Gyda chefnogaeth Prifysgol Bangor, datblygodd Bee Robotics Cyf o Gaernarfon brototeip sy'n puro wrin i adael sampl crynodedig ar gyfer dadansoddiad biolegol.
Wedi'i arwain gan y cydlynydd Osborn Jones, bu'r cwmni - sy'n arweinydd ym maes dylunio a gweithgynhyrchu datrysiadau robotig trin hylif uwch am fwy na 25 mlynedd - yn gweithio gyda'r Brifysgol i ddadansoddi a gwerthuso'r broses awtomataidd, ar ôl llwyddo i ennill Taleb Sgiliau ac Arloesedd (SIV), yr oedd modd ei defnyddio i gael cefnogaeth academaidd.
Roedd y cynllun Taleb Sgiliau ac Arloesedd yn cynnig cyfle i gwmnïau yng Ngwynedd, Ynys Môn, a Sir y Fflint gydweithio drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Datgelodd Osborn eu bod yng nghamau cynnar eu taith ond diolchodd i Edgar Hartsuiker, Uwch Ddarlithydd mewn Gwyddorau Biofeddygol yn Uned Ymchwil Canser Ysgol Feddygol Gogledd Cymru a Rheolwr Fab Lab, John Story – y ddau wedi’u lleoli ym Mhrifysgol Bangor – am eu “harloesi a’u harweiniad”.
“Roeddem yn gallu cael prawf llawer mwy dibynadwy trwy ganolbwyntio a phuro’r samplau wrin,” meddai Osborn.
“A’r hyn sy’n gosod hyn ar wahân i ddadansoddiadau sampl eraill yw awtomatiaeth; mae’n golygu y gallwn ymgymryd â’r broses yn llawer cyflymach.”
“Fodd bynnag, roedd yn bwysig iawn ein bod yn deall y wyddoniaeth y tu ôl i’r broses, a dyna lle’r oedd y gefnogaeth a gawsom gan y Brifysgol yn hollbwysig.”
Ychwanegodd: “Byddwn yn parhau i brofi, yn parhau i weithio ar hyn a gyda’r prototeip gallwn gymryd sampl a’i grynodi, gan leihau nifer yr atalyddion yr un pryd i ganiatáu profion diagnostig mwy sensitif.
“Nid wyf erioed wedi gweld unrhyw beth fel hyn gydag awtomatiaeth ar gyfer dadansoddi; nid oes ymyrraeth ddynol o gwbl, felly gallai fod yn arloesol wrth wneud diagnosis ac ymchwilio i wahanol gyflyrau meddygol.”
Ar ôl cydweithio â Bee Robotics o’r blaen, roedd John yn falch o helpu Osborn gyda’r ddyfais ddiweddaraf hon.
“Roedd Osborn wedi nodi techneg gymharol ddiweddar a newydd ac eisiau ei harchwilio, felly fe wnaethon ni greu peiriant a fyddai’n caniatáu iddo ddilyn y syniad hwnnw,” meddai.
“O ganlyniad, mae wedi gallu dangos gwerth y dechneg ac mae’n edrych ar ble y gellid defnyddio hyn, yn bennaf yn y sector iechyd.”
“Roeddem yn falch iawn o’i gefnogi yn ystod y cyfnod datblygu cychwynnol hwn ac rydym yn gyffrous i weld sut mae’r project yn datblygu.”
“Rydym hefyd am ddiolch i Osborn am y cyfle i gydweithio ac rydym yn gwahodd cwmnïau eraill yn gynnes i archwilio gweithio gyda thîm XLAB.”
Ychwanegodd Edgar: “Dyma enghraifft wych o gydweithredu amlddisgyblaethol rhwng cwmni lleol a Phrifysgol Bangor, gyda’r potensial i wella’r broses o ganfod clefydau amrywiol yn gynnar, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.”
Cefnogir y Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd gan Gyngor Gwynedd. Mae’r project wedi derbyn £360,000 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig ac mae wedi’i ymestyn tan 31 Mawrth.
Roedd tri math o daleb ar gael, y gellir eu hadbrynu mewn ystod o feysydd gan gynnwys ymchwil a datblygu, ymgynghoriaeth, sgiliau a hyfforddiant, defnyddio cyfleusterau prifysgol, defnyddio offer arbenigol, a mynediad at wybodaeth: Midi: Hyd at £5,000 am rhwng 5 ac 8 diwrnod o gefnogaeth; Maxi: Hyd at £10,000 am rhwng 10 a 15 diwrnod o gefnogaeth, a Talent, gyda gwerth hyd at £5,000 am interniaeth raddedig, 12 wythnos o hyd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd | Prifysgol Bangor neu e-bostiwch siv@bangor.ac.uk.
Ewch i Bee Robotics | Innovators in laboratory automation for the Biotech industry am y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf gan Bee Robotics.