A’r lle nesaf ar restr Medi Parry Williams, sef Sylfaenydd a Chyfarwyddwr MPW Making Places Work, yw Bangor, sydd eleni’n dathlu ei 1,500 o flynyddoedd.
Dyfarnwyd Taleb Sgiliau ac Arloesedd i Medi gan Brifysgol Bangor ac mae’n gweithio mewn partneriaeth ag academyddion i greu presenoldeb ar-lein a fydd yn hybu arlwy manwerthu ac adloniant y stryd fawr.
Ar y cyd â Dr Steffan Thomas, sy’n Uwch Ddarlithydd mewn Marchnata Busnes – a chyda chefnogaeth Cyngor Dinas Bangor – maent yn datblygu llwyfan rhithiol newydd ac yn archwilio ffyrdd o hyrwyddo siopau, caffis, bwytai a mwy ar-lein.
Mae sawl siop newydd a bar chwaraeon wedi agor, neu ar fin agor, yng nghanol y ddinas, ac mae Medi – a ddewiswyd yn ddiweddar i gynrychioli Llywodraeth y Deyrnas Unedig gan yr Adran Busnes a Masnach ar daith fasnach i Cannes, Ffrainc - yn credu bod y dyfodol yn addawol.
“Rwyf wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau mewn trefi a dinasoedd ar draws y wlad – gan gynnwys Trefi Smart Cymru – ac yn cefnogi busnesau ar y stryd fawr i ddefnyddio mewnwelediadau sy’n cael eu gyrru gan ddata i wneud penderfyniadau busnes mwy gwybodus,” meddai Medi, sy’n wreiddiol o Ynys Môn.
“Yn achos Bangor, mae’r dathliadau 1,500 yn gyfle gwych i arddangos y ddinas a rhoi hwb i’r stryd fawr, sydd wedi cael ei hadfywio yn y misoedd diwethaf.
“Mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Cyngor Dinas Bangor, a rhanddeiliaid allweddol, byddwn yn hyrwyddo’r newyddion cadarnhaol hwnnw ac yn creu bwrlwm, gan gefnogi’r busnesau hyn gyda strategaethau, defnyddio technoleg i archwilio tueddiadau a nifer ymwelwyr, a chyfeirio pobl at yr hyn sydd ar gael yma.
“Rwy’n ddiolchgar am gefnogaeth ac adnoddau’r brifysgol trwy’r daleb sgiliau ac arloesedd, a gyda’n gilydd, byddwn yn parhau i gydweithio i adeiladu llwyfan digidol y gall manwerthwyr cenedlaethol, busnesau a masnachwyr annibynnol elwa ohono am flynyddoedd i ddod.”
Adleisiodd Dr Thomas eiriau Medi, ac yn ei farn ef, bydd eu harbenigedd a'u hangerdd dros y rhanbarth yn golygu y bydd y flwyddyn hanesyddol hon hyd yn oed yn fwy arbennig.
“Mae’r berthynas yn parhau gyda ffocws ar y dathliadau 1,500, ond yn y tymor hir, byddwn wedi creu un pwynt cyfathrebu canolog da, sy’n dod â phawb ynghyd ag un weledigaeth glir, sef gyrru ymwelwyr a siopwyr i’r stryd fawr a hyrwyddo Bangor.”
Ychwanegodd Martin Hanks, Cyfarwyddwr Dinas Bangor: “Dros y 12 mis diwethaf rydym wedi gweld cynnydd yn y stryd fawr, mae’r ganolfan siopa wedi’i gwerthu, mae busnesau newydd yn ymddangos ac mae cynlluniau ar gyfer canolfan feddygol a chanolfan ddysgu newydd – rydym yn gweld adferiad ar y gweill.
“Gan fod hon yn flwyddyn mor nodedig, mae cyfres o ddigwyddiadau wedi’u trefnu, ac mae yna gynlluniau mawr ar y gweill. Ynghyd â’r gyda’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan Medi a’r brifysgol, rydym ar y trywydd iawn.”
Roedd y cynllun Taleb Sgiliau ac Arloesedd yn cynnig cyfle i gwmnïau yng Ngwynedd, Ynys Môn, a Sir y Fflint gydweithio drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Cefnogir y Cynllun gan Gyngor Gwynedd. Mae’r project wedi derbyn £360,000 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig ac mae wedi’i ymestyn tan 31 Mawrth.
Roedd tri math o daleb ar gael, y gellir eu hadbrynu mewn ystod o feysydd gan gynnwys ymchwil a datblygu, ymgynghoriaeth, sgiliau a hyfforddiant, defnyddio cyfleusterau prifysgol, defnyddio offer arbenigol, a mynediad at wybodaeth: Midi: Hyd at £5,000 am rhwng 5 ac 8 diwrnod o gefnogaeth; Maxi: Hyd at £10,000 am rhwng 10 a 15 diwrnod o gefnogaeth, a Talent, gyda gwerth hyd at £5,000 am interniaeth raddedig, 12 wythnos o hyd.
Dywedodd Nicola Sturrs, sef Rheolwr Datblygu Busnes y Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd ym Mhrifysgol Bangor: “Roeddem yn falch iawn o ddyfarnu Taleb Sgiliau ac Arloesedd i MPW Making Places Work.
“Mae gan Dr Thomas gyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd ynghylch marchnata digidol, a bydd ei gefnogaeth yn helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr â’r ddinas a’r gymuned leol, sy’n golygu y bydd myfyrwyr a pherchnogion busnes ar eu hennill.
“Ar ôl byw a gweithio ym Mangor am y rhan fwyaf o fy oes, mae gen i lawer o atgofion hapus o siopa a chymdeithasu ar y Stryd Fawr.
“Dyma’r lle i fod ac uchafbwynt yr wythnos, felly mae’n drist bod llawer o genhedlaeth heddiw, hen ac ifanc, yn colli’r profiad siopa cymdeithasol a’r cyffro o daro i mewn i wyneb cyfarwydd – rwy’n siŵr y bydd y project hwn yn newid hynny.”
Ychwanegodd: “Ar ôl derbyn llawer o ddatganiadau o ddiddordeb am ein Talebau Sgiliau ac Arloesedd, rydym wrth ein bodd ein bod wedi cefnogi dros 40 o fusnesau hyd yn hyn ar draws Ynys Môn, Gwynedd a Sir y Fflint dros yr wyth mis diwethaf.
“Rydym yn gobeithio parhau i gefnogi hyd yn oed mwy o gwmnïau o ogledd Cymru, a chydweithio â nhw wrth symud ymlaen.”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd | Prifysgol Bangor neu e-bostiwch siv@bangor.ac.uk.
Am fwy o wybodaeth am MPW Making Places Work ewch i’r wefan neu Facebook.