Goruchwyliaeth effeithiol: gweithdy i oruchwylwyr myfyrwyr doethuriaeth (Deuddydd ar-lein)
Dydd Llun- Dydd Mawrth 16fed ac 17eg Ionawr 2023
Amser: Bydd y sesiwn yn agor am 9am y diwrnod cyntaf ac yn aros yn agored am 48 awr. Anfonir amserlen ymlaen llaw at yr holl gyfranogwyr.
Gofynion: Cyfrif Google.Bydd y gweithdai trwy Google Docs.
Tiwtor: John Wakeford
Mae ymgymryd â swyddogaeth goruchwylio myfyrwyr ymchwil yn un o'r tasgau mwyaf cyfrifol a heriol yn aml mewn gyrfa academaidd. Dylai hefyd fod yn un o'r rhai mwyaf buddiol.
Ond fel gyda swyddogaethau proffesiynol eraill, er mwyn bod yn effeithiol mae angen i oruchwyliwr baratoi.
Dros y 35 mlynedd ddiwethaf mae John wedi datblygu ei agwedd unigryw at hyn, yn seiliedig ar rannu profiadau, ymarferion grŵp, hyblygrwydd a defnyddio adroddiadau uniongyrchol a roddir gan fyfyrwyr doethurol, goruchwylwyr ac arholwyr. Ers 2010 mae wedi gweithio gydag Ysgol Ddoethurol Prifysgol Bangor yn datblygu fersiwn wedi'i theilwra i staff yn y brifysgol sydd wedi cael derbyniad da gan gyfranogwyr, sy'n newydd i oruchwylio neu'n brofiadol.
Yn y gorffennol mae wedi cyflwyno hyn wyneb yn wyneb, ond, ar gyfer y sefyllfa bresennol, mae bellach wedi paratoi fersiwn ar-lein lle gall hyd at 15 o gyfranogwyr gymryd rhan o'u cartref neu o unrhyw leoliad arall ar adegau sy'n gyfleus iddynt. Efallai na fydd yn golygu dim mwy na saith awr o waith ond byddwch yn cymryd rhan trwy ymuno â dogfen gyfrinachol Google Docs a grëwyd gan yr holl gyfranogwyr a fydd yn agored i'r holl gyfraniadau dros gyfnod o 48 awr.
Ar ôl i chi gofrestru, bydd John yn anfon JotForm atoch, bydd ef yn gofyn i chi ymlaen llaw am eich maes ymchwil, eich profiad o oruchwylio, unrhyw faterion yr hoffech iddynt gael sylw yn ystod y sesiwn ac unrhyw anghenion arbennig. Bydd wedyn yn eich gwahodd i ymuno â thudalen newydd Google Docs a fydd yn ddull cyfathrebu i'r holl gyfranogwyr ar gyfer y sesiwn gyfan.
Bydd Penny Dowdney, Rheolwr yr Ysgol Ddoethurol, yn ymuno â'r sesiwn am ran o'r amser i ymdrin ag unrhyw ymholiadau penodol sy'n ymwneud â threfniadau Bangor.
Bydd y rhaglen ddangosol yn cael ei theilwra i'r pynciau rydych chi'n eu codi ond caiff ei haddasu wrth i ni fynd ymlaen. Bydd yn sicr yn ymdrin â materion fel:
- Rheoliadau penodol ar gyfer goruchwylwyr a myfyrwyr Bangor
- Datblygu perthynas dda rhwng goruchwyliwr a myfyriwr
- Sut i benderfynu a yw gwaith y myfyriwr yn ddigon da i lwyddo
- Sut i helpu myfyriwr i orffen mewn pryd