Dr Linda Osti yn cyfrannu at cyfryngau rhyngwladol
Rhoddodd Dr Linda Osti sylwadau ar ddwy erthygl yn ddiweddar. Mae'r cyntaf o'r enw 'Cynnal a datblygu canolfannau trefol, sut i wneud eich hun yn ddeniadol' a gyhoeddwyd yn 'Economia e Innovazione' (Economi a Arloesedd) a'r ail 'Mae cwsmeriaid yn chwilio am brofiadau' a gyhoeddwyd ym mhapur newydd Almaeneg hynaf yr Eidal 'Dolomiten'.
Yn ei chyfweliad, mae Linda Osti yn trafod “cyflwr iechyd” presennol canolfannau trefol, gan ei ddisgrifio fel mater cymhleth sy’n cael ei ddylanwadu gan wahanol agweddau, megis amodau cymdeithasol, ffactorau amgylcheddol, a mynegiant diwylliannol.
Dywed Linda Osti bod rhai canolfannau hanesyddol wedi dod yn atyniadau twristiaeth eiconig dros yr 20 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae llawer o ganolfannau trefol wedi colli eu hatyniad a'u hunaniaeth oherwydd sawl ffactor. Yn gyntaf, disodlwyd siopau annibynnol gan siopau cadwyn. Yna, mae siopau wedi symud o strydoedd canolog i ganolfannau siopa maestrefol, ac yn fwy diweddar, mae siopa ar-lein wedi ennill ei blwyf. Gyda diflaniad y gwead masnachol, mae'r gwead diwylliannol hefyd wedi erydu, gan arwain at ddinasoedd a threfi yn colli eu hunaniaeth.
Mae hi'n nodi bod siopau, bwytai, bariau a thafarndai, a sefydlir gan ac ar gyfer y gymuned leol yn hytrach na thwristiaid yn unig, yn chwarae rhan arwyddocaol mewn gwarchod, trosglwyddo, ac esblygu hunaniaeth tref. Fodd bynnag, pan fydd y fasnach adwerthu a gwasanaethau arlwyo yn darparu ar gyfer twristiaid yn unig, mae'n arwain at golli dilysrwydd a hunaniaeth. Mae i hunaniaeth gymdeithasol ran hanfodol wrth feithrin ymdeimlad o berthyn a hyrwyddo balchder a chydlyniad cymdeithasol ymhlith dinasyddion. At hynny, gall hunaniaeth gymdeithasol gref fod yn ffactor allweddol wrth ddenu twristiaid a buddsoddwyr i ddinas, gan hyrwyddo twristiaeth ac amlygrwydd rhyngwladol. Felly, caiff cylch rhinweddol ei ffurfio pan gaiff siopau a gwasanaethau eu cynnal "gan drigolion, i drigolion," tra caiff cylch dieflig ei greu pan neilltuir lle ar gyfer busnesau sy'n canolbwyntio ar dwristiaid yn unig. Mae Linda Osti yn pwysleisio ymhellach y peryglon a ddaw yn sgil boneddigeiddio oherwydd twristiaeth, a all gael effaith negyddol ar y gymuned leol ac erydu bwrlwm a nodweddion unigryw lle.