Myfyriwr wedi'i enwebu ar gyfer gwobr fawreddog
Llongyfarchiadau I Uchechi Nwagboso Iro sydd wedi ei enwebu ar gyfer gwobr Myfyriwr Rhagorol Ysgol Busnes Bangor ar gyfer MBA Busnes Rhyngwladol yn Wobrau Rhagoriaeth 2024 y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI).
Fel ymateb i gael ei enwebu dywedodd Uchechi, “Mae’r ysgol wedi bod yn allweddol yn fy nghefnogi drwy gydol fy siwrne academaidd. O ddarparu adnoddau gwerthfawr i feithrin amgylchedd dysgu cydweithredol, mae Ysgol Busnes Bangor wedi bod yn ffactor allweddol yn fy llwyddiant, yn enwedig cefnogaeth fy nhiwtor personol”.
Pob lwc Uchechi!
![Llun Uchechi Nwagboso Iro](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-06/Headshot_Uchechi%20Nwagboso%20Iro.jpg?itok=mbM9lkG-)