Academyddion yn ymweld â TomSust 2023 ar ran Canolfan Ymchwil Rhanbarth
Mynychodd dau o’n haelodau Rhanbarth â digwyddiad TomSust 2023 – Gweithdy Twristiaeth, Cynaliadwyedd a Datblygu Rhanbarthol eleni. Roedd Linda Osti, Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth Twristiaeth, yn cadeirio tra bod Rhys Ap Gwilym, Uwch Ddarlithydd mewn Economeg, wedi ymuno â'r digwyddiad oedd yn rhedeg ar draws 2 ddiwrnod yn Brifysgol Rydd Bozen-Bolzano (Campws Bruneck-Brunico yng Ngogledd yr Eidal).
Roedd y gweithdy wedi denu llawer o ymwelwyr sydd â diddordeb mewn cyfrannu at ddyfnhau dealltwriaeth wyddonol o gynaliadwyedd twristiaeth a datblygiad rhanbarthol o wahanol ddisgyblaethau a safbwyntiau. Roedd amrywiaeth eang o bapurau yn cael ei drafod, o fodelu economaidd ac ymddygiad ymwelwyr i agwedd entrepreneuriaid tuag at arferion twristiaeth gynaliadwy. Gwelodd y digwyddiad TomSust 2023 bapurau o’r Eidal, Sbaen, yr Almaen, y Swistir, Norwy, Chile, Uruguay, Awstria a'r DU. Roedd y digwyddiad yn cynnwys “sesiwn Cwrdd â’r golygydd” gyda Marianna Sigala, golygydd Journal of Hospitality & Tourism Management a Journal of Service Theory & Practice, a Robert Steiger, golygydd Journal of Outdoor Recreation and Tourism.
Mi wnaeth Linda gymryd llun sydyn o'r gweithdy isod, lle gwelwn academyddion ar draws y byd yn ymuno a'r digwyddiad.
Isod mae llun y rhaglen.