Gyda chefnogaeth Prifysgol Bangor, mae Robert Lim Inventions Ltd yn paratoi i ddadorchuddio ei system injan gaeedig patent, a chodi arian angenrheidiol i fasnacheiddio’r cysyniad.
Dan arweiniad y cyfarwyddwr James Sheridan, mae’r cwmni o Lannau Dyfrdwy’n gweithio gyda’r Brifysgol i ddadansoddi a gwerthuso ei broses dal carbon arloesol, ar ôl derbyn Taleb Sgiliau ac Arloesedd gwerth £10,000.
Mae’r cynllun Taleb Sgiliau ac Arloesedd yn cynnig cyfle i gwmnïau yng Ngwynedd, Ynys Môn a Sir y Fflint gydweithio drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae Robert Lim Inventions wedi ymuno â’r Athro Michael Rushton a’i dîm yn y Sefydliad Dyfodol Niwclear, i brofi’n drylwyr ran allweddol o’r broses batent, cyn datgloi ffrydiau buddsoddi a refeniw.
Yn anffodus, bu farw Robert y llynedd, ond yn ôl James – sy’n ymgynghorydd, awdur ac entrepreneur blaenllaw o Ynys Môn – maent yn benderfynol o gyflwyno’r system i’r farchnad a smentio ei waddol.
“Mae Robert wedi dylunio ac adeiladu prototeip, a ffeilio patent ar y system hon, sy’n dal carbon deuocsid wrth gynhyrchu trydan ar yr un pryd, a thrwy hynny, hwyluso proses lawer mwy cost effeithiol, a fydd, yn ein barn ni, os ydym yn profi’r cysyniad, yn allweddol i alluogi’r broses o fabwysiadu’r system ar y raddfa fyd-eang enfawr sydd ei hangen i gefnogi’r newid yn yr hinsawdd,” meddai James.
“Mae difrod amgylcheddol, a achosir gan gynnydd mewn carbon deuocsid yn atmosffer y ddaear, yn cael ei gydnabod fel bygythiad i ddyfodol y blaned, ac mewn ymgais i fynd i’r afael â hynny, mae targedau twf glân a datgarboneiddio wedi’u gosod ar lywodraethau ac awdurdodau lleol. Gallai hyn fod yn un o’r datrysiadau sydd eu hangen i helpu i fynd i’r afael â’r mater.”
Ychwanegodd: “Mae colled enfawr ar ôl Robert, ond mae gennym dîm cryf o’n cwmpas, ac ynghyd â’r patent Deyrnas Unedig a roddwyd i’r injan gaeedig, byddwn yn parhau i ddatblygu’r cysyniad trwy’r llwybr i fasnacheiddio yn y Deyrnas Unedig, yn ogystal â’r llwyfan rhyngwladol.”
Mae'r system fecanyddol yn cael ei gyrru gan ffynhonnell ynni adnewyddadwy, gyda meginau’n gwthio aer i danc llawn hylif, ac yn troi padlau i gynhyrchu trydan. Mae’r trydan hwnnw’n cael ei ddal mewn batri cyfagos, ac yn rhyddhau carbon deuocsid (CO2) i'r hylif.
Ar ôl hynny, mae proses 'cemegol hylif gludiog' (sy'n defnyddio Monoethanolamin ar hyn o bryd) yn dal y CO2, ac mae’r aer glân yn cael ei ryddhau i'r atmosffer. Pan fydd yr hylif yn y tanc yn ddirlawn â CO2, caiff ffilament gwresogi ei actifadu, gan ryddhau'r CO2 i'w dynnu i danc eilaidd. Caiff wedyn ei gadw mewn storfa, yn barod at ddefnydd diwydiannol neu atafaeliad.
“Gyda chefnogaeth Prifysgol Bangor, rydym yn gwneud cynnydd da, a’r her nawr yw casglu cyllid sbarduno o hyd at £250,000 er mwyn cynhyrchu prototeipiau ar raddfa, hyd at gwnned treialau prawf cysyniad a phrofion dilysu,” meddai James.
“Mae’n gyfnod cyffrous; Mae breuddwyd Robert yn cael ei wireddu, ac rydym yn ddiolchgar i’r Athro Rushton, a’r tîm, am weithio mewn partneriaeth â ni i wneud i’w wireddu.”
Dywedodd Rheolwr Datblygu Busnes Prifysgol Bangor, Nicola Sturrs, fod y cais am gymorth Talebau Sgiliau ac Arloesedd gan Robert Lim Inventions yn enghraifft o sut y gall cwmnïau fanteisio ar gefnogaeth academaidd ganolog i ddatblygu eu syniadau.
“Mae hon yn system arloesol a allai gael effaith fawr ar y ras i sero net, wrth i sefydliadau’r sector preifat a chyhoeddus geisio lleihau eu hôl troed carbon,” ychwanegodd.
“Rydym yn dymuno pob lwc i James a’r tîm, ac rydym yn falch bod y cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd wedi cael effaith gadarnhaol ar gyflawni eu nodau.”
Ariennir y project Talebau Sgiliau ac Arloesedd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig ar ran Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Sir y Fflint.
Mae tri math o daleb ar gael, y gellir eu hadbrynu mewn ystod o feysydd gan gynnwys ymchwil a datblygu, ymgynghoriaeth, sgiliau a hyfforddiant, defnyddio cyfleusterau prifysgol, defnyddio offer arbenigol, a mynediad at wybodaeth.
Sef: Midi: Hyd at £5,000 am rhwng pump ac wyth diwrnod o gefnogaeth; Maxi: Hyd at £10,000 am rhwng 10 a 15 diwrnod o gefnogaeth, a Talent, gyda gwerth hyd at £5,000 am interniaeth raddedig, 12 wythnos o hyd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd | Prifysgol Bangor neu e-bostiwch siv@bangor.ac.uk.
Anfonwch e-bost at james@straitsline.co.uk am ragor o wybodaeth am Robert Lim Inventions.