Bydd yr Athro Bruce Vanstone yn ymuno ag Ysgol Busnes Bangor yr wythnos hon o Brifysgol Bond, Awstralia, fel pennaeth newydd yr ysgol.
Cyn ymuno â'r byd academaidd, cafodd Bruce yrfa helaeth mewn diwydiant, gan weithio mewn nifer o gwmnïau rhyngwladol, yn Awstralia a'r Deyrnas Unedig. Gadawodd ddiwydiant i ddilyn gyrfa yn y byd academaidd, gan ennill doethuriaeth mewn cyllid cyfrifiadol yn 2006.
Ers hynny, mae Bruce wedi ennill nifer o wobrau ymchwil a dysgu o bwys, tra’n parhau i ddysgu, gwneud ymchwil a gweinyddu ymchwil mewn swyddi academaidd. Mae gwaith Bruce yn canolbwyntio ar ddefnyddio technegau modelu rhagfynegol a yrrir gan ddata i ddatrys problemau busnes anodd. Mae wedi cymhwyso ei waith mewn meysydd mor amrywiol ag iechyd, logisteg, cyllid a marchnata. Mae ganddo ddiddordeb arbennig hefyd mewn dod o hyd i well ffyrdd o gymhwyso technegau dysgu peirianyddol a gwyddoniaeth ddata i fuddsoddi a masnachu.
Mae Bruce yn eiriolwr cryf dros wneud penderfyniadau ar sail data, partneriaethau cydweithredol, a manteision gweithleoedd wedi eu grymuso.
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â phrifysgol sydd ag enw mor rhagorol am ddysgu ac ymchwil
“Rwy’n edrych ymlaen at arwain Ysgol Busnes Bangor a gweithio mewn amgylchedd cydweithredol gyda phobl wych ar gampws hardd.
"Cefais fy nenu gyntaf i Brifysgol Bangor oherwydd ei hanes ardderchog o ddysgu ac ymchwil, ac ymrwymiad cryf i wella profiad myfyrwyr.
"Er bod Ysgol Busnes Bangor eisoes yn arweinydd ym maes addysg busnes, mae cyfleoedd newydd ar gael i dyfu yn y dyfodol bob amser, megis meysydd cynaliadwyedd a dadansoddeg data, sy'n tyfu'n gyflym. Edrychaf ymlaen at weithio gyda fy nghydweithwyr i hybu’r Ysgol Busnes a rhoi’r cyfleoedd newydd hyn ar waith.”
Ychwanegodd yr Athro Martina Feilzer, Deon Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes:
“Rwy’n falch iawn o groesawu Bruce i’r Coleg ac yn edrych ymlaen at weithio gydag ef i adeiladu ar enw da byd-eang yr Ysgol Fusnes ac ehangu ein darpariaeth mewn addysgu ac ymchwil i feysydd hanfodol fel cynaliadwyedd a dadansoddeg data. Mae gan Ysgol Busnes Bangor gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol ac mae Bruce yn dod â'r profiad, y hanes a'r brwdfrydedd i ddwyn y rhain i rym.”