A group around a table with laptops and phones

Y Clinig Busnes

Yma i helpu busnesau i gael y cyngor a'r cymorth sydd eu hangen arnynt.  

Business People at a Table

Amdanom Ni

Mae’r Clinig Busnes yn cydnabod y cysylltiadau hir sefydlog gyda diwydiant sydd gan yr Ysgol Busnes ac yn gwahodd busnesau newydd a darpar fusnesau i fanteisio ar y cyfoeth o brofiad sydd gan yr Ysgol Busnes i’w gynnig.  Trwy'r Clinig Busnes, gall perchnogion busnes presennol a darpar berchnogion busnes gael mynediad at wybodaeth, sgiliau a phrofiad arweinwyr heddiw ac arweinwyr y dyfodol, sef ein myfyrwyr.

CYMERWCH RAN

Gall gweithwyr busnes proffesiynol heddiw a gweithwyr busnes y dyfodol fod yn rhan o’r Clinig Busnes mewn sawl ffordd:

  • Fel siaradwr gwadd
  • Cyflwyno her fusnes i'n myfyrwyr mewn sesiwn gweithdy
  • Fel cleient i'n myfyrwyr ymgynghorol
  • Gweithio gydag un o'n myfyrwyr traethawd hir
  • Cynnig interniaeth neu brofiad gwaith
  • Cymryd rhan mewn ymchwil gyda'n hymchwilwyr academaidd
  • A llawer mwy!​

Gweithio gyda’n Myfyrwyr

Fel rhan o ymrwymiad Ysgol Busnes Bangor i ddysgu, rydym yn ymdrechu i sicrhau bod myfyrwyr yn cael cyfle i weithio ar heriau busnes go iawn ar eu modiwlau trwy gydol eu rhaglen radd, gan gyfoethogi eu profiad fel myfyrwyr a'u sgiliau cyflogadwyedd.

Cwestiynau Cyffredin

Mae gennym ddiddordeb clywed gan fusnesau o unrhyw fath, mewn unrhyw sector, a phobl sydd eisiau dechrau eu busnesau eu hunain.

Gallwch, hoffem glywed gennych ar yr amod eich bod wedi cael caniatâd perchennog/cyfarwyddwr y busnes i weithio gyda ni.

Trwy weithio gyda'n myfyrwyr, byddwch yn helpu rhoi profiad i raddedigion busnes y dyfodol.  Bydd ein myfyrwyr yn defnyddio eu gwybodaeth a’u profiad wrth astudio i helpu i fynd i’r afael â’r her(iau) busnes sydd gennych dan sylw. Caiff y myfyrwyr eu harwain gan academyddion blaenllaw ym maes busnes.

Na, nid yw’n costio dim.  Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i sicrhau effaith economaidd, cymdeithasol a dinesig, ac mae’r fenter Clinig Busnes yn un ffordd o wneud hyn, o blith eraill. Yr unig beth rydym yn gofyn amdano yw eich amser. 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?