Toby Dixon - Sylfaenydd Cronfa Ecwiti Preifat “Gall entrepreneuriaid fod yn raddedigion hefyd”
Daeth Toby Dixon, miliynydd a wnaeth ei ffortiwn ei hun ac sydd bellach yn sylfaenydd cronfa ecwiti preifat, i Brifysgol Bangor i astudio Astudiaethau Busnes a Marchnata.
Ym Mangor, bu Toby hefyd yn gweithredu fel entrepreneur - gan weithio’n ddiflino ochr yn ochr â'i astudiaethau, cyn graddio yn 2002. Ar ôl 20 mlynedd o brofiad mewn busnes, gwerthodd ei fusnes recriwtio am dros £30m. Yn ogystal â rhai buddiannau busnes eraill uchel eu proffil, mae bellach yn rhedeg Growth Fund 1, cronfa ecwiti preifat sydd ar gyfer entrepreneuriaid yn unig. Mae’n fodd iddynt sicrhau mwy o elw, twf rheoledig a phrosesau ymadael llwyddiannus ar gyfer busnesau sy’n eiddo i sylfaenwyr.
Enillodd Toby wobrau lu gan gynnwys Gwobr y Frenhines am Fasnach Ryngwladol a Gwobrau Busnes Ewrop yn 2019. Mae'n cael sylw cyson yng nghyhoeddiadau'r diwydiant. Caiff ei restru'n rheolaidd yn rhestr 1000 o gwmnïau’r FT, detholiad blynyddol y Financial Times o’r cwmnïau sy'n tyfu gyflymaf yn Ewrop. Meithrinodd Toby gysylltiadau proffil uchel ym myd busnes: ef oedd un o'r Ymgynghorwyr Buddsoddwyr cyntaf i fuddsoddi yn 'Flight Fund' Steven Bartlett, seren Dragons' Den y BBC, trwy wahoddiad yn unig'.
Dywedodd Toby Dixon: “Darganfyddais yr awch i fod yn entrepreneur yn ifanc iawn. Mae yna gred bod entrepreneuriaid yn ymadael â’r ysgol yn 16 oed ac yn meddu ar stori o godi o garpiau i gyfoeth, ond nid felly oeddwn i - gall entrepreneuriaid fod yn raddedigion hefyd.
Uchod: Toby Dixon
“Bu bron imi roi'r gorau i Brifysgol Bangor i redeg busnes dosbarthu cyfrifiaduron o fflat un ystafell ond penderfynais ddal ati. Gwyddwn y byddai pobl yn fwy tebygol o ‘nghymryd i o ddifri’ petai gen i radd, ac rwy'n falch iawn fy mod i wedi graddio. Bûm yn dilyn Ysgol Busnes Bangor dros y blynyddoedd, a gallaf weld bod ganddi gyn-fyfyrwyr gwych a chysylltiadau rhyngwladol bellach.
“Fy nghyngor gorau i fyfyrwyr yw gweithio'n galed y tu hwnt i’ch astudiaethau - nid yn unig ar eich cwrs, ond i gael profiad o’r byd go iawn yn y gweithle tra rydych yn y brifysgol. Cyflogais gannoedd o raddedigion dros y blynyddoedd, ac mae’n amlwg wastad pwy oedd y rhai oedd â swydd wrth astudio. Mae cyflogwyr eisiau pobl sy’n fodlon dal ati ac rwy'n credu'n gryf bod gwaith caled yn drech na thalent.
“Gweithiwch yn galed, ymrwymwch a pheidiwch â rhoi’r gorau iddi – dyma’r mantras a fu o fudd mawr imi mewn bywyd.”
“Mae'r farchnad recriwtio’n gystadleuol iawn - dwi'n poeni am ddyfodol cenhedlaeth fy mhlant os na fyddant yn ymdrechu'n galetach na'u cyfoedion. Mae'r lôn at lwyddiant yn anodd: rhaid gweithio’n galed iawn i lwyddo ar y lefel uchaf. Nid yw addysg ddisglair yn ddigon bellach.
“Wrth gwrs, mae bywyd entrepreneur llwyddiannus yn fodd i sicrhau’r pethau da mewn bywyd a dylech chi anelu’n uchel. Wedi dweud hynny, nid Ferraris a hofrenyddion yw fy mywyd i gyd - mae rhoi rhywbeth yn ôl yn bwysig iawn. Roeddwn i wastad yn mwynhau'r gystadleuaeth rhwng y Cymry a'r Saeson wrth chwarae rygbi ym Mhrifysgol Bangor, ac rwyf bellach yn hyfforddi fy nhîm rygbi lleol dan 9 yn ogystal â thîm anabl SEND. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at ddod yn fentor trwy Ymddiriedolaeth y Tywysog fel y gallaf ddarganfod entrepreneuriaid y dyfodol a’u cefnogi.”
Os hoffech chi ddysgu mwy am sefydlu busnes a dod yn entrepreneur llwyddiannus, mae Ysgol Busnes Bangor yn lansio gradd newydd ar gyfer Medi 2024: BSc Menter Busnes ac Entrepreneuriaeth
Darganfyddwch fwy am gyrsiau eraill mewn Busnes a Marchnata yn Ysgol Busnes Bangor