Darganfod Economeg gydag Ysgol Busnes Bangor
Ymunwch â ni yn ein cynhadledd Economeg gyntaf i bobl ifanc gogledd Cymru, a gynhelir yn Ysgol Busnes Prifysgol Bangor, ar y cyd â Darganfod Economeg a Llywodraeth Cymru.
Bydd y diwrnod yn cynnwys cyfres o weithgareddau dan arweiniad siaradwyr o gefndiroedd amrywiol, gan gynnwys myfyrwyr economeg presennol. Wedi’i gynllunio i roi gwell dealltwriaeth o economeg i bobl ifanc trwy gyflwyno cymwysiadau enghreifftiol mewn ystod o gyddestunau, a chyflwyno gwahanol yrfaoedd economegwyr proffesiynol.
Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddysgu mwy am sut i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Economegydd Ifanc y Flwyddyn y Gymdeithas Economaidd Frenhinol, a noddir gan KPMG. Nod y gystadleuaeth yw annog myfyrwyr i gynhyrchu eu syniadau eu hunain wrth ddadansoddi’r problemau economaidd cyfoes y mae’r Deyrnas Unedig, a’r byd, yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
Hoffem wahodd blynyddoedd 11,12 a 13 i ymuno â ni ar y campws yn y digwyddiad unigryw hwn ar 24 Hydref. Bydd cinio a lluniaeth ar gael.
Gall pob ysgol ddod ag uchafswm o 10 disgybl. Os oes galw cynyddol o fewn yr ysgol a hoffech ddod â mwy na 10 disgybl, cysylltwch â ni yn uniongyrchol drwy e-bostio busnes@bangor.ac.uk.
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, cliciwch yma.
Rhaglen
Dechreuwch eich diwrnod gyda lluniaeth a pharatowch ar gyfer yr hyn sydd i ddod!
Ymunwch â Dr Jo Davies (Pennaeth Economeg a Gwerth Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru), Sam McLoughlin (Uwch Reolwr Ymgyrchoedd, Discover Economics), Dr Rhys Ap Gwilym (Uwch Ddarlithydd mewn Economeg), a myfyrwyr o Ysgol Busnes Bangor am sesiwn ddiddorol ac iddi’r teitl “What is Economics and Why Study It?”. Dysgwch sut mai astudio economeg yw’r cyfle mawr nesaf i chi efallai.
Ymunwch â Dr. Graeme Pearce (Uwch Ddarlithydd mewn Economeg), Nia Weatherly (Darlithydd mewn Economeg) a myfyrwyr Economeg Ysgol Busnes Bangor am gip olwg sydyn i fasnach fyd-eang a phrofwch eich sgiliau mewn meistroli economeg ryngwladol.
Bydd Dr Edward Jones (Uwch Ddarlithydd mewn Economeg) yn arwain trafodaeth ar bennu cyllideb a rheoli adnoddau strategol, gan eistedd i lawr gyda Dr Jo Davies (Pennaeth Economeg a Gwerth Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru), a fydd yn amlygu rôl economeg iechyd wrth gynllunio adnoddau gofal iechyd a gwariant wedi ei gyllidebu. Bydd y sesiwn hon yn dangos sut y gellir defnyddio economeg iechyd o lefel byrddau iechyd lleol i lefel Llywodraeth Cymru i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau. Bydd yr economegydd ifanc Llŷr Griffiths yn tynnu sylw at y rôl hollbwysig y mae economegwyr newydd yn ei chwarae wrth gefnogi penderfyniadau lefel uchel o fewn Llywodraeth Cymru. Bydd y sesiwn hon yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar yr effaith sylweddol y mae economeg yn ei chael ar sut yr eir ati i lunio polisïau a gwella bywydau.
Lluniaeth a seibiant - llawer mwy i ddod!
Siawns i glywed gan Rosie Neville (Cynllun Masnachu Allyriadau’r Deyrnas Unedig), a Molly Edmonds (Polisi Masnach) a Llŷr Griffiths (Polisi Economaidd). Darganfyddwch sut mae’r economegwyr cynorthwyol hyn eisoes yn dylanwadu ar ddyfodol Cymru!
Bydd Sam McLoughlin, sy’n Uwch Reolwr Ymgyrchoedd, yn eich arwain ar daith fer ond un yn llawn mewnwelediadau ynghylch pwysigrwydd economeg. Bydd Bronwen Lloyd-Williams, Dirprwy Brif Swyddog Cyllid Ysbyty Glan Clwyd, yn taflu goleuni ar y rôl hollbwysig y mae economeg yn ei chwarae mewn gofal iechyd. Hefyd, mynnwch fewnwelediadau unigryw o gystadleuaeth Economegydd Ifanc y Flwyddyn 2024 a darganfod sut y gallech chi ennill yn 2025.
Bydd Sam McLoughlin (Uwch Reolwr Ymgyrchu) a Riaz Anwar (Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifeg) yn cloi’r diwrnod gyda phrif bwyntiau a mewnwelediadau allweddol y diwrnod. Ni fyddwch eisiau colli sesiwn olaf y dydd!
Amser i fynd adref - diolch am fod yn rhan o’r diwrnod cyffrous hwn o ddarganfod a dysgu!