Mae'r thema Datblygiadau methodolegol ac arloesi yn adlewyrchu un o gryfderau canolog Ysgol Busnes Bangor sef trylwyredd manwl ein hymchwilwyr o ran methodoleg a’u hangerdd am greu gwybodaeth newydd er budd cyd-academyddion mewn meysydd amrywiol.
Mae llawer o'r datblygiadau dadansoddol wedi'u hymgorffori ym mhrosesau sawl cwmni. Er enghraifft, mae ymchwil rhagolygon wedi effeithio ar brosesau cwmni Siemens, Carl Kammerling International Ltd, a Roberts o Bortdinorwic. Nod y gwaith presennol gyda Stockomendation yw datblygu cyfres o fodelau i ddadansoddi argymhellion stoc ar gyfer masnacheiddio.
Mae'r thema hon yn cwmpasu gwyddor gymdeithasol ac ymchwil economaidd, gan ddefnyddio dulliau meintiol yn y meysydd canlynol: rheoli perfformiad ac optimeiddio sy'n cynnwys hyrwyddo dulliau empirig o ragfynegi, ac ehangu gweithrediad modelau effeithlonrwydd. Er enghraifft, datblygu dull Theta a chymharu'r dull hwn â dulliau rhagfynegi eraill (Nikolopoulos). Astudir hefyd ganlyniadau heterogenedd heb ei arsylwi gan ddefnyddio gwahanol ddulliau econometrig wrth amcangyfrif dau fodel gwerth-perthnasedd mawr, sef y Model Atchweliad Pris a'r Model Atchweliad Adenillion (Vasilakis). Dyma enghreifftiau o fodelu arloesol sy'n canolbwyntio ar ddulliau newydd sy’n cysylltu pynciau nad oeddent yn gysylltiedig o'r blaen â modelau newydd.
Er enghraifft, datblygu model damcaniaethol lle mae newyddion credyd sofran gan asiantaethau graddio lluosog yn rhyngweithio â heterogenedd y farchnad, neu ddatblygu dull hydrin newydd ar gyfer amcangyfrif cost hedonig (Alsakka, O ap Gwilym). Mae un maes arall yn ymwneud â seicometreg a datblygu graddfa, sy'n cynnwys datblygu graddfeydd newydd neu fesurau empirig newydd, datblygu ffurfiau byr o raddfeydd presennol, a gwerthusiadau trawsddiwylliannol o raddfeydd sefydledig (Hanna, Hassan, Shiu). Mae un ar ddeg aelod o staff wrthi'n ymchwilio ac yn cyhoeddi pynciau o dan y thema hon.
Staff Thema Ymchwil:
Dr Rasha Alsakka, Yr Athro John Ashton, Yr Athro Owain ap Gwilym, Dr Sonya Hanna, Yr Athro Louise Hassan, Dr Azhdar Karami, Dr Noemi Mantovan, Yr Athro Kostas Nikolopoulos, Yr Athro Edward Shiu, Dr Chrysovalantis Vasilakis, Yr Athro Jonathan Williams
Stori Effaith
Dadansoddeg Ragfynegol yn forLAB: Rhagfynegi gyda Dull Theta a Chydgrynhoi Amseryddol
Mae forLAB Yr Athro Nikolopoulos yn labordy rhagweld ym Mhrifysgol Bangor sy'n canolbwyntio ar Ddadansoddeg Ragfynegol. Mae gwaith arloesol dull Theta yr Athro Nikolopoulos yn cael ei ddefnyddio’n eang gan fusnesau a llywodraethau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol gan arwain at arbedion effeithlonrwydd ac economaidd sylweddol. Mae UBER yn defnyddio’r dull Theta ledled y byd ar gyfer rhagweld cyfresi amser amledd uchel (hyd at 10munud). Y rheswm dros ddefnyddio’r dull yw'r cywirdeb profedig a'r cyflymder cyfrifiannol. Mae BOSCH yn defnyddio Theta i ragweld y galw am eu cyfres boblogaidd iawn o beiriannau. Mae Amazon WS yn meincnodi yn erbyn Theta. Yn ddiweddar, canolbwyntiodd forLAB ar ddulliau Cydgrynhoi Amseryddol sydd wedi arwain at arbedion sylweddol i Siemens hefyd wrth lunio stocrestri.