Lleol i’r byd-eang: Ai gogwydd arloesi yw’r ffordd i ryngwladoli busnesau bach a chanolig
Mae ein pennod podlediad nesaf bellach ar gael. Yn ymuno â'r tîm y mis hwn yw Dr Mahshid Bagheri o Ysgol Busnes Bangor, Mae Dr Bagheri yn ymchwilio'n ddyfnach i'r pwnc ai Cyfeiriadedd Arloesedd yw'r allwedd i ryngwladoli busnesau bach a chanolig?
Mae busnesau bach a chanolig yn cyfrif am 99.9% o holl fusnesau’r Deyrnas Unedig. Ond er gwaethaf eu swyddogaeth hanfodol yn ysgogi twf economaidd, mae busnesau bach a chanolig hefyd yn wynebu risg uchel o fethiant, gyda thua 60% yn methu o fewn eu pum mlynedd gyntaf o weithredu. Felly pam hynny, a beth y gellir ei wneud i helpu busnesau bach a chanolig i lwyddo yn y tymor hir? Bydd Dr Mahshid Bagheri, Darlithydd mewn Rheolaeth yn Ysgol Busnes Bangor yn ymuno â phodlediad ‘Penny for Your Thoughs’ Ysgol Busnes Bangor y mis hwn i fwrw golwg ar y mater hynod bwysig hwn.
Mae Dr Mahshid Bagheri yn ddarlithydd mewn Rheolaeth yn Ysgol Busnes Bangor ac mae hefyd yn ymchwilydd gyda diddordeb eang mewn rhyngwladoli, entrepreneuriaeth, arloesi, twf busnes a strategaeth a pherfformiad busnesau bach a chanolig.
Grandewch nawr - bangor.ac.uk/bbs/podcasts