Arwain y ffordd - Entrepreneuriaid yn mentora merched yn Ysgol Busnes Bangor
Fel rhan o agenda Athena SWAN Ysgol Busnes Bangor, sef ymrwymiad i gydraddoldeb rhywedd a hybu gyrfaoedd merched yn yr ysgol, mae tair myfyrwraig Ysgol Busnes Bangor wedi cymryd rhan mewn rhaglen fentora gyda thair merch fusnes lwyddiannus lleol. Roedd yr entrepreneuriaid yn cynnwys Jess Lea-Wilson o Halen Môn, Sally Bowyer, perchennog Brynteg Glamping a Julie Williams, perchennog The Coaching Den 4 Life.
Cafodd y myfyrwyr brofiadau ac arweiniad gwerthfawr gan yr entrepreneuriaid, gydag un yn dweud ei bod nid yn unig wedi cael profiad gwaith ymarferol, ond wedi gweithio’n agos gyda’r entrepreneur drwy gydol y cyfnod ac wedi cael cyngor gyrfaol. “Mae Jess wedi fy helpu i osod nodau ar gyfer y cyfnod mentora a thu hwnt, cefais gyfle i ddysgu a gweithio gyda hi i ddatblygu cynnyrch y cwmni, a gwneud gwaith ymchwil i ddeall eu cystadleuwyr. Roedd yn brofiad gwych”.
Roedd un entrepreneur hyd yn oed wedi ysbrydoli a chefnogi un o’n myfyrwyr i sefydlu ei busnes ei hun. “Trwy’r rhaglen fentora hon, rwyf wedi magu’r hyder i rwydweithio ac rwy’n teimlo’n fwy hyderus am fy ngalluoedd fy hun. Rwyf wedi dechrau cwmni o’r enw Be Heard, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwroamrywiol. Y nod yw cefnogi pobl ifanc â chyflyrau niwroamrywiol mewn addysg ac i gyflogaeth. Yn ogystal â gweithio i ddatblygu cyrsiau hyfforddi i sefydliadau fel y gallant gefnogi unigolion yn y gweithlu. Rwy'n teimlo bod gen i lwybr gyrfa o'm blaen yn awr".
Mae Rebecca Bowyer, sydd wedi sefydlu Be Heard hefyd yn bwriadu mynd i ddigwyddiad Women in Business & Tech Expo Karren Brady.