Lansio podlediad - Ydych chi wedi clywed am ‘Rali Siôn Corn’
Heddiw, mae Ysgol Busnes Bangor yn falch iawn o gyhoeddi lansiad ein cyfres podlediadau newydd 'Penny For your Thoughts'.
Mae ein Podlediad newydd ar gael ar ein gwefan.
Pam 'Penny for your Thoughts? Ym mhodlediad cyntaf Ceiniog am dy Feddyliau mae Dr Steffan Thomas yn cyfweld â Dr Heather He, Darlithydd mewn Gwyddor Data/Dadansoddeg Data yn Ysgol Busnes Bangor. Daw Dr Heather â rhywfaint o hwyl yr ŵyl, a meddwl rhesymegol i'r hyn a adwaenir fel 'Rali Siôn Corn'. Beth yw'r ffenomen hon a sut rydym yn ei deall trwy Gyllid Ymddygiad? Mae gan Dr He brofiad helaeth o wneud ymchwil ar ymddygiad masnachu unigol a dadansoddi perfformiad mewn ecwiti, cyfnewid forex a marchnadoedd arian cyfred digidol, yn ogystal ag arbenigedd mewn cymryd risgiau ymddygiadol a gwneud penderfyniadau - damcaniaeth rhagolygon, rhagfarnau ymddygiad unigol, a damcaniaethau penderfyniadau.
Yn ein pennod cyntaf, mae Dr Steffan Thomas yn cyfweld â Dr Heather He, Darlithydd mewn Gwyddor Data/Dadansoddeg Data yn Ysgol Busnes Bangor. Daw Dr Heather hwyl yr ŵyl, a meddwl rhesymegol i’r hyn a elwir yn ‘Rali Siôn Corn’.
Tanysgrifiwch ar eich hoff sianel
Anchor -https://anchor.fm/bangorbusinesspodcast
Apple - https://podcasts.apple.com/us/podcast/penny-for-your-thoughts-by-bangor-business-school/id1659127167
Spotify - https://open.spotify.com/show/2KnYkrh4TWhNkGjgSOFUm2
Google Podcast - https://podcasts.google.com/feed/aHR0cHM6Ly9hbmNob3IuZm0vcy9jZjg4NzNmYy9wb2RjYXN0L3Jzcw