preifatrwydd yma. Trwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru rydych yn cytuno â thelerau defnyddio a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Cewch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i dynnu'ch cydsyniad yn ôl neu newid eich dewisiadau cydsyniad.
Caiff y sesiwn ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Archwiliwch y gyfres Sesiynau Blasu: