Dileu'r mwg o amgylch sigaréts a vapes: yr hyn y mae marchnata cymdeithasol yn ei ddweud wrthym am ymddygiad peryglus defnyddwyr
Mae podlediad ‘Penny for Your Thoughts’ mis Chwefror Ysgol Busnes Bangor bellach ar gael i wrando arno. Gwrandewch nawr!
Mae podlediad ‘Penny for Your Thoughts’ mis Chwefror newydd gael ei ryddhau. Mae rhifyn y mis hwn yn canolbwyntio ar Ddiwrnod Canser y Byd a gynhelir ar 4 Chwefror. Mae Diwrnod Canser y Byd wedi tyfu i fod yn rhywbeth cadarnhaol y gall pawb, ym mhobman, uno i’w gefnogi. Bob blwyddyn, mae cannoedd o weithgareddau a digwyddiadau'n cael eu cynnal ledled y byd i’n hatgoffa fod gan bob un ohonom ran i'w chwarae i leihau effaith byd-eang canser.
Fel rhan o Ddiwrnod Canser y Byd, mae podlediad ‘Penny for your Thoughts’ Ysgol Busnes Bangor yn rhoi sylw i garsinogenau hysbys iawn, gan gynnwys ysmygu a fepio. Trwy ddeall yn well ymddygiadau peryglus defnyddwyr a’r rôl y mae marchnata cymdeithasol yn ei chwarae wrth gyfathrebu risgiau o’r fath i ddefnyddwyr, mae academyddion, megis Dr Sara Parry, sy’n Uwch Ddarlithydd mewn Marchnata yn Ysgol Busnes Bangor, yn cyfrannu at leihau effaith byd-eang canser.
Mae Dr Sara Parry yn Uwch Ddarlithydd mewn Marchnata yn Ysgol Busnes Bangor. Mae ei gwaith ymchwil wedi’i gyhoeddi mewn llawer o gyfnodolion a gydnabyddir yn rhyngwladol megis y Journal of Business Research, y Journal of Consumer Behaviour a’r British Journal of Management. Sara yw Cadeirydd Athena Swan a Chynrychiolydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr Ysgol. Hi hefyd yw Pennaeth Blwyddyn 2 ar gyfer holl israddedigion Ysgol Busnes Bangor.
Cefnogwch y podlediad trwy wrando, rhannu, a dilyn trwy eich hoff ddarparwr podlediadau. Gwrandewch nawr!