Rhoi’r gorau iddi yn dawel: Ffenomen newydd neu ddim ond hen win mewn poteli newydd?
Mae'r haf yn aml yn gyfle i weithwyr ymlacio ychydig wrth iddynt gymryd eu gwyliau blynyddol. Ond beth os daw’r agwedd hon o ddirwyn gwaith i ben, neu roi'r gorau iddi’n dawel (‘quiet quitting’) fel y cyfeiriwyd ato’n ddiweddar, yn ‘normal newydd’ iddynt? Mae rhoi’r gorau iddi’n dawel wedi dod yn boblogaidd trwy amrywiol lwyfannau ar y cyfryngau cymdeithasol megis LinkedIn, Tiktok, Facebook ac Instagram. Ar yr olwg gyntaf, mae rhoi’r gorau iddi’n dawel yn swnio braidd yn negyddol, gan awgrymu o bosibl bod gweithwyr yn dirwyn eu gwaith i ben ac yn colli diddordeb yn eu tasgau dyddiol, ac o bosibl hyd yn oed yn ymddieithrio oddi wrth eu cydweithwyr a’u cyflogwyr. Ond a yw rhoi’r gorau iddi’n dawel yn 'ffenomen newydd' neu ddim ond yn enw newydd ar rywbeth rydyn ni wedi bod yn siarad amdano eisoes; hen win mewn poteli newydd fel maen nhw'n ei ddweud? Mae Dr Clair Doloriet, Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Adnoddau Dynol yn Ysgol Busnes Bangor, yn ymuno â’r podlediad ‘Penny for your Thoughts’ y mis hwn i daflu goleuni ar beth yw hyn ac a yw mor negyddol a niweidiol ag y mae’n swnio.
Mae Dr Clair Doloriert yn Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Busnes Bangor ac yn arbenigo mewn Ymddygiad Sefydliadol a Rheoli Adnoddau Dynol. Hi yw Pennaeth Israddedigion Blwyddyn 1 ac mae hefyd yn eistedd ar fwrdd Cymru y Sefydliad Rheolaeth Siartredig: un o bartneriaid allweddol yr Ysgol Busnes. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys ymgysylltu â gweithwyr, awtoethnograffeg a rhannu gwybodaeth.
Gwrandewch, dilynwch a rhannwch ar lein nawr.