Digwyddiad Rhanbarth entrepreneuriaeth hefo academaidd yn Lerpwl
Cyd-hwylusodd Dr Fariba Darabi, sy’n Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth, y digwyddiad, ‘Learning to fly: Entrepreneurship research as a living process of inquiry’ a gynhaliwyd yng Nghanolfan Entrepreneuriaeth Brett ym Mhrifysgol Lerpwl. Ariannwyd y digwyddiad gan yr European Council of Small Business and Entrepreneurship ynghyd â Grwpiau Diddordeb Arbennig Methodoleg Ymchwil ac Entrepreneuriaeth y British Academy of Management. Daeth 60 o academyddion o amryw o ddisgyblaethau ynghyd yn y digwyddiad i ddatblygu mewnwelediad newydd i'r cwestiwn 'Sut i sicrhau bod ymchwiliad i entrepreneuriaeth yn fwy diddorol a phwrpasol'?
Aeth academyddion o wahanol ddisgyblaethau, gan gynnwys rheoli, addysg ac anthropoleg, ati i rannu ystod o fewnwelediadau i’r cwestiwn hwn. Trwy gyfres o 'Weithredoedd Creadigol', fe wnaeth cynrychiolwyr ailddarganfod, ail-archwilio, ac ail-gysylltu ag ystyr ymchwiliad, gan ddatgelu arferion o ran yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn chwilfrydig ac a yw ymchwilwyr yn ystyried entrepreneuriaeth fel maes ymchwil. Ysbrydolwyd y cyfranogwyr i feddwl yn feirniadol ac i fyfyrio ar eu hymarfer ymchwil eu hunain.
Roedd y gweithdy’n herio safonau confensiynol ysgoloriaethau entrepreneuriaeth, gan roi cyfle i ddatblygu dealltwriaeth fwy cyd-destunol a phrosesol o wahanol ddulliau ymchwilio yn y maes gwyddorau cymdeithas.'