Eurovision: Mae’n fwy na chystadleuaeth canu
Mae podlediad diweddaraf Ysgol Busnes Bangor bellach wedi ei ryddhau ac ar gael i wrando arno a’i rannu. Y mis hwn bydd y podlediad yn canolbwyntio ar Gystadleuaeth yr Eurovision, gyda Lerpwl yn barod i gynnal Cystadleuaeth yr Eurovision ddydd Sadwrn 13 Mai ar ran Wcráin. Dyma’r 67fed tro i’r gystadleuaeth gael ei chynnal. Yn yr wythnosau’n arwain at y prif ddigwyddiad mae disgwyl i hyd at chwarter miliwn o ymwelwyr o bob rhan o Ewrop a'r Deyrnas Unedig heidio i Lerpwl, lle bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal. Ar drothwy’r digwyddiad mae’r lliwiau melyn, glas a magenta llachar, sy’n rhan o frandio nodedig y digwyddiad, i’w gweld ledled y ddinas, ac mae busnesau a grwpiau cymunedol yn y ddinas yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau a gweithdai ar thema Eurovision i dwristiaid a’r gymuned leol.
Bydd Dr Sonya Hana (Darlithydd mewn Marchnata) a Dr Linda Osti (Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Twristiaeth) yn trafod sut mae Cystadleuaeth yr Eurovision yn fwy na chystadleuaeth caneuon yn unig; mae'n gynyddol bwysig fel strategaeth dwristiaeth ac fel ffordd o farchnata lle.
Mae Dr Sonya Hana yn aelod o fwrdd rheoli’r Ganolfan Ymchwil ‘Lleoliadau Newid Hinsawdd’ yn y Brifysgol, yn aelod o fwrdd golygyddol y Journal of Place Management and Development, ac yn aelod o bwyllgor gwyddonol yr International Place Branding Association (IPBA). Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar le, gan ystyried agweddau ar y broses o frandio lle, a hynny o wahanol safbwyntiau, ond yn fwy diweddar bu’n edrych ar gynaliadwyedd, twristiaeth gynaliadwy, a lleoedd a newid yn yr hinsawdd.
Mae Linda Osti yn uwch ddarlithydd mewn Rheoli Twristiaeth yn Ysgol Busnes Bangor. Mae ganddi PhD o Victoria University (Awstralia) gyda thesis ynghylch ymddygiad defnyddwyr mewn twristiaeth. Cyn ymuno â Phrifysgol Bangor, bu’n gweithio ym Mhrifysgol Bozen-Bolzano (yn yr Eidal), ym Mhrifysgol Victoria, ac ym Mhrifysgol Southern Cross yn Awstralia. Mae hi wedi bod yn ymwneud â nifer o brojectau ymchwil mewn cydweithrediad â phrifysgolion cenedlaethol a rhyngwladol a phartneriaid mewn diwydiant. Mae ei phrif feysydd o arbenigedd ymchwil yn ymwneud ag ymddygiad defnyddwyr mewn twristiaeth, dilysrwydd, a thwristiaeth gynaliadwy.
Gwrandewch nawr - https://anchor.fm/bangorbusinesspodcast