Cynhaliodd Ysgol Busnes Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Discover Economics, ei chynhadledd economaidd gyntaf erioed ddydd Iau, 24 Hydref, gan ddenu myfyrwyr o bob rhan o ogledd Cymru i drafod cyfraniad hanfodol economeg at ddatblygiad y byd. Roedd y gynhadledd wedi ei chynllunio i danio chwilfrydedd ac ehangu gorwelion, a daeth disgyblion o flwyddyn 11, 12, a 13 at ei gilydd am ddiwrnod o ddysgu rhyngweithiol gyda’r nod o arddangos grym trawsnewidiol economeg a’i chyfleoedd gyrfa amrywiol.
Roedd y gynhadledd yn cynnwys sesiynau rhyngweithiol, ymarferol, dan arweiniad economegwyr ifanc o Lywodraeth Cymru a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, gan gynnig golwg fewnol i fyfyrwyr ar sut mae economeg yn dylanwadu ar benderfyniadau mewn sectorau amrywiol. O bolisi cyhoeddus i fusnes, tynnodd y sesiynau hyn sylw at effaith meddwl economaidd yn y byd go iawn.
Un o uchafbwyntiau'r digwyddiad oedd cyflwyniad i gystadleuaeth Economegydd Ifanc y Flwyddyn y Gymdeithas Economaidd Frenhinol, a noddir gan KPMG. Mae’r gystadleuaeth yn annog myfyrwyr i fynd i’r afael â rhai o’r heriau byd-eang mwyaf enbyd, gan gynnig llwyfan cenedlaethol iddynt arddangos eu syniadau a’u sgiliau dadansoddi.
Dywedodd Riaz Anwar, Uwch Ddarlithydd Cyfrifeg a Chyfarwyddwr Allgymorth ac Ymgysylltu yn Ysgol Busnes Bangor, “Rydym yn falch dros ben o gydweithio â Llywodraeth Cymru a Discover Economics yn y digwyddiad gwych hwn. Ein nod yw ysbrydoli pobl ifanc trwy ddangos iddynt sut mae economeg yn mynd y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth - mae'n ymwneud â datrys problemau'r byd go iawn. Mae’r gynhadledd hon yn datgloi’r economeg bosib ac yn tynnu sylw at y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael i fyfyrwyr yn y maes deinamig hwn.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans: “Gall digwyddiadau fel hyn feithrin chwilfrydedd a helpu i fagu darpar arweinwyr Cymru.
Mae’r gynhadledd hon yn gyfle i gael profiadau ymarferol yn y byd go iawn a gallai hynny fod yn sbardun i’r syniad mawr nesaf a fydd yn newid ein bywydau er gwell. Rwy’n gobeithio i’r holl ddarpar economegwyr fwynhau’r profiad ac rwy’n estyn fy niolch i bawb a wnaeth hyn yn bosibl.”
Meddai Dr Jo Davies, Pennaeth Economeg a Gwerth Iechyd y Cyhoedd Llywodraeth Cymru, “Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ddisgyblion TGAU a Lefel A yng ngogledd Cymru glywed am y cyfleoedd cyffrous ac amrywiol y gall cymwysterau mewn economeg eu cynnig. Rhoddodd y siaradwyr gwadd gipolwg difyr ar eu gyrfaoedd economeg mewn amrywiaeth o sectorau o'r byd academaidd a'r llywodraeth i ofal iechyd. Roedd y trefnwyr wedi cyfuno cyflwyniadau a thrafodaethau gyda sesiynau rhyngweithiol gan sicrhau diwrnod hynod ddiddorol. Gobeithio bod pawb oedd yma heddiw yn cael eu hysbrydoli i ddilyn gyrfa mewn economeg.”
Meddai Sam McLoughlin, Uwch Reolwr Ymgyrchoedd – Discover Economics, “Roedd Discover Economics yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor i gynnal y digwyddiad allgymorth pwysig hwn gyda chefnogaeth allweddol gan Lywodraeth Cymru. Nid yw pawb yn gallu astudio economeg yn yr ysgol ac felly mae'n hanfodol bod digwyddiadau fel hyn yn cael eu cyflwyno, gan agor eu llygaid i'r gyrfaoedd cyffrous a gwerth chweil mewn economeg a all gael effaith gadarnhaol yn eu cymuned."
Dywedodd un disgybl o Ysgol Glan Clwyd, “Mae dod i Brifysgol Bangor heddiw wedi agor fy llygaid i’r hyn y gall astudio economeg ei wneud ar gyfer fy ngyrfa a’r budd y gallaf gael ohono.”
Wrth i Ysgol Busnes Bangor baratoi at ei digwyddiad nesaf i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, gwahoddir ysgolion a cholegau i ofyn am sesiynau arbenigol ar unrhyw adeg trwy gyflwyno’r ffurflen hon.
Mae'n gyffrous iawn i fod yma heddiw ym Mhrifysgol Bangor ar gyfer digwyddiad gwych gyda chant o fyfyrwyr yn mwynhau ystod eang o weithgareddau. Y rheswm pam rydyn ni yma heddiw yw oherwydd ein bod ni eisiau i bobl ifanc gael cipolwg ar fyd economeg ac efallai newid eu canfyddiadau ynghylch yr hyn y gallen nhw ei wneud fel gyrfa mewn economeg, a'r hyn y gallant ei wneud yma yng Nghymru.
Mae'r gynhadledd rydym wedi'i chynnal heddiw yn Ysgol Busnes Prifysgol Bangor yn ysbrydoli myfyrwyr i ddeall beth yw economeg a pham astudio economeg. Mae'n bwnc gwych, perthnasol a chyffrous sy'n helpu i ddatrys problemau bywyd bob dydd go iawn.
Yn y brifysgol ges i gyfle i siarad â’r tîm gyrfaoedd am nifer o gyfleoedd eang sydd i gael yn y byd economeg. Roeddwn i moin dod nôl i Gymru ac aros yng Nghymru. Roedd cael y cyfle i weld bod Llywodraeth Cymru yn cymryd mlân economegwyr o ddiddordeb mawr i mi.
Yn aml, mae llawer o bobl yn meddwl bod economegwyr yn gweithio ym maes cyllid, efallai gweithio yn Llundain, ond mewn gwirionedd, gall pobl ifanc weithio fel economegwyr yma yng Nghymru a chael gyrfaoedd cyffrous iawn. Dyna beth mae'r bobl ifanc yn ei ddysgu heddiw. Rwy'n credu eu bod yn gyffrous iawn wrth weld y drysau a allai agor iddynt ar ôl y digwyddiad hwn i'w helpu i gael gyrfa gyffrous ond hefyd rhoi rhywbeth yn ôl i'w cymuned.
Ffocws arall sydd gennym yma yn Ysgol Busnes Bangor yw ymgysylltu ag ysgolion a gwahodd ysgolion i gymryd rhan yn ein gweithdai rhyngweithiol gan ein bod yn awyddus iawn i gadw talent yng Ngogledd
Gall economegwyr weld un peth ac maen nhw'n gallu ei gyfieithu i rywbeth hollol ddarllenadwy i rywun nad oes ganddynt ddiddordeb mewn economeg, dim dealltwriaeth economaidd.
Roedd gennych bobl dadansoddi data yn siarad am yr hyn maen nhw'n ei wneud a'r hyn maen nhw'n ei astudio a sut mae rhai pobl wedi trosglwyddo o fancio i economeg.
Dwi’n meddwl bod mynd mewn i fywyd byd busnes erioed wedi bod o ddiddordeb i mi. Dwi’n meddwl bod yn berchennog ar fusnes neu fod yn rheoli pres am fod yn reit ddiddorol.
Dwi’n meddwl bod dod yma i Brifysgol Bangor heddiw wedi agor fy llygaid i beth gallai astudio economeg wneud i fy ngyrfa a beth alla i gael o astudio economeg.